5.Y Prawf Côd Llawn
- Y mae dau gam i’r Prawf Côd Llawn. Y cam cyntaf yw ystyried y dystiolaeth. Os nad yw’r achos yn pasio’r cam tystiolaethol, rhaid peidio â bwrw ymlaen, ni waeth pa mor bwysig neu ddifrifol yw’r achos. Os yw’r achos yn pasio’r cam tystiolaethol, rhaid i Erlynwyr y Goron symud ymlaen at yr ail gam a phenderfynu a oes angen erlyn er budd y cyhoedd. Mae’r ddau gam yn cael eu hegluro isod.
- Rhaid i Erlynwyr y Goron fod yn fodlon bod digon o dystiolaeth i roi ‘gobaith realistig o euogfarn’ yn erbyn pob diffynnydd ar bob cyhuddiad. Rhaid iddynt ystyried achos tebygol yr amddiffyniad, a sut mae hynny’n debygol o effeithio ar achos yr erlyniad.
- Mae gobaith realistig o euogfarn yn brawf gwrthrychol. Mae’n golygu bod rheithgor neu fainc o ynadon neu farnwr sy’n gwrando achos ar ei ben ei hun, a dderbyniodd gyfarwyddwyd priodol yn unol â’r gyfraith, yn fwy tebygol na pheidio o farnu’r diffynnydd yn euog o’r cyhuddiad honedig. Mae hwn yn brawf ar wahân i’r prawf y mae’n rhaid i’r llysoedd troseddol eu hunain ei ystyried. Ni ddylai llys farnu’n euog oni bai eu bod yn fodlon eu bod yn sicr o euogrwydd y diffynnydd.
- Wrth benderfynu a oes digon o dystiolaeth i erlyn, rhaid i Erlynwyr y Goron ystyried a ellir defnyddio’r dystiolaeth ac a yw’n ddibynadwy. Fe fydd llawer o achosion lle nad yw’r dystiolaeth yn achos pryder. Ond fe fydd achosion eraill lle na fydd y dystiolaeth mor gryf ag yr ymddangosai ar y cychwyn. Rhaid i Erlynwyr y Goron ofyn y cwestiynau canlynol iddynt eu hunain:
- A yw hi’n debygol y bydd y dystiolaeth yn cael ei gwahardd gan y llys? Mae yna rai rheolau cyfreithiol a all rwystro tystiolaeth sy’n ymddangos yn berthnasol rhag cael ei chyflwyno mewn treial. Er enghraifft, a yw hi’n debygol y bydd y dystiolaeth yn cael ei gwahardd oherwydd y ffordd y cafodd ei chasglu? Os hynny, a oes digon o dystiolaeth arall i gael gobaith realistig o euogfarn?
- A oes tystiolaeth a allai gefnogi neu danseilio dibynadwyedd cyffesiad? A yw ffactorau megis oedran, deallusrwydd neu lefel dealltwriaeth y diffynnydd yn effeithio ar ddibynadwyedd y dystiolaeth?
- Pa esboniad a roddodd y diffynnydd? A yw llys yn debygol o gredu’r esboniad o ystyried yr holl dystiolaeth? A yw’r dystiolaeth yn cefnogi esboniad diniwed?
- Os yw’r achos yn debygol o gwestiynu sut cafodd y diffynnydd ei adnabod, a yw’r dystiolaeth am hyn yn ddigon cryf?
- A yw cefndir y tyst yn debygol o wanhau achos yr erlyniad? Er enghraifft, a oes gan y tyst unrhyw gymhelliad a allai effeithio ar ei agwedd ef neu hi tuag at yr achos, neu euogfarn berthnasol o’r blaen?
- A oes pryderon ynghylch cywirdeb neu hygrededd tyst? A oes tystiolaeth yn sail i’r pryderon hyn? Ynteu pryderon ar sail gwybodaeth yn unig ydynt, heb ddim i’w hategu? A oes rhagor o dystiolaeth y dylid gofyn i’r heddlu geisio ei chasglu a allai gefnogi neu danseilio disgrifiad y tyst?
- Ni ddylai Erlynwyr y Goron anwybyddu tystiolaeth oherwydd nad ydynt yn sicr a ellir ei defnyddio neu a yw’n ddibynadwy. Ond fe ddylent edrych yn ofalus ar y dystiolaeth wrth benderfynu a oes gobaith realistig o euogfarn.
- Yn 1951, fe gafwyd datganiad clasurol ar fudd y cyhoedd gan yr Arglwydd Shawcross, y Twrnai Cyffredinol, datganiad a gefnogwyd gan Dwrneiod Cyffredinol byth ers hynny: “Ni fu hi erioed yn rheol yn y wlad hon – gobeithio na fydd hi byth – ein bod ni’n awtomatig yn erlyn lle bo amheuaeth o drosedd”. (Dadleuon T^yr Cyffredin, cyfrol 483, colofn 681, 29 Ionawr 1951.)
- Rhaid ystyried budd y cyhoedd ym mhob achos lle mae digon o dystiolaeth i roi gobaith realistig o euogfarn. Yn aml, er y gall fod ffactorau budd y cyhoedd yn erbyn erlyn mewn achos penodol, fe ddylid bwrw ymlaen â’r erlyniad a chyflwyno’r ffactorau hynny gerbron y llys i gael eu hystyried wrth ddedfrydu. Fel arfer fe fydd yr erlyn yn mynd yn ei flaen oni bai fod y factorau budd y cyhoedd sy’n gogwyddo yn erbyn erlyn yn amlwg yn fwy na’r ffactorau o’i blaid, neu ei bod hi’n ymddangos yn fwy priodol dan holl amgylchiadau’r achos i ddewis llwybr arall yn ytrach nag erlyn y person (gweler adran 8 isod).
- Rhaid i Erlynwyr y Goron bwyso a mesur ffactorau o blaid ac yn erbyn erlyn yn ofalus a theg. Fel arfer, bydd ffactorau budd y cyhoedd sy’n gallu effeithio ar y penderfyniad i erlyn yn dibynnu ar ddifrifoldeb y trosedd neu amgylchiadau’r sawl a ddrwgdybir. Gall rhai ffactorau gynyddu’r angen i erlyn ond gall eraill awgrymu y byddai’n well gweithredu mewn ffordd arall.
- Po fwyaf difrifol yw’r trosedd, mwyaf tebygol yw hi y bydd angen erlyn er budd y cyhoedd. Mae’n debygol y bydd angen erlyn:
- os bydd dyfarniad euog yn debygol o arwain at ddedfryd sylweddol;
- os bydd dyfarniad euog yn debygol o arwain at orchymyn atafaelu neu unrhyw orchymyn arall;
- os cafodd arf ei ddefnyddio neu os bu bygwth trais wrth gyflawni’r trosedd;
- os cafodd y trosedd ei gyflawni yn erbyn rhywun sy’n gwasanaethu’r cyhoedd (er enghraifft, swyddog yr heddlu, swyddog carchar, neu nyrs);
- os oedd y diffynnydd mewn swydd o awdurdod neu ymddiriedaeth;
- os bydd y dystiolaeth yn dangos mai’r diffynnydd oedd yn gyfrifol am arwain neu drefnu’r trosedd;
- os oes tystiolaeth bod y trosedd yn un rhagfwriadol;
- os oes tystiolaeth bod y trosedd wedi’i gyflawni gan gr^wp;
- os oedd y sawl a ddioddefodd yn sgil y trosedd yn fregus, wedi wynebu cryn fraw, neu wedi dioddef ymosodiad personol, difrod neu darfu;
- os cafodd y trosedd ei gyflawni ym mhresenoldeb plentyn neu’n agos at blentyn;
- os cafodd y trosedd ei symbylu gan wahaniaethu o unrhyw fath yn erbyn tarddiad ethnig neu genedlaethol, anabledd, rhyw, credoau crefyddol, daliadau gwleidyddol neu dueddfryd rhywiol y dioddefydd, neu os yw’r sawl a ddrwgdybir wedi bod yn elyniaethus tuag at y dioddefydd ar sail unrhyw rai o’r nodweddion hynny;
- os oes gwahaniaeth mawr rhwng gwir oedrannau neu oedrannau meddyliol y diffynnydd a’r dioddefydd, neu os oes unrhyw elfen o lygru;
- os bydd euogfarnau neu rybuddiadau blaenorol y diffynnydd yn berthnasol i’r trosedd presennol;
- os honnir bod y diffynnydd wedi cyflawni’r trosedd ag yntau neu hithau dan orchymyn y llys; o os oes sail dros gredu bod y trosedd yn debygol o barhau neu gael ei ailadrodd, er enghraifft, os oes cefndir o ymddygiad sy’n ailddigwydd;
- os oes sail dros gredu bod y trosedd yn debygol o barhau neu gael ei ailadrodd, er enghraifft, os oes cefndir o ymddygiad sy’n ailddigwydd;
- os bydd y trosedd, er nad yn ddifrifol ynddo’i hun, yn gyffredin yn yr ardal lle cafodd ei gyflawni; neu
- os byddai erlyn yn cael effaith gadarnhaol sylweddol o ran cynnal hyder y gymuned.
- Mae hi’n llai tebygol y bydd angen erlyn:
- os yw’r llys yn debygol o roi cosb mewn enw yn unig;
- os yw’r diffynnydd eisoes dan ddedfryd ac na fyddai euogfarn arall yn debygol o arwain at osod dedfryd neu orchymyn ychwanegol, oni bai fod natur y trosedd penodol yn galw am erlyn neu fod y diffynnydd yn diddymu ei ganiatâd i drosedd gael ei ystyried adeg dedfrydu.
- os cafodd y trosedd ei gyflawni o ganlyniad i gamddealltwriaeth neu gamgymeriad gwirioneddol (rhaid ystyried y ffactorau hyn yn erbyn difrifoldeb y trosedd);
- os gellir dweud mai colled neu niwed ‘bychan’ a gafwyd, a hynny o ganlyniad i un digwyddiad, yn enwedig os cafodd ei achosi gan gamfarnu;
- os bu oedi hir rhwng cyflawni’r trosedd a dyddiad y treial, oni bai:
- fod y trosedd yn un difrifol;
- fod y diffynnydd yn rhannol gyfrifol am yr oedi;
- fod y trosedd newydd ddod i’r amlwg; neu
- fod cymhlethdod y trosedd wedi golygu ymchwiliad hir;
- os bydd erlyn yn debygol o effeithio’n ddrwg ar iechyd corfforol neu feddyliol y dioddefydd, gan gadw difrifoldeb y trosedd mewn cof bob amser;
- os yw’r diffynnydd yn hen neu’n dioddef o salwch meddyliol neu gorfforol difrifol, neu y bu’n dioddef fell adeg y trosedd, oni bai fod y trosedd yn un difrifol ne fod posibilrwydd gwirioneddol y gallai trosedd o’r fath ddigwydd eto. Lle bo angen, fe fydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn gweithredu canllawiau’r Swyddfa Gartref ynghylch ymdrin â throseddwyr ag afiechyd meddyliol Rhaid i Erlynwyr y Goron bwyso a mesur pa mor adda fyddai dargyfeirio diffynnydd sy’n dioddef o salwc meddyliol neu gorfforol difrifol ochr yn ochr â’r angen amddiffyn y cyhoedd;
- os bydd y diffynnydd wedi gwneud iawn am y golled neu’r niwed a achoswyd (ond ni ddylai diffynyddion osgoi cae eu herlyn neu eu dargyfeirio oherwydd eu bod yn tal iawndal yn unig); neu
- os gallai manylion gael eu rhyddhau i’r cyhoedd a allai wneud drwg i ffynonellau gwybodaeth, cysylltiadau rhyngwladol neu ddiogelwch y wlad.
- Mae penderfynu ar fudd y cyhoedd yn fwy na mater o adio nifer y ffactorau ar bob ochr yn unig. Rhaid i Erlynwyr y Goron benderfynu pa mor bwysig yw pob ffactor dan amgylchiadau pob achos er mwyn gwneud asesiad cyffredinol.
- Nid yw Gwasanaeth Erlyn y Goron yn gweithredu ar ran dioddefwyr neu deuluoedd dioddefwyr yn yr un ffordd ag y mae cyfreithwyr yn gweithredu ar ran eu cleientiaid. Mae Erlynwyr y Goron yn gweithredu ar ran y cyhoedd ac nid yn unig er budd unrhyw unigolyn penodol. Wrth ystyried budd y cyhoedd, dylai Erlynwyr y Goron bob amser ystyried canlyniadau erlyn ai peidio ar y dioddefydd, ac unrhyw farn a fynegir gan y dioddefydd neu deulu’r dioddefydd. Fodd bynnag, Erlynydd y Goron sy’n gyfrifol am y penderfyniad..
- Mae’n bwysig bod dioddefwyr yn cael gwybod am benderfyniad sy’n gwneud gwahaniaeth mawr i’r achos sy’n berthnasol iddyn nhw. Fe ddylai Erlynwyr y Goron sicrhau eu bod yn dilyn unrhyw drefniadau y cytunwyd arnynt.
Y Cam Tystiolaethol
A ellir defnyddio’r dystiolaeth yn y llys?
A yw’r dystiolaeth yn ddibynadwy?
Cam Budd Y Cyhoedd
Dyma restrau o rai ffactorau cyffredin i’w hystyried o ran budd y cyhoedd, o blaid ac yn erbyn erlyn: nid yw’r rhestrau yn hollgynhwysol. Fe fydd y ffactorau sy’n berthnasol yn dibynnu ar ffeithiau pob achos.
