Chwilio Manwl

8. Dargyfeirio rhag erlyn

    Oedolion

  1. Wrth benderfynu a ddylid erlyn achos yn y llysoedd, fe ddylai Erlynwyr y Goron ystyried y dewisiadau heblaw erlyn. Lle bo’n briodol, gellir ystyried a oes prosesau addas ar gyfer ailsefydlu, gwneud iawn neu gyfiawnder adferol.
  2. Dewisiadau eraill yn hytrach nag erlyn oedolion a ddrwgdybir fyddai rhoi rhybuddiad syml neu rybuddiad amodol.
  3. Rhybuddiad syml

  4. Ni ddylid rhoi rhybuddiad syml oni bai fod budd y cyhoedd yn cyfiawnhau hynny ac yn unol â chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Os teimlir y byddai rhybuddiad yn briodol, rhaid i Erlynwyr y Goron hysbysu’r heddlu er mwyn iddynt roi rhybuddiad i’r sawl a ddrwgdybir. Os na roddir y rhybuddiad oherwydd bod y sawl a ddrwgdybir yn gwrthod ei dderbyn, fe all Erlynydd y Goron arolygu’r achos drachefn.
  5. Rhybuddiad amodol

  6. Gall fod yn briodol rhoi rhybuddiad amodol os bydd yr erlynydd o’r farn ganlynol: er bod budd y cyhoedd yn cyfiawnhau erlyn, gallai fod mwy o fudd i’r sawl a ddrwgdybir, y dioddefydd a’r gymuned petai’r sawl a ddrwgdybir yn cwblhau amodau addas gyda’r nod o ailsefydlu neu wneud iawn. Gallai’r rhain gynnwys prosesau adferol.
  7. Rhaid i Erlynwyr y Goron fod yn fodlon fod yna ddigon o dystiolaeth i roi gobaith realistig o euogfarn ac y byddai budd y cyhoedd yn cyfiawnhau erlyniad petai’r cynnig o rybuddiad amodol yn cael ei wrthod neu bod y troseddwr yn methu cydymffurfio ag amodau ’r rhybuddiad y cytunwyd arnynt.
  8. Wrth ddod i benderfyniad, dylai Erlynwyr y Goron ddilyn y Côd Ymarfer ar Rybuddiadau Amodol ac unrhyw gyfarwyddyd ar rybuddiadau amodol a gyflwynwyd neu a gymeradwywyd gan y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus.
  9. Os bydd Erlynydd y Goron o’r farn bod rhybuddiad amodol yn briodol, rhaid iddynt hysbysu’r heddlu, neu awdurdod arall sy’n gyfrifol am weinyddu’r rhybuddiad amodol, yn ogystal â rhoi arwydd o’r amodau priodol fel y gellir gweinyddu’r rhybuddiad amodol.
  10. Pobl Ifanc

  11. Rhaid i Erlynwyr y Goron ystyried buddiannau’r bobl ifanc wrth benderfynu a fyddai eu herlyn er budd y cyhoedd. Fodd bynnag, ni ddylai Erlynwyr y Goron osgoi erlyn oherwydd oedran y diffynnydd yn unig. Mae difrifoldeb y trosedd neu ymddygiad y person ifanc yn y gorffennol yn bwysig iawn.
  12. Fel arfer, ni fydd achosion sy’n gysylltiedig â phobl ifanc yn cael eu cyfeirio at Wasanaeth Erlyn y Goron i’w herlyn nes bydd y person ifanc eisoes wedi derbyn cerydd a rhybuddiad terfynol, oni bai fod y trosedd mor ddifrifol fel nad oedd yr un o’r rhain yn briodol neu nad yw’r person ifanc yn cyfaddef iddo gyflawni’r trosedd. Bwriad cerydd a rhybuddiad terfynol yw atal pobl ifanc rhag aildroseddu ac mae’r ffaith y bu trosedd pellach yn dangos na fu’r ymdrechion i’w cadw rhag cyfundrefn y llys yn effeithiol. Felly, fel arfer fe fydd budd y cyhoedd yn mynnu y dylid erlyn achosion o’r fath, oni bai fod ffactorau amlwg o ran budd y cyhoedd sy’n erbyn erlyn.