Crynodeb o Berfformiad Rhanbarthau
2006
2005
Cyflwyniad
Ar hyn o bryd, mae’r CPS yn cynnwys 42 Ardal weithredol. Rheolir pob un gan Brif Erlynydd y Goron a Rheolwr Busnes Ardal. Mae fframwaith rheoli perfformiad cenedlaethol yn ei le er mwyn darparu mecanwaith sicrhau ar gyfer cyflawni nodau busnes y CPS.
Asesir Ardaloedd y CPS yn erbyn 15 agwedd allweddol a nifer o fesurau eilaidd. Cytunir ar adroddiadau perfformiad manwl ag oddeutu hanner o’r 42 Ardal bob chwarter mewn rhaglen dreigl. Bob chwarter, bydd tua 14 o’r Ardaloedd hyn yn mynychu cyfarfod gyda’r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus, Prif Weithredwr y CPS a Chyfarwyddwr y Gyfarwyddiaeth Datblygu Busnes er mwyn asesu perfformiad yr Ardaloedd, i gefnogi cyflawni strategol ac i rannu arfer da.
Mae crynodeb wedi’i gyddwyso o berfformiad Ardal yn erbyn 15 agwedd allweddol yn cael ei gyhoeddi bob chwarter ac mae ar gael drwy’r ddolen uchod.
