Chwilio Manwl

Taith Rithwir

Mae gwefan y System Cyfiawnder Troseddol Ar Lein wedi datblygu taith rithwir ryngweithiol. Mae’r daith yn dangos y sefyllfaoedd y gallai tyst ddod ar eu traws; o’r adeg y bydd yr heddlu yn cael gwybod am drosedd, trwy ymchwiliad yr heddlu, penderfyniadau’r erlyniad, prosesau’r llys, a dedfrydu.

Trais yn y cartref

Bydd UN menyw o bob PEDAIR yn cael profiad o drais yn y cartref ryw adeg yn ystod eu hoes.

Bydd DWY fenyw yn cael eu lladd bob wythnos gan bartner presennol neu flaenorol.

Os bydd dioddefwr yn penderfynu tynnu ei gefnogaeth ef neu hi yn ôl neu os na fydd yn awyddus i roi tystiolaeth bellach, nid yw’n golygu y bydd yr achos yn dod i ben yn awtomatig. Cyn penderfynu bwrw ymlaen ag erlyniad ai peidio, byddwn yn ystyried yr holl ddewisiadau sydd ar gael, gan sicrhau mai ein blaenoriaeth gyntaf fydd diogelwch y dioddefwr, plant ac unrhyw un arall sydd mewn perygl.

Byddwn yn ceisio llunio achosion ar sail tystiolaeth heblaw’r hyn a geir gan y dioddefwr, er enghraifft, tystiolaeth o’r lleoliad, adroddiadau gan heddweision, a chofnod o alwadau 999.

Mae bod yn dreisgar tuag at fenywod a phlant yn drosedd -

Trais yn y cartref
Treisio ac ymosod yn rhywiol
Priodas orfod
Cam-drin plant
Cam-drin yr henoed
Masnachu pobl
Puteindra
Llurgunio organau rhywiol merched

Wrth erlyn achosion o drais yn y cartref, fe fyddwn yn defnyddio’r diffiniad canlynol:

"Unrhyw drosedd sy’n codi yn sgil cam-drin corfforol, rhywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol gan un person yn erbyn partner presennol neu gyn-bartner mewn perthynas agos, neu yn erbyn aelod presennol o’r teulu neu gyn-aelod o’r teulu."

Mae’r diffiniad hwn yn cynnwys pob math o ymddygiad treisgar a rheolgar, er enghraifft ymosod, aflonyddu neu fygythiadau.

Byddwn yn ceisio ymateb yn briodol i anghenion pawb sy’n dioddef yn sgil trais yn y cartref ni waeth beth fo’u rhyw nhw na rhyw y sawl sy’n cam-drin.

Mae rhagor o wybodaeth ynghylch trais yn y cartref i’w chael ar y wefan hon yn adran Cyhoeddiadau/Polisi a Chanllawiau Erlyn/Trais yn y Cartref.

Llinell Gymorth Radffon 24 awr National Domestic Violence: 0808 2000 247

Llinell ffôn i bobl sy’n cyflawni trais, RESPECT: 0845 122 8609

Brig y dudalen