CYTUNDEB DARPARU GWASANAETHAU I WASANAETH ERLYN Y GORON
A. Datganiad Atebolrwydd
Mae’r Cytundeb Darparu Gwasanaethau hwn yn cwmpasu Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) ac yn disgrifio ymrwymiadau allweddol y gwasanaeth. Pennaeth y CPS yw’r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus ac mae’n cael ei arolygu gan y Twrnai Cyffredinol. Mae’r Trysorlys wedi penodi’r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus yn Swyddog Cyfrifo’r Adran a’r Prif Weithredwr yn Swyddog Cyfrifo ychwanegol.
Mae hybu cydraddoldeb hil mewn gwasanaethau cyhoeddus yn ddyletswydd statudol ac yn flaenoriaeth allweddol i’r Llywodraeth hon. Mae’r Twrnai Cyffredinol wedi ymrwymo’n bersonol i sicrhau bod cydraddoldeb yn fater craidd wrth weithredu’r Cytundeb Darparu Gwasanaethau hwn.
Mae’r cytundeb hwn yn nodi nodau allweddol y CPS dros y cyfnod 2001-2004 a fydd yn cyfrannu at gyflawni’r amcanion sydd wedi’u cynnwys yng Nghytundeb Gwasanaeth Cyhoeddus y CPS (PSA) a PSA y system cyfiawnder troseddol.
B. Rhoi Hawliau Allweddol ar Waith
B.1 Cyflawni Targedau PSA
Targed P.S.A. 1) Lleihau, erbyn 2004, yr amser rhwng arestio a dedfrydu neu ddirwyn achos i ben mewn modd arall drwy:
- leihau’r amser o gyhuddo i waredu achos i bob diffynnydd, gyda tharged i’w nodi erbyn Mawrth 2001;
- delio ag 80% o achosion llys ieuenctid o fewn eu targedau amser; a
- haneru’r amser mewn diwrnodau o 142 i 71 rhwng arestio a dedfrydu troseddwyr ifanc cyson a chynnal y lefel honno wedi hynny;
TARGED SY’N CYFRANNU AT PSA Y CJS
Cyflawni:
- Gweithio gydag asiantaethau eraill y system cyfiawnder troseddol (CJS) er mwyn lleihau oedi drwy ddiwygiadau Narey
- Cyflwyno Unedau Cfiawnder Troseddol ar y cyd rhwng Gorffennaf 2000 ac Ebrill 2002 gan gynnwys y fenter ditiadwy yn unig o Ionawr 2001
- Sefydlu Unedau Achosion CPS er mwyn canolbwyntio a gweithio gyda Swyddogion Dilyniant Achosion i wella rheolaeth achosion erbyn Ebrill 2002
- Darparu’r rhaglen moderneiddio TG gan gynnwys cyflwyno system rheoli achosion yn 2003/04
- Gweithredu’r rhaglen hyfforddiant i Arbenigwyr Ieuenctid erbyn Ionawr 2002
Targed P.S.A. 2: Gwella’r safon y mae’r CJS yn ei defnyddio i ddiwallu hawliau diffynyddion drwy gyflawni, erbyn 2004 100 y cant o dargedau mewn basged o fesurau fel a ddiffinnir yng Nghynllun Busnes y CJS.
TARGED SY’N CYFRANNU AT PSA Y CJS
Cyflawni:
- Cydymffurfio â Chod Diwygiedig Erlynwyr y Goron o Hydref 2000 sy’n ystyried y Ddeddf Hawliau Dynol
- 1998, datblygiadau polisi cyhoeddus a datblygiadau allweddol eraill yn y CJS, Bwrw ymlaen ag argymhellion yn adroddiad y CPSI ar ddatgeliadau erbyn Rhagfyr 2001 er mwyn gwella perfformiad
Targed P.S.A 3: Cynyddu nifer a chyfran y troseddau sydd wedi eu cofnodi y mae troseddwr yn cael ei ddwyn gerbron cyfiander ar eu sail.
TARGED SY’N CYFRANNU AT PSA Y CJS
Cyflawni:
- Bydd gwaith yn parhau gydag adrannau eraill y CJS er mwyn dyfeisio gwaelodlin cywir ac i osod targed fel y byddwn yn darogan yr effaith y bydd y ffactorau sy’n dylanwadu ar y gyfradd athreulio yn ei chael ar gynyddu nifer a chyfran y troseddau a gofnodir y dygir troseddwr gerbron cyfiawnder ar eu sail.
- Yn ogystal, bydd y CPS yn:
- Cyflwyno Unedau Cyfiawnder Troseddol ar y cyd rhwng yr Heddlu a’r CPS a sefydlu Unedau Achos y CPS (gweler uchod)
- Cyflwyno cynllun ffioedd unedig gyda’r LCD ar gyfer talu eiriolwyr yr erlyniad a’r amddiffyniad erbyn Ebrill 2001 er mwyn cyfartalu’r ffioedd sy’n cael eu talu i gwnsel yr erlyniad a’r amddyffyniad
- O Ebrill 2001 bydd y CPS yn cyfathrebu’n uniongyrchol gyda dioddefwyr ynghylch penderfyniadau sy’n effeithio ar eu hachos
Targed P.S.A. 4) Sicrhau erbyn 2004 bod lefelau ofn troseddau yng nghategorïau allweddol troseddau treisgar, bwrgleriaeth a throseddau ceir a nodir yn yr Arolwg Troseddau Prydeinig (BCS) yn is na’r lefelau a nodir yn BCS 2001.
TARGED SY’N CYFRANNU AT PSA Y CJS
Cyflawni:
- Bydd y gweithredoedd a restrir o dan dargedau rhifau 1,2,3,5 a 6 yn cyfrannu at gyflawni’r targed hwn.
Targed P.S.A. 5: Gwella o bum pwynt canran lefel boddhad dioddefwyr a thystion â’u triniaeth yn y CJS erbyn 2002 ac wedi hynny o leiaf cynnal y lefel perfformiad honno.
TARGED SY’N CYFRANNU AT PSA Y CJS
Cyflawni:
- O Ebrill 2001 bydd y CPS yn cyfathrebu’n uniongyrchol gyda dioddefwyr ynghylch penderfyniadau sy’n effeithio ar eu hachos
- Gweithredu mentrau sy’n deillio o adroddiad Siarad o Blaid Cyfiawnder er mwyn darparu cefnogaeth well i dystion bregus neu sydd wedi eu brawychu (disgwylir rhwng diwedd 2000/yn gynnar yn 2001)
Targed P.S.A 6: Gwella lefel hyder y cyhoedd yn y CJS erbyn 2004, gan gynnwys gwella yn y cymunedau lleiafrifoedd ethnig.
TARGED SY’N CYFRANNU AT PSA Y CJS
Cyflawni:
- Bydd y gweithredoedd a restrir o dan dargedau rhifau 1,2,3, a 5 yn cyfrannu at gyflawni’r targed hwn.
- Cynyddu hyder y cyhoedd drwy sichrau bod achosion ac iddynt elfen hiliol yn cael eu herlyn yn effeithiol drwy:
- fwrw ymlaen ag argymhellion Adroddiad Ymchwiliad Stephen Lawrence
- cynnal a chadw’r Cynllun Monitro Digwyddiadau Hiliol a chyhoeddi canlyniadau blynyddol ym mis Hydref bob blwyddyn
- cyflwyno monitro ethnig mewn erlyniadau
Targedau/Mesurau Ychwanegol
Amcan 1: Delio ag achosion erlyniad mewn modd amserol ac effeithiol mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill.
Cyflawni:
- cyflwyno papurau traddodi i’r amddiffyniad o fewn terfynau amser cytunedig mewn 82% o achosion erbyn 31 Mawrth 2004, gyda tharged interim o 78% erbyn 31 Mawrth 2002
- cyflwyno papurau traddodi i Gwnsel o fewn terfynau amser cytunedig mewn 85% o achosion erbyn 31 Mawrth 2004, gyda tharged interim o 82% erbyn 31 Mawrth 2002
Amcan 2: Sichrau bod y cyhuddiadau yr eir ymlaen â hwy yn briodol i’r dystiolaeth ac i ddifrifoldeb y troseddu drwy adolygu achosion yn gyson, yn deg ac yn annibynnol yn unol â Chod Erlynwyr y Goron
Cyflawni:
- lleihau i 5 fesul 100,000 achos y nifer a ddiddymir wrth gyflwyno dim achos i’w ateb yn llysoedd yr ynadon y gellir eu priodoli i fethiannau yn y broses adolygu erbyn 31 Mawrth 2004 gyda tharged interim o 7.5 achos fesul 100,000 erbyn 31 Mawrth 2002
- lleihau i 4 fesul 1000 achos y nifer o ryddfarnau-dim-rheithgor yn Llys y Goron y gellir eu priodoli i fethiannau yn y broses adolygu erbyn 31 Mawrth 2004 gyda tharged interim o 6 achos fesul 1000 erbyn 31 Mawrth 2002
Amcan 3: Galluogi’r llysoedd i ddod i benderfyniadau drwy gyflwyno achosion yr erlyniad yn deg, yn drylwyr ac yn gadarn a chan gydymffurfio â dyletswyddau datgelu yn fanwl
Cyflawni:
- cynyddu i 10% cyfran yr eiriolwyr y mae eu perfformiad yn arwyddocaol uwch na’r gofynion arferol erbyn 31 Mawrth 2004 gyda tharged interim o 7% erbyn 31 Mawrth 2002
Amcan 4: diwallu anghenion dioddefwyr a thystion yn y system cyfiawnder troseddol, mewn cydweithrediad ag asiantaethau cyfiawnder troseddol eraill.
Cyflawni:
- gwella perfformiad drwy ddefnyddio canfyddiadau arolwg y CJS o foddhad tystion a mesur boddhad dioddefwyr drwy’r Arolwg Troseddau Prydeinig, yn benodol er mwyn dal barn menywod, pobl anabl a grwpiau lleiafrifoedd ethnig
- cynyddu i 95% cyfran yr ymatebion i gwynion a wneir cyn pen 10 diwrnnod erbyn 31 Mawrth 2004 gyda tharged interim o 93% erbyn 31 Mawrth 2002
Gwella Perfformiad
C.1 Strategaethau ar gyfer Gwella Perfformiad
Bydd y CPS yn edrych o’r newydd ar ei ddull o fynd i’r afael â chynllunio a gyrru newid o 2001-2004. Byddwn yn:
- datblygu cynllun corfforaethol a fydd yn nodi llwybr eglur am y tair blynedd nesaf
- nodi set o fesurau llwyddiant allweddol ar lefel strategol
- sicrhau bod Datganiadau Gweledigaeth a Gwerthoedd y CPS (sy’n gosod allan y math o sefydliad yr hoffai’r CPS fod) yn dod yn realiti
- gwella dealltwriaeth a gweithredu o ddangosyddion perfformiad ar lefel leol
- ystyried datblygiadau diweddar ac ehangach megis moderneiddio ledled y Llywodraeth
Amlinellir y mentrau sydd â’r nod o wella perfformiad ar gyfer y flwyddyn cynllunio gyfredol yng Nghynllun Busnes y CPS 2000-2001, sydd ar gael ar ein gwefan www.cps.gov.uk.
Lansiwyd rhaglen gwella perfformiad newydd ym mis Gorffennaf 2000, a bydd yn parhau dros y tair blynedd dilynol. Bydd y rhaglen yn targedu meysydd penodol o berfformiad y CPS ar gyfer gwelliannau. Bydd blwyddyn gyntaf y rhaglen, 2000-2001, yn gosod y gwaelodlin ar gyfer y blynyddoedd sy’n dilyn.
C.2 Gwerth am Arian.
Ni ellir mynegi gwerth am arian (VfM) wrth ddarparu gwasanaethau cyfreithiol yn hawdd iawn mewn termau ariannol. Gellir cyflawni llawer drwy ganolbwyntio adnoddau ar yr anghenion sy’n flaenoriaeth ac ar wasanaethau sydd wedi eu sichrau am ansawdd. Mae’r adran yn cydnabod y bydd angen ymchwil newydd er mwyn datblygu methodolegau i fesur VfM i gynorthwyo i gyflawni targed gwerth am arian y system cyfiawnder troseddol sydd i’w gyhoeddi erbyn mis Mawrth 2001. Bydd cyflwyno Cyfrifo a Chyllidebu ar sail Adnoddau hefyd yn darparu gwell wybodaeth rheoli ar gostau ac asedion a chyfle i ganolbwyntio’n fwy ar allbwn a ddeilliannau.
Bydd y CPS yn adolygu gwasanaethau a gweithgareddau dros gyfnod o bum mlynedd yn unol â pholisi y mae’r llywodraeth wedi ei ddatgan yn y llawlyfr Gwasanaethau Ansawdd Gwell (BQS). Paratowyd Cynllun BQS ym mis Tachwedd 1999 a oedd yn gosod cynlluniau’r Gwasanaeth i adolygu 60% o’r gwasanaethau dros y pum mlynedd sy’n dilyn.
Mae rhaglen o hunanasesiadau model rhagoriaeth EFQM ar waith. O ran costau rhedeg, y bwriad yw y bydd cynnydd mewn prisiau yn y dyfodol i’w cael o arbedion effeithlonrwydd. Bydd ffynonellau’r effeithlonrwydd hwn yn y dyfodol yn cynnwys y canlynol:
- bydd parhau â’r gwaith ar gostio ar sail gweithgaredd a meincnodi perfformiad yn helpu Ardaloedd i wella perfformiad ac i leihau costau
- parhau i resymoli ystad y CPS gan gynnwys lleihau’r gofod sy’n wag a’r adeiladau sy’n costio llawer
- arbedion caffael drwy gontractau yn ôl y galw cenedlaethol, datblygu contractau newydd ac aildrafod contractau presennol er mwyn gwella gwerth am arian
- lleihau absenoldebau salwch yn unol â thargedau a gytunwyd gyda Swyddfa’r Cabinet a’r Trysorlys (gweler Adran E isod)
- parhau i fonitro lefel a chost defnydd HCA, mewn cymhariaeth â defnyddio eiriolwyr allanol
- sicrhau arbedion drwy fuddion menter lleihau oedi Narey a sefydlu Unedau Cyfiawnder Troseddol Heddlu/CPS
- rhoi technoleg fodern ar waith ymhob un o 42 Ardal y CPS
C.3 Amrywiadau mewn perfformiad
Mae Amrywiadau mewn perfformiad yn cael eu monitro’n rheolaidd yn erbyn system perfformiad gadarn. Fel rhan o’i ymrwymiad i wella perfformiad mae’r Gwasanaeth yn casglu data perfformiad ar ei dargedau allweddol yn chwarterol, yn cyhoeddi tablau cynghrair ac yn gweithio gyda thangyflawnwyr i godi eu lefel perfformiad. Cyhoeddir canlyniadau perfformiad yn Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr i’r Twrnai Cyffredinol y gellir ei weld ar www.cps.gov.uk, a hefyd yn Adroddiadau blynyddol y Ardaloedd sy’n cael eu dosbarthu i’r gymuned leol. Mae Arolygaeth CPS Ei Mawrhydi’n cynnal arolygon o holl Ardaloedd y CPS ar gylch dwyflynyddol rheolaidd. Yn ogystal, mae’r Arolygaeth yn llunio adroddiadau ar faterion thematig sydd â’r nod o helpu’r CPS a’r system cyfiawnder troseddol i nodi gwendidau ac i godi ei berfformiad.
C.4 Caffael
Mae’r CPS yn caffael cyflenwadau a gwasanaethau drwy gystadleuaeth yn y farchnad ac yn dyfarnu busnes ar sail gwerth am arian. Mae’n parhau i weithio tuag at weithredu Argymhellion adroddiad Gershon. Bydd y CPS yn parhau i wella ei brosesau caffael drwy :
- edrych yn weithredol ar ddulliau e-fasnach o leihau costau gweinyddol
- symud tuag at dendro electronig drwy Fewnrwyd Ddiogel y Llywodraeth
- archebu a thalu am eitemau gwerth isel megis papurach drwy gyfrifiaduron bwrdd gwaith drwy ddefnyddio Cerdyn Caffael y Llywodraeth
- cydweithio’n agosach â staff caffael yn adrannau ac asiantaethau eraill y llywodraeth.
C.5 Twyll
Ym mis Chwefror 2000, cyhoeddwyd polisi twyll adrannol y CPS i’r holl staff. Mae’r datganiad yn disgrifio’r dulliau y mae’r Gwasanaeth yn bwriadu eu defnyddio er mwyn canfod ac atal twyll. Mae lefel y twyllo’n isel iawn. Mae’r Gwasanaeth wedi ymrwymo i ddileu twyll yn gyfan gwbl.
D. Canolbwyntio ar Ddefnyddwyr
D.1 Profion Defnyddwyr
Mae arolwg o foddhad tystion â’r CJS yn cael ei ddatblygu, gyda mewnbwn y CPS. Bydd yr arolwg yn adrodd yn Hydref 2000 ac yn darparu gwaelodlin at y blynyddoedd sy’n dod. Bydd y Gwasanaeth yn defnyddio’r data a gaiff er mwyn gwella ei berfformiad. Mae boddhad dioddefwyr yn cael ei fesur fel rhan o Arolwg Troseddau Prydain. Bydd yr arolygon hyn hefyd yn casglu barn menywod, pobl anabl a grwpiau lleiafrifoedd ethnig.
Mae’r CPS yn monitro perfformiad yn erbyn y safonau hynny a nodir yn Siartr y Dioddefwyr sy’n effeithio arno. Cyhoeddir perfformiad yn erbyn y safonau hynny yn Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr i’r Twrnai Cyffredinol.
Cynhelir astudiaeth dichonolrwydd o arolwg boddhad defnyddwyr (llys) i helpu i fesur a gwella perfformiad yn ystod 2000-2001. Yn ddarostyngedig i’r canlyniadau a chyllid digonol, y nod yw lansio’r arolwg cyntaf mewn cyfres o arolygon blynyddol yn ystod 2001-2002.
D.2 Mynediad i Ddefnyddwyr
Mae pwynt ymholiadau cyhoeddus wedi ei hysbysebu yn Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr ac ar ein gwefan. Yn ogystal, mae cyfleuster i gwyno drwy’r rhyngrwyd.
D.3 Delio’n brydlon
â gohebiaeth. Nod y CPS yw cydnabod gohebiaeth gan aelodau’r cyhoedd cyn pen 3 diwrnod gwaith ac ymateb cyn pen 10 diwrnod gwaith. Mae targed o 15 diwrnod gwaith o ddyddiad derbyn gohebiaeth yn cael ei gymhwyso i ohebiaeth gan Aelodau Seneddol.
E. Rheoli Pobl
E.1 Diwygio’r Gwasanaeth Sifil
Mae’r CPS wedi llunio Cynllun Gweithredu i Ddiwygio’r Gwasanaeth Sifil sy’n nodi’r gweithgarwch y bydd y Gwasanaeth yn ei gymryd i ddiwallu’r agenda diwygio. Bydd y Cynllun Gweithredu’n cael ei ddiweddaru’n rheolaidd ac yn cael ei gyhoeddi ar wefan Y CPS.
Adlewyrchir menter Moderneiddio Llywodraeth yn y blaenoriaethau ar gyfer y Gwasanaeth a nodir yng Nghynllun Busnes y CPS. Mae Strategaeth Adnoddau Dynol y CPS yn canolbwyntio ar alluogi’r sefydliad ac unigolion i gyflawni eu nodau drwy arweiniad cryfach; datblygu talent; hyfforddiant a datblygu gwell; rhaglen weithredol o gyfnewid a secondio ac, erbyn diwedd 2000, sicrhau bod yr holl wasanaeth wedi ei achredu fel Buddsoddwr mewn Pobl.
E.3 Absenoldeb Salwch
Gosodwyd targed i leihau cyfradd cyfartalog salwch ar draws Y CPS o 7.0 diwrnod erbyn 2003 (cynhaliwyd hyn yn 2004). Mae pob un o’n 42 Ardal a Chyfarwyddiaethau’n Pencadlysoedd, wedi gosod targedau unigol i leihau absenoldeb salwch, wedi eu cytuno yn erbyn targed cyffredinol yr Adran. Cyflwynwyd canllawiau ar arfer da mewn rheoli a lleihau absenoldeb salwch i’r holl Ardaloedd a Chyfarwyddiaethau’r Pencadlys.
Nod y gwasanaeth yw gweithredu polisïau iechyd galwedigaethol effeithiol a pholisïau rheolaeth cadarn. Erbyn 2005 y nod yw cynnal neu leihau lefelau ymddeol ar sail salwch sydd ar hyn o bryd yn is na’r targed chwartel gorau o 3.72 ymddeoliad fesul 1,000 gweithiwr (gan ganiatáu hyblygrwydd i ystyried strwythur oedran y gweithlu). Ar yr un pryd, bydd y Gwasanaeth yn cydnabod haeddiannau unigol i ymddeol ar sail salwch lle bo cyfiawnhad dros hyn, yn sgîl cymhwyso meini prawf y cynllun mewn modd cyson, cadarn a theg.
E.4 Amrywiaeth
Cyflogaeth
Ein targedau amrywiaeth ar gyfer 2002 yw:
Categori staff B2:
- Staff Lleiafrifoedd Ethnig 4.5%
- Menywod - dim targed, cynrychiolaeth ddigonol
Categori staff B3:
- Staff Lleiafrifoedd Ethnig 1.5%
- Menywod 38%
Categori staff D:
- Staff Lleiafrifoedd Ethnig 2.5%
- Menywod 39%
Categori staff E:
- Staff Lleiafrifoedd Ethnig 2%
- Menywod 17%
Categori Staff Prif Erlynydd y Goron:
- Staff Lleiafrifoedd Ethnig 4%
- Menywod 22%
Categori Staff yr Uwch Wasanaeth Sifil:
- Staff Lleiafrifoedd Ethnig 5%
- Menywod 17%
Yn ogystal:
- Bydd yr holl staff yn derbyn hyfforddiant amrywiaeth yn ystod 2001
- Mae’r CPS wedi diwygio ei fframwaith cymwyseddau i gynnwys ymwybyddiaeth o amrywiaeth a rheolaeth fel maes cymwyseddau gwahanol i’w staff
- bydd amcanion amrywiaeth yn cael eu cynnwys mewn cynlluniau gwaith unigol
- mantolir marciau gwerthusiadau perfformiad gan ethnigrwydd a gender
- rydym wrthi’n datblygu monitro o ran darparu gwasanaethau (erlyniadau)
F. Llywodraeth electronig
Mae’r CPS wedi penodi Pencampwr yr Oes Gwybodaeth. Datblygwyd Cynllun Strategol ar gyfer Systemau Gwybodaeth y CPS a fydd yn mynd i’r afael â’r diffyg sydd yn y gwasanaeth o dechnoleg gwybodaeth. Mae’r CPS wedi rhoi ar waith Raglen Moderneiddio TG ag iddi ddau gam er mwyn codi lefel ei allu TG. Disgwylir cwblhau Cam 1 yn hwyr yn 2001, a cham 2 yn 2003.
Mae defnydd y cyhoedd o wefan y CPS yn cynyddu ac mae’r Gwasanaeth yn dechrau derbyn cwynion drwy ebost. Prin yw ymwneud y CPS â’r cyhoedd y tu allan i’r llys, a phrin yw ei allu i gynnal busnes â’r cyhoedd drwy ddulliau electronig (tua 15% yn ystod 1999-2000). Bydd y rhaglen moderneiddio TG yn cyfrannu at lywodraeth electronig gydgysylltiedig yn y system cyfiawnder troseddol a thrwy’r GSI, ag adrannau eraill a thrwy hynny i gynnydd cyffredinol y llywodraeth tuag at darged y Prif Weinidog o ddarparu 100% o wasanaethau’n electronig erbyn 2005.
Erbyn 2005 bydd gwasanaethau cyfiawnder troseddol i’r cyhoedd ar gael ar-lein, a bydd yr holl brif sefydliadau cyfiawnder troseddol yn gallu cyfnewid gwybodaeth am achosion. O fewn y CPS, mae prosiectau megis CYSWLLT 42 a COMPASS yn cyfrannu at Gynllun Strategol Tymor Canol IBIS (Systemau Gwybodaeth Busnes Integredig) (Hydref 1999). Nod IBIS yw gwella sut mae delio â gwybodaeth drwy gydol y broses cyfiawnder troseddol. Bydd systemau cydgysylltiedig (rhwng yr heddlu, y CPS, llysoedd yr ynadon, Llys y Goron a’r Gwasanaethau Carchar) yn rhoi mynediad parod i’r system cyfiawnder troseddol i wybodaeth gywir, ddiweddar, lle bynnag y delir y wybodaeth honno. Bydd cyfathrebu’r wybodaeth sy’n angenrheidiol ar gyfer penderfynu ar ffuf electronig yn gwella’r broses o’r bôn i’r brig a hefyd pa mor effeithiol y delir ag achosion. Bydd yn lleihau oedi ac yn galluogi penderfyniadau mwy gwybodus.
G. Polisi a Strategaeth
Mae gosod polisi a strategaeth yn cael ei hysbysu gan gyfeiriad y system cyfiawnder troseddol yn ei chyfanrwydd a’i nod yw bwydo i mewn i’r broses o wella perfformiad ledled y system, wrth gadw annibynniaeth briodol penderfyniadau gwaith achos y CPS. Mae’r CPS:
- yn llunio polisi mewn modd agored a chynhwysol drwy ymgynghori’n eang ar gynigion polisi, a thrwy ganiatáu i farn y staff gweithredol gael ei chlywed
- yn ystyried ei ymrwymiad i ddarparu amgylchedd gwaith sy’n deg i bawb
- yn cydnabod buddion defnyddio ymchwil ac arolygu fel offeryn ar gyfer datblygu polisi yn seiliedig ar dystiolaeth
- yn rheoli risg drwy arweiniad y Bwrdd
- yn gosod polisi a strategaeth adrannol sy’n adlewyrchu ymrwymiad i gydraddoldeb hil ac amrywiaeth yn ein gwasanaeth i’r cyhoedd
