Ciparolwg monitro trais yn y cartref
Achosion a ddygwyd i ben ym mis Rhagfyr 2005
Cangen Rheoli Gwybodaeth
Mehefin 2006
Cyflwyniad
Ym mis Rhagfyr 2005 fe wnaethon ni gynnal ein ciparolwg blynyddol o fonitro’n perfformiad o ran erlyn achosion trais yn y cartref. Wrth gynnal y ciparolwg, rydym yn cyfrif ac yn dadansoddi nifer yr achosion o drais yn y cartref a ddygwyd i ben yn ystod mis Rhagfyr. Dyma oedd y pedwerydd giparolwg monitro ac mae’r canfyddiadau wedi eu cynnwys yn yr adroddiad hwn, ynghyd â chanfyddiadau o 2002, 2003 a 2004 er mwyn adnabod tueddiadau sy’n dod i’r golwg.
Data ciparolwg monitro trais yn y cartref
Mae’r data yn adroddiad hwn o Giparolwg Rhagfyr 2005 yn dangos gwelliant cyffredinol flwyddyn ar flwyddyn dros y pedair blynedd diwethaf.
- Cynyddodd yr achosion a gofnodwyd o 32% ers y llynedd i fwy na 3000 achos a gyhuddwyd ar gyfer erlyniad, bron i ddwbl y rheini a gofnodwyd yn 2002.
- Mae mwy o achosion o ymosod cyffredin yn cael eu cyhuddo (74% o achosion o’u cymharu â 51% yn 2004).
- Fe gynyddodd y canlyniadau llwyddiannus o’r pwynt isaf a gofnodwyd, sef 46% yn 2003 i 59% yn 2005 - gwelliant o 13% mewn dwy flynedd.
- Fe ddangosodd yr achosion y deliwyd â hwy mewn llysoedd arbenigol trais yn y cartref welliant hyd yn oed yn fwy sylweddol - 71% o ganlyniadau llwyddiannus, yn debyg i ganlyniadau peilot trais yn y cartref yng Nghaerffili o 73% ac yn agos at y cyfartaledd cenedlaethol i bob achos a erlynwyd gan y CPS sef 82.3%.
- Fe gwympodd nifer y dioddefwyr a dynnodd gyhuddiadau’n ôl o 37% yn 2002 a 2003 i 30% yn 2005. O’r dioddedfwyr hynny a dynnodd gyhuddiadau’n ôl, parhaodd 36% o’r achosion gyda hanner o’r rhain yn dod i ben â chanlyniad llwyddiannus, o’u cymharu â llai na chwarter y llynedd.
- Dros y pedair blynedd diwethaf,
- daethpwyd â llai o achosion i ben gan y CPS (16% yn 2002, 17% yn 2003 a lawr i 13% yn 2005);
- gollyngwyd llai o achosion oherwydd na chynigiwyd tystiolaeth (i lawr o 17% yn 2002 i 14% 2005);
- dim ond 0.1% o achosion ddaeth i ben oherwydd bod y barnwr wedi gorchymyn rhyddfarn o’u cymharu â 0.4% yn 2002; a
- lleihaodd y niferoedd a rwymwyd o 13% yn 2002 (15% yn 2003) i 8% yn 2005.
Fe adlewyrchodd canfyddiadau ciparolwg 2005 y darlun cenedlaethol ar draws y CPS - sef nifer uwch o achosion â chanlyniadau mwy llwyddiannus a llai o achosion yn cael eu gollwng gan y CPS.
Perfformiad cenedlaethol trais yn y cartref 2005-6
Ers Ebrill 2005, mae Ardaloedd wedi adrodd ar eu perfformiad o ran erlyn troseddau casineb fel rhan o system adolygu perfformiad Ardaloedd.
- Cyhuddwyd ychydig o dan 50,000 achos o drais yn y cartref ar gyfer erlyniad yn ystod 2005-6.
- Cafwyd cynnydd o 43% yn nifer yr achosion o drais yn y cartref a gofnodwyd ers Ebrill 2005.
- Cynyddodd y llwyddiant o ran erlyn achosion o drais yn y cartref o 55% ym mis Ebrill 2005 i 59.7% ym mis Ebrill 2006, gwelliant arwyddocaol yn erbyn y cefndir o nifer cynyddol yr erlyniadau.
- Fe gwympodd yr erlyniadau a ollyngwyd - gan gynnwys rhyddfarniadau ar orchymyn y barnwr, achosion lle na chynigiwyd tystiolaeth a rhwymiadau - o 37% i 33%.
- Cwympodd rhwymiadau o 18.2% i 14.9%.
Bydd data a gesglir o 2006 yn cynnwys dadansoddiad o achosion yn ôl gender ac ethnigrwydd yn ogystal â math o drosedd.
Dylid darllen yr adroddiad hwn yn erbyn cefndir y newidiadau canlynol a weithredwyd ers ciparolwg Rhagfyr 2004.
Trais yn y Cartref 2005-6: cyflawniadau
Mae’r holl argymhellion o’r cyd-arolwg gan HMCPSI a HMIC am sut y mae’r heddlu a’r CPS yn delio ag achosion o drais yn y cartref ("Trais yn y Cartref", Chwefror 2004) bellach wedi eu gweithredu. Mae’r rhain yn cynnwys:
- gwell adnabod a monitro achosion;
- gwelliannau penodol angenrheidiol i erlyn a rheoli achosion;
- hyfforddiant i’n staff; a
- rôl benodol i Gydlynwyr Trais yn y Cartref (DVCs).
Diweddarwyd a lansiwyd y Polisi a’r Canllawiau ar Drais yn y Cartref i erlynwyr gyda Llawlyfr Hyfforddiant y CPS ym mis Chwefror 2005.
Ers Ebrill 2005, hyfforddwyd 1300 staff mewn trais yn y cartref, gan gynnwys yr holl Gydlynwyr Ardal Trais yn y Cartref a chyfreithwyr sy’n erlyn yn y llysoedd arbenigol trais yn y cartref.
Cwblhawyd y prosiect trais yn y cartref dwy flynedd i werthuso mesurau i wella erlyniadau llwyddiannus ym mis Mehefin 2005. Gwerthuswyd pum llys trais yn y cartref (SDVCs) yng Nghymru a Lloegr yn ogystal â’r ddau brosiect peilot yng Nghaerffili, Gwent ac yn Croydon. Cyhoeddwyd canfyddiadau’r ddau brosiect peilot ym mis Mehefin 2005, gan ddarlunio dulliau o gynyddu pledion euog a’r nifer a geir yn euog, ac i leihau nifer y tystion sy’n tynnu cyhuddiadau’n ôl, nifer yr achosion a ddeuir i ben a’r achosion lle na chynigir tystiolaeth.
Casglwyd gwersi arfer da ‘r prosiect fel Canllawiau Arfer Da i’r CPS a’u dosbarthu i bob Ardal yn y CPS yn hydref 2005. Fe’u defnyddiwyd i hysbysu datblygu Cynlluniau Busnes Ardaloedd 2006-7.
Mae’r CPS wedi gweithio gyda Gwasanaeth Llysoedd EM a’r Swyddfa Gartref i ddatblygu 25 llys arbennig ar gyfer Trais yn y Cartref (mae hyn yn cynnwys y llysoedd sydd eisoes yn bodoli) ar draws Cymru a Lloegr erbyn Ebrill 2006. Mae’r grŵp llywio tri chorff ynghyd ag arbenigwyr cenedlaethol Trais yn y Cartref wedi llunio Llawlyfr Adnoddau Cenedlaethol i gynorthwyo ardaloedd i ddatblygu systemau llys arbenigol trais yn y cartref yn y dyfodol. Mae’r CPS wedi arwain ar ddatblygu systemau casglu data i’r llysoedd hyn drwy ddefnyddio baner SDVC newydd yn system gyfrifiadurol COMPASS. Mae rhaglen gweithredu barhaus yn cael ei chydlynu ar draws y tair adran, gyda llysoedd ychwanegol yn yr arfaeth ar gyfer 2007 a’r tu hwnt, a rholio allan raglen o gynghorwyr arbenigol ar drais yn y cartref i gefnogi’r llysoedd arbenigol.
Tîm gweithredu cenedlaethol trais yn y cartref
Sefydlwyd tîm Gweithredu Cenedlaethol Trais yn y Cartref ym mis Gorffennaf 2005 er mwyn goruchwylio gwaith trais yn y cartref ar draws y CPS. Mae’r Tîm yn adrodd i Fwrdd Trais yn y Cartref, sy’n cynnwys cyfarwyddwyr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, Polisi a’r Gyfarwyddiaeth Datblygu Busnes. Mae partneriaid allanol yn cynghori ar grŵp Sicrhau Prosiect ledled y CPS sy’n adrodd i’r Bwrdd Trais yn y Cartref.
Canfyddiadau allweddol
Mae canfyddiadau allweddol mis Rhagfyr 2005 wedi eu crynhoi isod.
- Llenwyd ffurflenni o ran 3,045 diffynnydd, o’u cymharu â 2,299 i fis Rhagfyr 2004, cynnydd o 32%. Llenwyd 1,882 ffurflen ym mis Rhagfyr 2003 a 1,569 ym mis Rhagfyr 2002. Gellid cyfrif am y cynnydd mawr ym maint y sampl a gafwyd drwy gynnydd yn nifer yr arestiadau gan yr heddlu a chyhuddo rhagor o achosion, a’r rheini’n dod i mewn i’r system cyfiawnder troseddol yn ogystal â gwell cydymffurfiaeth â’r cynllun Ciparolwg Trais yn y Cartref.
- Fodd bynnag, cafwyd peth tystiolaeth o hyd o dan-gofnodi. Yn ogystal â’r wybodaeth bresennol a gasglwyd o gofnodion caled dros gyfnod o fis, mae gwybodaeth ar gyfer trais yn y cartref yn cael ei dal drwy system electronig rheoli achosion COMPASS. Mae cymhariaeth o ddata Ciparolwg Trais yn y Cartref ar gyfer Rhagfyr 2005 â’r ffigyrau a ddaliwyd drwy COMPASS yn awgrymu eu bod wedi eu tan-gofnodi o oddeutu 22%. Mae hyn yn atgyfnerthu’r camau cadarnhaol a gymerwyd o fewn y CPS drwy gasglu data yn rheolaidd ac yn chwarterol drwy COMPASS.
- Cafodd y mwyafrif llethol o droseddau a gofnodwyd eu gwneud gan ddynion (95% o’r cyfanswm), tra bo 90% o’r dioddefwyr yn fenywod. Mae’r data hyn yn gyson ers 2002.
- 22% o’r dioddefwyr oedd gŵr neu wraig, neu gyn-ŵr neu gyn-wraig y troseddwyr, o’u cymharu â 25% yn 2004 a 61% yn bartneriaid neu’n gyn-bartneriaid, o’u cymharu â 59% y llynedd. 25% a farnwyd yn fregus neu’n dyst a oedd yn cael ei frawychu, o’u cymharu ag ond 18% yn 2004. Roedd y 17% a oedd yn weddill yn drais yn y teulu neu’r teulu estynedig yn 2005, o’i gymharu â 15% yn 2004.
- 45% o’r diffynyddion a oedd rhwng 31 a 45 oed tra bo 37% rhwng 18 a 30 (y ddau’n debyg i ddata 2004). Yr oedran fwyaf cyffredin i ddioddefwyr yw 18-30 (30%) yn debyg i 2004, er nad oedd 26% o’r achosion yn nodi oedran y dioddefwr.
- Tra bo cofnodi ethnigrwydd wedi gwella, dangosodd 9% o’r ffurflenni "na ddatganwyd" ethnigrwydd y diffynnydd (h.y. na ddarparwyd manylion ethnigrwydd gan yr heddlu, neu gan y diffynnydd), o’u cymharu â 20% yn 2004. "Ni ddatganwyd" ethnigrwydd dioddefwyr yn 39% o’r ffurflenni, o’u cymharu â 52% yn 2004.
- O’r rheini y cofnodwyd eu hethnigrwydd, cofnodwyd bod 85% o’r diffynyddion a 88% o’r dioddefwyr yn wyn ac yn Brydeinig.
- Roedd 74% o’r cofnodion a gofnodwyd yn ymosodiadau cyffredin, o’u cymharu â 51% yn 2004, 21% yn ddifrod troseddol, o’u cymharu â 15% yn 2004 a 16% yn niwed corfforol gwirioneddol, o’u cymharu â 13% yn 2004. Gallai hyn ddangos bod mwy o droseddau lefel isel yn cael eu canfod a’u cyhuddo. Cafwyd pum llofruddiaeth yn 2005 o’u cymharu â saith yn 2004.
- Cafwyd gwelliant pellach yn y gyfradd a gafwyd yn euog o Drais yn y Cartref. Yn 2005, cafwyd 1,795 achos (59%) yn euog, gyda’r 1,250 (41%) a oedd yn weddill yn aflwyddiannus. Roedd y cyfradd a gafwyd yn euog, sef 59% yn cymharu â 53% yn 2004, 46% yn 2003, a 50% yn 2002.
- Roedd y cyfradd a gafwyd yn euog ar gyfer achosion a erlynwyd mewn Llysoedd Arbenigol Trais yn y Cartref (SDVCs) yn fwy ffafriol o lawer. Cofnodwyd bod 209 diffynnydd wedi eu dwyn gerbron SDVCs (gweler nodyn 1), a chafwyd 71% yn euog.
- Roedd y cyfradd a gafwyd yn euog ar gyfer achosion a erlynwyd yn Llysoedd y Goron hefyd yn fwy ffafriol. Deliwyd â 319 achos, a chafwyd 68% yn euog. Mae hyn i’w groesawu oherwydd natur ddifrifol y troseddau y delir â hwy yn y llysoedd hyn.
- Yn ogystal, fe ddangosodd Llysoedd Ieuenctid ganran uwch o ganlyniadau llwyddiannus (77%), ond roedd nifer yr erlyniadau a gofnodwyd yn isel (48).
- Cynyddodd y pledion euog i 52% o 45% yn 2004. 49% yn llysoedd yr ynadon, 71% mewn llysoedd ieuenctid, 61% mewn llysoedd DV arbenigol a 60% yn Llysoedd y Goron.
- Roedd y 41% o’r achosion a ddaeth i ben yn aflwyddiannus yn cynnwys 35% a ollyngwyd gan y CPS a 6% a gafwyd yn ddieuog wedi’r achos, o’u cymharu â 47% (42% a ollyngwyd gan y CPS a 5% yn ddieuog wedi achos) yn 2004, 54% (49% a ollyngwyd gan y CPS a 5% yn ddieuog wedi achos) yn 2003 a 50% (47% a ollyngwyd gan y CPS a 3% yn ddieuog wedi achos) yn 2002.
- O’r achosion a ollyngwyd, gollyngwyd 75% am resymau tystiolaeth, o’u cymharu â 64% yn 2004, er nad oedd 15% o’r achosion wedi cofnodi’r rhesymau. 25% a ollyngwyd ar sail budd y cyhoedd. Felly, o’r cyfanswm o 3045 achos, gollyngwyd 26% am resymau tystiolaeth a 9% am resymau budd y cyhoedd.
- O fewn y 35% (1,067) o’r erlyniadau a ollyngwyd:
- darfodwyd 407 achos (13%) o’u cymharu â 320 (14%) yn 2004, 331 (17%) yn 2003 a 258 (16%) yn 2002;
- Gollyngwyd 425 (14%) o achosion gan na chynigiwyd tystiolaeth, o’u cymharu â 374 (17%) yn 2004, 306 (16%) yn 2003 a 267 (17%) yn 2002.
- Roedd 4 (0.1%) o’r achosion yn rhyddfarnau ar orchymyn barnwr, o’u cymharu â 3 (0.1%) yn 2004, 6 (0.3%) yn 2003 a 7 (0.4%) yn 2002.
- Roedd 231 (8%) o achosion yn rhwymiadau o’u cymharu â 257 (11%) yn 2004, 273 (15%) yn 2003 a 204 (13%) yn 2002.
- Yn 2005, cafwyd 183 (6%) o achosion yn ddieuog wedi achos, o’u cymharu â 123 (5%) achos yn 2004, 88 (5%) yn 2003 a 52 (3%) yn 2002. Ni ddylid, o reidrwydd, ystyried y cynnydd perthynol yn y canlyniadau hyn yn negyddol, gan fod y cynndd o 6% yn nifer y rhai a geir yn euog yn gyffredinol, yn adlewyrchu’r tebygolrwydd bod y ffaith ein bod yn delio ag achosion yn fwy effeithiol yn arwain at ragor o bledion euog (gweler 13 uchod). Gall hefyd adlewyrchu ein bod yn parhau ag achosion y byddem wedi eu darfod o’r blaen (er enghraifft, yn sgîl tynnu tystiolaeth yn ôl gan y dioddefwr). O’r dioddefwyr a dynnodd dystiolaeth yn ôl, fe wnaeth 7% ohonynt hynny yn yr achos.
- Cafwyd cwymp yng nghyfran y dioddefwyr a dynnodd eu datganiad yn ôl. Yn 2002 a 2003 tynodd 37% o ddioddefwyr eu datganiad yn ôl. Cwympodd hyn i 35% yn 2004 ac i 30% yn 2005.
- O’r rheini a dynnodd dystiolaeth yn ôl, fe wnaeth 39% hynny cyn y ple a 53% cyn yr achos. Yn achos 66% o’r dioddefwyr a dynnodd dystiolaeth yn ôl, fe gafodd yr heddlu ddatganiad ffurfiol o dynnu’n ôl, yn debyg i 2004 (68%).
- Fe dynnodd 951 o ddioddefwyr dystiolaeth yn ôl yn 2005. Yn 341 (36%) o’r achosion hyn, penderfynodd y CPS barhau wedi’r tynnu’n ôl. Cymharodd hyn â 321 (40%) yn 2004, 27% o achosion yn 2003 a 19% o achosion yn 2002. Roedd y polisi a chanllawiau diwygiedig ar drais yn y cartref i erlynwyr (Chwefror 2005) yn pwysleisio y dylai penderfyniadau ar barhau ag achosion yn sgîl dioddefwyr yn tynnu’n ôl gynnwys ystyried diogelwch dioddefwyr a’u plant.
- Yn 50% o’r achosion a barhaodd wedi i ddioddefwyr dynnu tystiolaeth yn ôl, plediodd y diffynnydd yn euog, o’u cymharu ag ond 24% yn 2004. 12% roddodd dystiolaeth wedi iddynt dynnu’n ôl, o’u cymharu ag ond 7% y llynedd. Mewn 5% o’r achosion, yr oedd tystiolaeth arall yn ddigonol o’u cymharu â 4% y llynedd.
- Cyflwynwyd gwys tyst mewn 91 achos a barhaodd wedi i ddioddefwr dynnu’n ôl (24%), o’u cymharu â 140 (27%) o’r achosion yn 2004. Roedd y polisi a chanllawiau diwygiedig ar Drais yn y Cartref i erlynwyr (Chwefror 2005) yn darparu fframwaith eglur ar sut mae asesu diogelwch dioddefwyr a’u plant a’r mathau o ffactorau y dylid eu hystyried adeg ystyried gwysio tyst. Rhoddir y pwyslais ar ddefnyddio gwys mewn achos lle mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod modd i’r erlyniad barhau, er mwyn amddiffyn y dioddefwr a’u plant rhag trais pellach. Gall y canllawiau hyn fod wedi arwain at gymryd penderfyniadau mwy deallus ar ddefnyddio gwysion.
