Chwilio Manwl

Canlyniadau Achosion y CPS yn ôl prif drosedd

Cyflwyniad 2008 Canlyniadau Achosion 2007 Canlyniadau Achosion 2006 Canlyniadau Achosion 2005 Canlyniadau Achosion

Cyflwyniad

Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys dadansoddiad misol o ganlyniadau achosion y CPS yn llysoedd yr ynadon a Llys y Goron. Mae'r canlyniadau wedi eu rhannu'n ddau gategori: euogfarnau a chanlyniadau aflwyddiannus. Mae'r adroddiad yn dangos nifer a chyfran y diffynyddion sy'n cwympo i mewn i bob categori.

Mae euogfarnau'n cynnwys pledion euog, euogfarn wedi achos ac achosion a brofir yn absenoldeb y diffynnydd. Mae canlyniadau aflwyddiannus yn cynrychioli'r holl ganlyniadau hynny heblaw am euogfarn, gan gynnwys atal a thynnu achos yn ôl, traddodebau a ollyngir, achosion a ollyngir a rhyddfarnau, a therfyniadau gweinyddol.

Cofnodir terfyniad gweinyddol lle na all achos fynd yn ei flaen oherwydd bod gwarant i arestio'r diffynnydd heb ei gweithredu, neu lle na all yr heddlu ddod o hyd i'r diffynnydd er mwyn cyflwyno gwys, neu lle bo'r diffynnydd wedi marw neu wedi ei farnu'n anaddas i bledio.

Dangosir canlyniadau ar wahân yn ôl categori'r brif drosedd. Y brif drosedd yw'r drosedd fwyaf difrifol y cyhuddwyd diffynnydd â set o achosion, waeth sut y daw'r drosedd honno i ben. Rhennir troseddau fel a ganlyn: llofruddiaeth, troseddau yn erbyn y person, troseddau rhywiol, bwrgleriaeth, lladrad, dwyn a thrafod, twyll a ffugio, difrod troseddol, troseddau cyffuriau, trefn gyhoeddus, moduro a phob trosedd arall ac eithrio moduro.

Nid yw cofnodion y CPS yn adnabod y brif drosedd i achosion sy'n dod i ben â therfyniad gweinyddol, sy'n cael eu dangos yn yr adroddiad presennol fel categori ar wahân.

Cofnodir canlyniadau'r CPS fesul diffynnydd. Mewn rhai achosion, gellir erlyn nifer o droseddwyr gyda'i gilydd. Gellir cael yr holl ddiffynyddion yn euog; gellir cael yr holl diffynyddion yn ddi-euog; neu gellir cael rhai yn euog a rhai eraill yn ddi-euog. Oherwydd bod achosion yn ymwneud yn aml â nifer o ddiffynyddion sy'n cael eu herlyn gyda'i gilydd, gellir gwyro data sy'n seiliedig ar ddiffynyddion o ganlyniad. Dros amser, bydd yr effaith hwn yn cael ei lyfnhau, ond dylid ystyried y gallai ffigyrau un mis gynrychioli canlyniad ond nifer fechan o wahanol achosion.

Rhaid dros dro yw'r ffigyrau a ddangosir yn yr adroddiad hwn, a gallant fod yn ddarostyngedig i'w hadolygu.

Gellir cyfeirio ymholiadau yn: Enquiries@cps.gsi.gov.ukDylid cyfeirio ymholiadau gan y cyfryngau cenedlaethol at Swyddfa Wasg y CPS ar 020 7796 8127. Gellir cyfeirio ymholiadau'r cyfryngau lleol i Swyddogion Cyfathrebu yn Ardaloedd unigol y CPS.

Pen y dudalen

2008

Chwefror
Ionawr

Top of page

2007

Rhagfyr
Tachwedd
Hydref
Medi
Awst
Gorffennaf
Mehefin
Mai
Ebrill
Mawrth
Chwefror
Ionawr

Top of page

2006

Rhagfyr
Tachwedd
Hydref
Medi
Awst
Gorffennaf
Mehefin
Mai
Ebrill
Mawrth
Chwefror
Ionawr

Top of page

2005

Rhagfyr

Top of page