Chwilio Manwl

Taith Rithwir

Mae gwefan y System Cyfiawnder Troseddol Ar Lein wedi datblygu taith rithwir ryngweithiol. Mae’r daith yn dangos y sefyllfaoedd y gallai tyst ddod ar eu traws; o’r adeg y bydd yr heddlu yn cael gwybod am drosedd, trwy ymchwiliad yr heddlu, penderfyniadau’r erlyniad, prosesau’r llys, a dedfrydu.

Rhagor o wybodaeth i ddioddefwyr a thystion

Mae’r CPS yn parhau i wneud cynnydd tuag at rannu’r weledigaeth.

Gwneud i gyfiawnder dalu

Gan weithio gyda’r heddlu, rydym yn benderfynol o sicrhau na fydd troseddu yn talu.

Fe ddaeth Deddf Elw Troseddau 2002 (POCA) i rym yn 2003. Dyma ei nod:

  • rhwystro troseddwyr neu gyd-droseddwyr rhag gwyngalchu elw troseddau a mynd ati i ganfod a chosbi gwyngalchu o’r fath
  • adennill arian a wnaed trwy droseddu neu y bwriedir ei ddefnyddio i droseddu, a’i ddefnyddio er budd y gymuned.

Dyma atgoffa pawb sy’n cyflawni trosedd er elw ariannol y bydd cael eu dal nid yn unig yn golygu’r risg o gael dedfryd o garchar, ond hefyd y bydd eu harian ac unrhyw asedau yn cael eu cymryd oddi arnynt.

Yn ystod 2005-06, llwyddodd y CPS i sicrhau dros 3,000 gorchymyn atafaelu oedd yn werth dros £87 miliwn.

Brig y dudalen

Adfocatiaeth fewnol

Bydd erlynwyr modern yn cynnal eu hadfocatiaeth eu hunain fel mater o drefn. Bu ein Gweithwyr Achosion Penodedig yn mynd ati’n gyson i erlyn achosion yn gadarn a theg mewn llysoedd ynadon, ac mae erlynwyr heddiw yn magu mwy a mwy o brofiad yn Llys y Goron.

Gan ddwyn yr enw Adfocadau Llys Uwch (HCA), mae’r cyfreithwyr a’r bargyfreithwyr hyn wedi cael hawliau arbennig i ymddangos mewn llysoedd uwch.

Bydd cronfa ddawnus y Gwasanaeth o adfocadau mewnol yn mynd ati fwyfwy i ddefnyddio eu doniau mewn treialon sy’n parhau’n hwy ac sy’n gynyddol gymhleth.

Dyma un o seiliau gweledigaeth y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus y bydd y CPS yn wasanaeth erlyn gyda’r gorau yn y byd, sy’n mynd ati i gynnal ei adfocatiaeth ei hun fel mater o drefn.

Brig y dudalen

Plant a phobl ifanc – Polisi’r CPS ynghylch erlyn achosion troseddol yn ymwneud â phlant a phobl ifanc fel dioddefwyr a thystion

Mae’r ddogfen hon yn ymwneud â phlant a phobl ifanc sy’n dioddef trosedd, neu sy’n dystion mewn treialon troseddol. Mae plant yn ddioddefwyr neu’n dystion mewn llawer o’r achosion y byddwn yn delio â nhw. Mewn unrhyw achosion o’r fath, byddwn yn troi at y polisi hwn.

Bydd plant yn mynd gerbron llys fel diffynyddion hefyd. Y gobaith yw y bydd y rhai sy’n eu cefnogi yn cadw at egwyddorion y polisi hwn.

Plant a phobl ifanc – Polisi’r CPS ynghylch erlyn achosion troseddol yn ymwneud â phlant a phobl ifanc fel dioddefwyr a thystion – PDF Saesneg

Plant a phobl ifanc – Polisi’r CPS ynghylch erlyn achosion troseddol yn ymwneud â phlant a phobl ifanc fel dioddefwyr a thystion – PDF Cymraeg

Brig y dudalen

Cyfweliadau gyda thystion cyn treial: Côd ymarfer

Mae’r Côd Ymarfer hwn, a gyflwynwyd gan y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus, yn rhoi arweiniad i erlynwyr sy’n cynnal cyfweliadau cyn treial gyda thystion mewn cynllun peilot a gynhaliwyd yn Rhanbarthau’r CPS yn Swydd Gaerhirfryn, Manceinion Fwyaf, Glannau Mersi a Chymbria rhwng Ionawr a Medi 06.

Os bydd arnoch angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Ddesg Gymorth Polisi drwy ffonio 020 7796 8471, neu drwy e-bost, yn HQPolicy@cps.gsi.gov.uk

Cyfweliadau gyda thystion cyn treial: Côd ymarfer

Brig y dudalen

Adfocadau Dioddefwyr– Cyhoeddi Protocol Barnwrol

Yn berthnasol i droseddau llofruddiaeth neu ddynladdiad a gyhuddir ar ôl 24 Ebrill 2006, mae cynllun peilot Adfocadau Dioddefwyr yn caniatáu i deulu dioddefwr wneud datganiad yn y llys ynghylch effaith y trosedd ar eu teulu.

Wrth wneud y datganiad hwn, gall teuluoedd dioddefwyr ofyn am gymorth gan erlynydd y CPS neu gan adfocad annibynnol gyda hawliau ymddangos Llys Uwch. Mae Adfocadau Dioddefwyr yn cael eu treialu yn Y Llys Canolog Troseddau, Llys y Goron Birmingham, Llys y Goron Caerdydd, Llys y Goron Manceinion a Llys y Goron Caer-wynt.

I gael rhagor o wybodaeth am y protocol, ewch i wefan Barnwriaeth Cymru a Lloegr.

Brig y dudalen

Teithiau rhithwir i ddioddefwyr a thystion

Taith Rithwir y Dioddefwr

Mae CJS Online wedi datblygu taith rithwir ryngweithiol i roi gwybodaeth am broses y System Cyfiawnder Troseddol fel y mae’n ymwneud â dioddefwr troseddau.

Taith Rithwir y Tyst

Mae’r daith hon gan CJS Online yn ceisio eich arwain trwy’r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru a Lloegr o’r adeg y bydd yr heddlu yn cael gwybod am drosedd, trwy ymchwiliad yr heddlu, penderfyniadau’r erlyniad, prosesau’r llys, a dedfrydu, gan egluro rôl y tyst ar bob cam.

Brig y dudalen