Chwilio Manwl

3. Y penderfyniad i erlyn

  1. Yn y rhan fwyaf o achosion, Erlynwyr y Goron sy’n gyfrifol am benderfynu a ddylid cyhuddo person o gyflawni trosedd, ac os dylid, pa drosedd sy’n briodol. Bydd Erlynwyr y Goron yn gwneud y penderfyniadau hyn yn unol â’r Côd hwn a Chyfarwyddyd y Cyfarwyddwr ynghylch Cyhuddo. Mewn achosion ble mae’n rhaid i’r heddlu enderfynu ar y cyhuddiad, sef mân achosion arferol fel arfer, byddant yn cadw at yr un darpariaethau..
  2. Bydd Erlynwyr y Goron yn gwneud penderfyniadau am gyhuddo yn unol â’r Prawf Côd Llawn (gweler adran 5 isod), ac eithrio yn yr amgylchiadau cyfyngedig hynny ble mae’r Prawf Trothwy yn berthnasol (gweler adran 6 isod).
  3. Mae’r Prawf Trothwy yn berthnasol os yw’r achos yn un ble bwriedir cadw’r sawl a ddrwgdybir yn y ddalfa ar ôl ei gyhuddo, ond nad yw’r dystiolaeth ofynnol ar gael hyd yma ar gyfer cymhwyso’r Prawf Côd Llawn.
  4. Os bydd Erlynydd y Goron yn gwneud penderfyniad i gyhuddo yn unol â’r Prawf Trothwy, rhaid i’r achos gael ei arolygu yn unol â’r Prawf Côd Llawn cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gan roi ystyriaeth i gynnydd yr ymchwiliad.