7. Dewis Cyhuddiadau
- Fe ddylai Erlynwyr y Goron ddewis cyhuddiadau sydd:
- yn adlewyrchu pa mor ddifrifol yw’r troseddu a hyd a lled y troseddu;
- yn rhoi pwerau addas i’r llys gael dedfrydu a gosod gorchmynion priodol ar ôl euogfarnu; ac
- yn sicrhau bod yr achos yn cael ei gyflwyno yn glir a syml.
- Ni ddylai Erlynwyr y Goron fyth fwrw ymlaen â mwy o gyhuddiadau nag sy’n angenrheidiol dim ond er mwyn annog diffynnydd i bledio’n euog i ychydig o gyhuddiadau. Yn yr un modd, ni ddylent fyth fwrw ymlaen â chyhuddiad mwy difrifol dim ond er mwyn annog diffynnydd i bledio’n euog i gyhuddiad llai difrifol.
- Ni ddylai Erlynwyr y Goron newid y cyhuddiad dim ond oherwydd y penderfyniad a wnaed gan
Mae hyn yn golygu na fydd Erlynwyr y Goron bob amser yn bwrw ymlaen neu barhau â’r cyhuddiad mwyaf difrifol ble mae dewis.
