Gwybodaeth am ymddygiad gwrthgymdeithasol
Efallai fod achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol, fel fandaliaeth, graffiti neu aflonyddu, yn ymddangos yn droseddau cymharol fân. Ond maen nhw’n gallu cael effaith ysgubol ar gymunedau lleol, gan achosi i breswylwyr fyw mewn ofn a difetha ansawdd bywyd pobl. Bydd y CPS yn gweithio’n agos gyda’r heddlu, awdurdodau lleol a’r llysoedd i fynd i’r afael â phob math o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gallai’r rhain gynnwys cyffuriau, cardota, trosedd ar y stryd, pobl ifanc yn camymddwyn ac anhrefn cyffredinol.
Ble bydd yn briodol, fe fyddwn yn gwneud cais am Orchymyn Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (ASBO) adeg dedfrydu pobl yn euog ac, os torrir unrhyw rai o’r gorchmynion, byddwn yn cefnogi asiantaethau eraill i’w gorfodi.
Byddwn hefyd yn gweithredu yn erbyn unrhyw un sy’n cyflawni troseddau anhrefn lefel isel a gweithredoedd o ymddygiad gwrthgymdeithasol, megis difrod troseddol.
