Chwilio Manwl

Polisi Cyhuddo

Nid yw Gwasanaeth Erlyn y Goron yn codi am wybodaeth dan gynllun cyhoeddiadau’r Ddeddf Rhyddid Wybodaeth a geir ar y wefan hon. Mae’r wybodaeth hon ar gael mewn print hefyd oddi wrth:

The Freedom of Information Officer
CPS Headquarters
50 Ludgate Hill
London EC4M 7EX

Rydym yn cadw’r hawl i godi ffi am ddogfennau papur mawr, e.e. llawlyfrau neu sawl copi o ddogfennau llai. Fe gewch wybod y gost adeg y cais.

Cynllun Cyhoeddi Deddf Rhyddid Gwybodaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron

Rhan 1: Cyflwyniad

  1. Swyddogaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron
  2. Eraill yn y system cyfiawnder troseddol
  3. Nodau ac Amcanion y CPS
  4. Yr egwyddorion a ddilynwn
  5. Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000: Cyflwyniad
  6. Cael gwybodaeth bersonol: Deddf Diogelu Data 1998
  7. Cynllun Cyhoeddi
  8. Sut i ddefnyddio ein Cynllun Cyhoeddi
  9. Polisi dal gafael ar gyfer gwybodaeth a gyhoeddir
  10. Gwybodaeth nad yw’n rhan o’n Cynllun Cyhoeddi
  11. Polisi tâl am ymateb i geisiadau am wybodaeth
  12. Cyfrifoldebau
  13. Comisiynydd Gwybodaeth
  14. Hawlfraint Ymateb a chwynion
  15. Ymateb a chwynion

Rhan 2: Cynllun Cyhoeddi

  1. Trefn ac adeiledd cenedlaethol y CPS
  2. Adroddiadau

Rhan 1: Cyflwyniad

Swyddogaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron

Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) yw’r Adran o’r Llywodraeth sy’n gyfrifol am erlyn pobl yng Nghymru a Lloegr a gafodd eu cyhuddo gan yr heddlu o gyflawni trosedd. Cafodd y CPS ei greu gan Ddeddf Erlyniad Troseddau 1985, ac rydym yn sefydliad annibynnol sy’n gweithio’n agos gyda’r heddlu.

Pennaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron yw’r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus (y Cyfarwyddwr) Ken Macdonald QC. Mae’r Cyfarwyddwr yn cael ei oruchwylio gan y Twrnai Cyffredinol, sy’n gyfrifol i’r Senedd am y Gwasanaeth. Adeg llunio’r cynllun hwn, roedd y CPS yn cyflogi tua 7,700 o staff, gan gynnwys tua 2,500 o gyfreithyddion. Bob blwyddyn byddant yn ymdrin â thros 1.3 miliwn o achosion yn llysoedd yr ynadon a thua 115,000 yn Llys y Goron.

Mae gennym bencadlysoedd yn Llundain, Efrog a Birmingham, ac rydym yn gweithio mewn 42 Rhanbarth daearyddol yng Nghymru a Lloegr. Mae’r Rhanbarthau yn cyfateb i ffiniau 43 heddlu Cymru a Lloegr. Mae Rhanbarth Llundain y CPS yn cwmpasu ffiniau gweithredol Heddlu Dinas Llundain a Heddlu Llundain (y Met). Mae pob Rhanbarth dan arweiniad Prif Erlynydd y Goron (CCP) sy’n gyfrifol am erlyn o fewn y Rhanbarth. Yn Llundain mae’r CCP yn cael ei gynorthwyo gan Brif Erlynwyr Cynorthwyol y Goron. Er bod pob CCP yn atebol yn uniongyrchol am eu Rhanbarthau, y Rheolwyr Busnes Rhanbarthol sy’n gyfrifol am fwyafrif y cyfrifoldebau dros weinyddu’r Rhanbarth yn effeithlon ac effeithiol.

Gwasanaeth Erlyn y Goron yw’r prif awdurdod erlyn yng Nghymru a Lloegr. Rydym yn gyfrifol am gynghori’r heddlu ynghylch erlyniadau posib, adolygu erlyniadau sy’n cael eu cyflwyno gan yr heddlu, paratoi achosion ar gyfer y llys a chyflwyno achosion yn y llys. Swyddogaeth y Gwasanaeth yw erlyn achosion yn gadarn, yn deg ac effeithiol pan fydd digon o dystiolaeth i roi gobaith realistig o euogfarn a phan fydd budd y cyhoedd yn galw am erlyn.

Brig y dudalen

Eraill yn y system cyfiawnder troseddol

Adran yr Arglwydd Ganghellor:

Yr Arglwydd Ganghellor yw pennaeth y Farnwriaeth ac mae’n gyfrifol am weinyddu cyfundrefn y llysoedd yng Nghymru a Lloegr. Ef sy’n penodi neu’n argymell penodi barnwyr, deiliaid swyddi barnwrol, gan gynnwys llawer o gadeiryddion ac aelodau tribiwnlysoedd ac ynadon, yn ogystal â Chwnsleriaid y Frenhines. Mae’n gyfrifol hefyd am gynlluniau cymorth cyfreithiol. I gael gwybod mwy am Adran yr Arglwydd Ganghellor ewch i www.lcd.gov.uk.

Y Swyddfa Gartref:

Y Swyddfa Gartref sy’n gyfrifol am faterion yn ymwneud â chyfraith a threfn, hyrwyddo plismona effeithiol ac effeithlon a sicrhau bod gan y llysoedd bwerau dedfrydu addas. Mae’n cynnal ac arolygu effeithiolrwydd cyfraith trosedd a gweithdrefnau’r system cyfiawnder troseddol. I gael gwybod mwy am y Swyddfa Gartref ewch i www.homeoffice.gov.uk.

Swyddogion y Gyfraith:

Mae’r Twrnai Cyffredinol, gyda chymorth y Cyfreithiwr Cyffredinol, yn darparu cyngor i’r Llywodraeth ar amryw o faterion cyfreithiol, gan gynnwys deddfwriaeth arfaethedig. Y Twrnai Cyffredinol sy’n gyfrifol yn y pen draw am orfodi cyfraith trosedd ac mae’n goruchwylio’r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus. I gael gwybod mwy am Swyddogion y Gyfraith ewch i o www.lslo.gov.uk.

Y Swyddfa Twyll Difrifol:

Nid y CPS sy’n erlyn y rhan fwyaf o’r prif achosion twyll, eithr y Swyddfa Twyll Difrifol, sy’n arbenigo ar droseddau o’r fath. I gael gwybod mwy am y Swyddfa Twyll Difrifol ewch i www.sfo.gov.uk.

Y Llysoedd:

Adfocadau sy’n cynrychioli’r CPS a fydd yn erlyn y rhan fwyaf o achosion troseddol sy’n cael eu gwrando yn llysoedd yr ynadon neu Lysoedd y Goron. Llysoedd yr ynadon sy’n delio â throseddau llai difrifol. Llysoedd ynadon arbennig yw llysoedd ieuenctid a’r rhain sy’n ymdrin â phob cyhuddiad (heblaw’r rhai mwyaf difrifol) yn erbyn pobl rhwng 10 (sef oedran cyfrifoldeb troseddol) a than 18 oed. Llysoedd y Goron sy’n delio â’r troseddau mwyaf difrifol, lle bydd treialu gan farnwr a rheithgor. I gael gwybod mwy am y llysoedd ewch i www.courtservice.gov.uk.

Yr Heddlu:

Mae yna 43 heddlu ledled Cymru a Lloegr sy’n gyfrifol am ymchwilio i droseddau, casglu tystiolaeth ac arestio neu gadw pobl sy’n cael eu drwgdybio o droseddu. Pan fydd y sawl a ddrwgdybir yn y ddalfa, bydd yr heddlu yn penderfynu a ydyn nhw am roi rhybudd, peidio â gwneud dim arall, cyflwyno cosb benodedig – yn achos troseddau moduro, rhoi mechnïaeth tra bo ymholiadau pellach yn cael eu cynnal, neu eu cyhuddo ac anfon y papurau at Wasanaeth Erlyn y Goron. I gael gwybod mwy, ewch i wefan eich heddlu lleol.

Y Gwasanaeth Carchardai:

Y Gwasanaeth Carchardai sy’n gyfrifol am gadw pobl yn y ddalfa – pobl ar remand sy’n disgwyl eu treial a’r bobl a gafodd eu dedfrydu i garchar gan y llysoedd. I gael gwybod mwy am y Gwasanaeth Carchardai ewch i www.hmprisonservice.gov.uk.

Y Gwasanaeth Prawf:

Mae’r Gwasanaeth Prawf yn darparu cyngor a gwybodaeth am droseddwyr i’r llysoedd, mae’n gweithredu gorchmynion cymunedol a wnaed gan y llysoedd, a hefyd mae’n cynorthwyo carcharorion cyn ac ar ôl eu rhyddhau. I gael gwybod mwy am y Gwasanaeth Prawf ewch i www.homeoffice.gov.uk.

Arolygiaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron Ei Mawrhydi (HMCPSI):

Mae HMCPSI yn sefydliad annibynnol sy’n arolygu ac adrodd ar waith Gwasanaeth Erlyn y Goron. I gael gwybod mwy ewch i www.hmcpsi.gov.uk.

Brig y dudalen

Nodau ac Amcanion y CPS

Ein gweledigaeth yw bod yn awdurdod erlyn o fri, gan ddarparu’r gwasanaeth gorau posib i gymdeithas. Rydym eisiau parhau i fod yn sefydliad proffesiynol sy’n gwerthfawrogi ei bobl, sy’n perfformio i safon uchel, sy’n ysgogi hyder y cyhoedd, ac sy’n gweithio mewn partneriaeth â holl elfennau’r system cyfiawnder troseddol.

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn chwarae rhan amlwg wrth gynorthwyo i gyflwyno amcanion y Llywodraeth ar gyfer y system cyfiawnder troseddol:

  • Lleihau trosedd ac ofn trosedd.
  • Sicrhau bod cyfiawnder yn cael ei gyflwyno’n effeithiol
  • Darparu gwerth am arian.

Wrth weithio tuag at yr amcanion hyn, rydym yn rhannu nifer o dargedau cytundeb gwasanaeth cyhoeddus gyda’n partneriaid yn y system cyfiawnder troseddol, yn eu plith:

  • Gwella’r ffordd y cyflwynir cyfiawnder trwy gynyddu nifer y troseddwyr a daw gerbron llys am eu troseddau i 1.2 miliwn erbyn 2005-06; gyda gwelliant ym mhob maes o’r system cyfiawnder troseddol, mwy o gynnydd yn y meysydd sy’n perfformio waethaf a gostyngiad yng nghyfran y treialon aneffeithiol.
  • Gwella hyder y cyhoedd yn y system cyfiawnder troseddol, gan gynnwys cynyddu hyder y cymunedau lleiafrifoedd ethnig, a chynyddu bodlonrwydd dioddefwyr a thystion o flwyddyn i flwyddyn gan barchu hawliau diffynyddion.
  • Cynyddu gwerth am arian y system cyfiawnder troseddol 3% y flwyddyn.

Mae nod Gwasanaeth Erlyn y Goron yn uniongyrchol gefnogi nodau cyffredinol y system cyfiawnder troseddol o leihau trosedd ac ofn trosedd a’r costau cymdeithasol ac economaidd sy’n perthyn iddo; a gweinyddu cyfiawnder yn deg ac effeithlon a hyrwyddo hyder yn rheolaeth y gyfraith. Sef:

  • Cyflwyno gwasanaeth erlyn o ansawdd uchel sy’n dod â throseddwyr gerbron llys, sy’n helpu i leihau trosedd ac ofn trosedd a thrwy hynny hybu hyder y cyhoedd yn rheolaeth y gyfraith trwy arolygu achosion yn gyson, yn deg ac annibynnol a thrwy eu cyflwyno’n deg, yn drylwyr a chadarn yn y llys. Yr amcan sy’n cefnogi’r nod hwn yw sicrhau bod cyfiawnder yn cael ei gyflwyno’n effeithiol.

Brig y dudalen

Yr egwyddorion a ddilynwn

Mae’r Côd ar gyfer Erlynwyr y Goron yn disgrifio’r egwyddorion sylfaenol y dylai Erlynwyr y Goron eu dilyn wrth benderfynu ynghylch achosion. Mae’r penderfyniad i fwrw ymlaen ag achos, ai peidio, yn seiliedig ar ddau brawf sy’n cael eu hamlinellu yn y Côd.

Y prawf tystiolaeth

Dyma’r cam cyntaf yn y penderfyniad i erlyn. Rhaid i Erlynwyr y Goron fod yn fodlon bod digon o dystiolaeth i roi “gobaith realistig o euogfarn” yn erbyn pob diffynnydd ar bob cyhuddiad. Rhaid iddynt ystyried a ellir defnyddio’r dystiolaeth ac yw’r dystiolaeth honno yn ddibynadwy. Rhaid iddynt ystyried hefyd beth fydd achos yr amddiffyniad a sut mae hynny’n debygol o effeithio ar achos yr erlyniad. Mae “gobaith realistig o euogfarn” yn brawf gwrthrychol. Mae’n golygu bod rheithgor neu fainc o ynadon, a dderbyniodd gyfarwyddwyd priodol, yn fwy tebygol na pheidio o farnu’r diffynnydd yn euog o’r cyhuddiad honedig. (Mae hwn yn brawf ar wahân i’r un y mae’n rhaid i’r llysoedd troseddau eu hunain ei ddefnyddio. Ni ddylai rheithgor neu lys ynadon ddyfarnu’n euog oni bai eu bod yn sicr bod diffynnydd yn euog.) Os nad yw’r achos yn pasio’r prawf tystiolaeth, rhaid peidio â bwrw ymlaen, ni waeth pa mor bwysig neu ddifrifol yw’r achos.

Prawf budd y cyhoedd

Os na fydd yr achos yn pasio’r prawf tystiolaeth, rhaid i Erlynwyr y Goron benderfynu wedyn a oes angen erlyn er budd y cyhoedd. Rhaid iddynt dafoli ffactorau o blaid ac yn erbyn erlyn yn ofalus a theg. Efallai y bydd rhai ffactorau yn cynyddu’r angen am erlyn ond gallai ffactorau eraill awgrymu y byddai’n well gweithredu fel arall. Ond fel arfer, fe fydd achos yn cael ei erlyn, oni bai fod y ffactorau budd y cyhoedd sy’n tueddu i fod yn erbyn erlyn yn amlwg yn drech na’r ffactorau o blaid erlyn. Ni fydd y CPS ond yn dechrau neu’n parhau i erlyn nes bod achos wedi pasio’r ddau brawf.

Mae’r CPS hefyd yn darparu cyswllt ag asiantaethau eraill ac Adrannau’r Llywodraeth er mwyn cydweithio i sicrhau gwelliannau yn y system cyfiawnder troseddol a bodloni heriau newydd domestig, Ewropeaidd a byd-eang yn sgil troseddau.

Dyma amlinelliad o’r egwyddorion rydym yn eu dilyn, a’n hymroddiad i wasanaeth o safon uchel:

  • Fe fydd ein penderfyniadau yn ddiragfarn a heb wahaniaethu ond fe fyddwn bob amser yn ystyried buddiannau pobl eraill. Fe fyddwn yn gweithredu’n onest a gwrthrychol ac yn arfer barn gadarn yn hyderus.
  • Yn ein trafodion gyda’n gilydd a chyda’r cyhoedd fe fyddwn yn agored a gonest. Fe fyddwn yn dangos sensitifrwydd a dealltwriaeth wrth ymdrin â dioddefwyr a thystion a byddwn yn trin pob diffynnydd yn deg.
  • Rydym yn atebol i’r Senedd a’r cyhoedd; fe fyddwn yn gweithio ar y cyd â’n cydweithwyr i gynnal ymddiriedaeth y cyhoedd a darparu system cyfiawnder troseddol effeithlon. Wrth egluro ein penderfyniadau fe fyddwn yn gwrtais a pharod i gynorthwyo.
  • Er mwyn cyflawni’r safonau uchel hyn fe fyddwn yn adrodd ar ein perfformiad ac yn ymateb yn gadarnhaol i feirniadaeth.

Brig y dudalen

Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000: Cyflwyniad

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (FoIA) yn rhoi hawl cyffredinol i’r cyhoedd gael mynediad at bob math o wybodaeth gofnodedig sy’n cael ei chadw gan awdurdodau cyhoeddus gan gynnwys y CPS. Mae’r hawl hwn yn dibynnu ar amodau penodedig a’r eithriadau a ddisgrifir yn Adrannau 21 i 44 yn Rhan II y Ddeddf. Mae hyn yn cynnwys yr hawl i gael gwybod a yw’r wybodaeth yn bodoli yn ogystal â’r hawl i dderbyn gwybodaeth. Fe ddaw Adran 1 y Ddeddf i rym ym mis Ionawr 2005, a bydd yn rhoi hawl i aelodau’r cyhoedd wneud ceisiadau penodol am wybodaeth (nad yw’n wybodaeth bersonol) sy’n cael ei chadw gan awdurdodau cyhoeddus dan y Ddeddf.

Brig y dudalen

Sut i ofyn am ddata personol - Deddf Diogelu Data 1998

Mae’r CPS yn cadw data personol o fewn ffeiliau achosion troseddol. Os ydych chi angen cael mynediad at ddata personol amdanoch sy’n cael eu cadw o fewn y ffeiliau hyn, nid o dan y DRhG y darperir y data, eithr dan egwyddorion mynediad deiliaid Deddf Diogelu Data 1998. Yn ddibynnol ar rai amodau penodedig, a’r cyfyngiadau a ddisgrifir yn yr eithriadau yn Adrannau 27 i 39, mae gan unigolion hawl i gael mynediad at eu data personol eu hunain, ond nid at ddata personol sy’n ymwneud â phobl eraill. I wneud cais am eich data personol eich hun, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais, a fydd ar gael ar wefan y CPS, ac amgáu’r dogfennau adnabod y gofynnir amdanynt a’u hanfon yn uniongyrchol at:

Y Swyddog Diogelu Data
Pencadlys y CPS
50 Ludgate Hill
Llundain EC4M 7EX

Y mae ffurflenni cais mynediad deiliaid ar gael bellach o bob swyddfa ranbarthol ac ar wefan y CPS. Os cewch chi anhawster cael gafael ar gopi, ysgrifennwch at y cyfeiriad uchod ac fe gewch chi ffurflen yn uniongyrchol drwy’r post. Bydd y CPS yn codi ffi ymlaen llaw, sef £10 o’r 1af Mehefin 2003.

Brig y dudalen

Cynllun Cyhoeddi: Cyflwyniad

Yn sgil y Ddeddf, mae’n rhaid i awdurdodau cyhoeddus fabwysiadu a chynnal cynllun cyhoeddi. Pwrpas cynllun cyhoeddi yw nodi dosbarthiadau o wybodaeth sy’n cael eu cyhoeddi (neu a fydd yn cael eu cyhoeddi), dull cyhoeddi’r wybodaeth, a manylion unrhyw gostau.

Mae’r cynllun hwn ar gael yn www.cps.gov.uk a thrwy’r post hefyd yn rhad ac am ddim. Ysgrifennwch at:

Y Swyddog Diogelu Data
Pencadlys y CPS
50 Ludgate Hill
Llundain EC4M 7EX

Brig y dudalen

Sut i ddefnyddio ein Cynllun Cyhoeddi

Mae’r dosbarthiadau o wybodaeth rydym yn bwriadu eu cyhoeddi wedi eu gosod dan benawdau eang yn y cynllun i ddisgrifio’r math o wybodaeth y gallwch ddisgwyl ei chael. Dan bob pennawd eang y mae dosbarthiadau penodol o wybodaeth y mae’r CPS wedi’u cyhoeddi neu’n bwriadu eu cyhoeddi.

Dyma’r penawdau eang rydym wedi’u defnyddio i grwpio dosbarthiadau gwybodaeth yn y cynllun hwn:

  • Gwasanaeth Erlyn y Goron fel sefydliad
  • Adroddiadau
  • Cynlluniau Busnes
  • Protocolau a Chytundebau Cenedlaethol gydag Asiantaethau eraill
  • Gwybodaeth am Reoli Perfformiad
  • Polisi a chanllaw – Erlyn
  • Polisi a chanllaw – Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
  • Polisi a chanllaw - Adnoddau Dynol
  • Polisi a chanllaw – Cyllid
  • Polisi a chanllaw – Systemau Gwybodaeth Fusnes
  • Polisi a chanllaw – Cyfathrebu
  • Cofnodion cyfarfodydd

Y mae’r dosbarthiadau yn disgrifio un neu fwy o ddogfennau sy’n nodi gwybodaeth ffurfiol, polisïau neu gasgliadau am y pwnc dan sylw. Dan bob dosbarth y mae:

  • Disgrifiad byr o’r wybodaeth sydd ar gael o fewn y dosbarth;
  • Sut y mae’r wybodaeth ar gael (er enghraifft, ar wefan, neu drwy’r post);
  • Manylion unrhyw gostau am ddarparu’r wybodaeth;
  • Mae rhai dosbarthiadau hefyd yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol ar ffurf nodiadau i’ch helpu.

Fe gewch chi lwytho gwybodaeth oddi ar ein gwefan heb dalu dim i’r CPS. Mae’r cynllun cyhoeddi hefyd yn dangos ble mae copïau papur o rai dogfennau ar gael am ddim. Os gall unigolion ddangos nad yw’n ymarferol iddynt gael mynediad at y wybodaeth yn electronig trwy’r wefan, a lle bo’r cynllun cyhoeddi yn dangos nad oes copïau papur o’r wybodaeth ar gael, fe wnawn ni ystyried y dull mwyaf priodol o ddarparu mynediad. Os yw’r cynllun yn nodi bod gwybodaeth ar gael i’w phostio, byddwn yn ei hanfon atoch yn brydlon ac o fewn 20 diwrnod gwaith i’r cais ar bob cyfrif.

Byddwn yn codi ffi am ddarparu rhywfaint o’r wybodaeth sydd yn ein cynllun. Rhaid talu unrhyw ffïoedd sy’n daladwy dan y cynllun ymlaen llaw.

Oni nodir yn wahanol, gellir copïo gwybodaeth a gyhoeddir dan y cynllun er defnydd personol heb orfod talu i Wasanaeth Erlyn y Goron.

Efallai y bydd oedi cyn cyhoeddi rhai dogfennau (megis cofnodion cyfarfodydd) er mwyn gallu gweithredu. Weithiau mae’n bosib na fydd gwybodaeth yn cael ei darparu os, ym marn yr Adran, na ddylid dadlennu gwybodaeth neilltuol oherwydd cyfrinachedd, tresbasu ar breifatrwydd yn ddireswm, sensitifrwydd masnachol neu seiliau penodedig eraill, gan gynnwys budd y cyhoedd.

At ei gilydd, anaml y rhoddir mynediad at ddata ffeiliau achosion troseddol, gan fod y rhan fwyaf ohonynt yn dod dan ddarpariaethau preifatrwydd Deddf Diogelu Data 1998. Fodd bynnag, bydd pob cais am wybodaeth yn cael ei ystyried ar wahân ac fe wneir penderfyniad ynghylch darparu gwybodaeth fesul achos.

Os ystyrir bod unrhyw wybodaeth o fewn dosbarth i gael ei heithrio yn unol â’r eithriadau dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, bydd hyn yn cael ei egluro o fewn y ddogfen berthnasol. Bydd unrhyw eithriadau yn cael eu nodi a’u hegluro.

Nid yw’r cynllun cyhoeddi hwn yn ôl-weithredol. Felly nid ydym yn ymrwymo i gyhoeddi gwybodaeth a gafodd ei chreu a’i chadw gan y CPS cyn diwedd Mehefin 2003.

Nid yw’r cynllun cyhoeddi hwn yn ôl-weithredol. Felly nid ydym yn ymrwymo i gyhoeddi gwybodaeth a gafodd ei chreu a’i chadw gan y CPS cyn diwedd Mehefin 2003.

Brig y dudalen

Polisi Dal Gafael ar gyfer Gwybodaeth a Gyhoeddir

Polisi’r CPS ynghylch cadw gwybodaeth yn ein meddiant, yn gyffredinol, yw peidio â chadw’r wybodaeth am ddim mwy nag sy raid i gefnogi ein gweithgareddau busnes. I gael gwybod mwy trowch at yr amserlenni yn y Llawlyfr Rheoli Cofnodion, Adran 27 isod

Fodd bynnag, oherwydd ein bod yn dal gafael ar gofnodion yn unol â’n cyfrifoldebau dan Ddeddfau Cofnodion Cyhoeddus 1958 a 1967, y mae cyfran fechan iawn o’n cofnodion yn cael eu cadw yn hwy na’r cyfnodau a ddisgrifir yn ein polisi ar ddal gafael. Mae’n bosib y bydd rhai hyd yn oed yn cael eu cadw’n barhaol fel rhan o’r archif genedlaethol yn yr Archifdy Gwladol. Byddwn yn rhoi gwybod i chi a yw’r wybodaeth yn dal i fodoli mewn ymateb i’ch cais.

Brig y dudalen

Gwybodaeth nad yw’n rhan o’n Cynllun Cyhoeddi

Bwriad cynlluniau cyhoeddi yw galluogi awdurdodau cyhoeddus i fod yn weithredol wrth wneud y wybodaeth sydd ganddynt yn fwy agored i’r cyhoedd a meithrin diwylliant sy’n fwy agored. Fodd bynnag, nid yw’r holl wybodaeth sy’n cael ei chadw gan y CPS yn cael ei chynnwys yn y cynllun, ac ni ddylai gael ei chynnwys.

Os bydd gwybodaeth o natur sensitif, am ba reswm bynnag, nid yw’n debygol y bydd ar gael i’r cyhoedd. Er enghraifft, oherwydd bod y CPS yn rhoi cyngor cyfreithiol ac yn dwyn achosion cyfreithiol, y mae peth o’r wybodaeth sy’n cael ei chadw gan y CPS yn gyfrinachol, yn yr un ffordd ag y mae gwybodaeth sy’n cael ei chadw gan gyfreithyddion mewn practis preifat yn gyfrinachol.

Nid yw gwybodaeth sy’n sensitif neu’n gyfrinachol yn cael ei chynnwys yn ein cynllun, er enghraifft oherwydd ei bod yn ymwneud â materion diogelwch, neu’n cynnwys cyngor cyfreithiol a roddwyd wrth ystyried achosion cyfreithiol, ac ni chynhwysir gwybodaeth a fyddai’n cael ei heithrio dan Ran 2 y Ddeddf chwaith.

Byddwn yn eithrio gwybodaeth sy’n cael ei chadw ar gyfer ymchwiliad neu achosion troseddol, y gall y CPS eu cynnal, ynghyd â gwybodaeth a fyddai’n niweidio’r broses o orfodi’r ddeddf neu weinyddu cyfiawnder petai’n cael ei dadlennu, yn amodol ar brawf budd y cyhoedd dan ddarpariaethau’r Ddeddf.

Y mae’r CPS yn ceisio bod mor agored â phosib, yn unol â’r Côd Ymarfer ar Fynediad at y Llywodraeth (y Côd) ond bob amser yn amodol ar ofynion diogelwch cenedlaethol a phersonol, cyfrinachedd cyfreithiol a Deddf Diogelu Data 1998. Mae copïau o’r Côd ar gael am ddim oddi wrth:

Adran yr Arglwydd Ganghellor
Adain Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data
Ystafell 151 Selborne House
Llundain SW1 6QW

Byddwn yn parhau i ddilyn y Côd tan 1 Ionawr 2005, pan fydd yr hawl mynediad cyffredinol dan Adran 1 y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn disodli’r Côd.

Mae gan y Comisiynydd Gwybodaeth rym dan Adran 52 y Ddeddf i weithredu yn erbyn awdurdod cyhoeddus am fethu, ymysg pethau eraill, cydymffurfio â gofynion y Ddeddf yn ymwneud â chynlluniau cyhoeddus.

Mae gan y Comisiynydd Gwybodaeth rym dan Adran 52 y Ddeddf i weithredu yn erbyn awdurdod cyhoeddus am fethu, ymysg pethau eraill, cydymffurfio â gofynion y Ddeddf yn ymwneud â chynlluniau cyhoeddus.

I gael rhagor o wybodaeth, mae Cofrestr Asedau Gwybodaeth y Llywodraeth i’w gweld yn www.inforoute.hmso.gov.uk.Mae hon yn rhestru gwybodaeth sy’n cael ei chadw gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, gwybodaeth y gallai rhywfaint ohoni fod ar gael i’r cyhoedd. Mae’r gofrestr yn canolbwyntio’n bennaf ar wybodaeth heb ei chyhoeddi sy’n cael ei chadw gan adrannau’r llywodraeth.

Fe all y Gofrestr Asedau Gwybodaeth eich helpu i ddod i wybod pa wybodaeth sy’n cael ei chadw gan wahanol adrannau, pa mor ddefnyddiol yw’r wybodaeth honno a’ch helpu i gael mynediad ati. Fe gewch chi gyfarwyddyd am y Gofrestr hon yn www.hmso.gov.uk/guides.htm.

Brig y dudalen

Polisi tâl am ymateb i geisiadau am wybodaeth

Dan y Cynllun Cyhoeddi hwn, ni fyddwn yn codi tâl am wybodaeth a restrir o fewn y Cynllun ac y mae modd mynd ati trwy wefan y CPS. Yn y rhan fwyaf o achosion byddwn yn disgwyl i bobl gael gafael ar y wybodaeth sydd ar gael dan y Cynllun Cyhoeddi trwy’r wefan. Os gall unigolion ddangos nad yw’n ymarferol iddynt gael mynediad at y wybodaeth yn electronig trwy’r wefan ac os yw’r cynllun cyhoeddi yn dangos nad oes copïau papur ar gael, byddwn yn ystyried y dull mwyaf priodol o ddarparu mynediad at y wybodaeth.

Rydym yn cadw’r hawl i godi tâl am ddogfennau papur mawr, e.e. llawlyfrau neu am nifer o gopïau o ddogfennau llai. Fe gewch chi wybod y gost wrth wneud cais.

Brig y dudalen

Cyfrifoldebau

Yr un sy’n gyfrifol ar lefel uwch am y Cynllun Cyhoeddi yw:
Pennaeth yr Adain Cyfathrebu Corfforaethol
Pencadlys y CPS
50 Ludgate Hill
Llundain EC4M 7EX.

Yr un sy’n gyfrifol am gynnal ein Cynllun Cyhoeddi o ddydd i ddydd yw’r Swyddog Rhyddid Gwybodaeth, a gallwch gysylltu â’r Swyddog yn yr un cyfeiriad.

Brig y dudalen

Yr un sy’n gyfrifol am gynnal ein Cynllun Cyhoeddi o ddydd i ddydd yw’r Swyddog Rhyddid Gwybodaeth, a gallwch gysylltu â’r Swyddog yn yr un cyfeiriad.

Y Comisiynydd Gwybodaeth sy’n gyfrifol am orfodi’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Gwaith y Comisiynydd yw:

  • Hyrwyddo arferion da;
  • Cymeradwyo a chynorthwyo i baratoi cynlluniau cyhoeddi;
  • Darparu gwybodaeth am hawliau’r cyhoedd dan y Ddeddf;
  • Gorfodi cydymffurfio â’r Ddeddf.

Fe gewch chi ragor o wybodaeth am waith y Comisiynydd Gwybodaeth yn

www.informationcommissioner.gov.uk.

Gallwch gysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn:
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Sir Gaer SK9 5AF

Llinell wybodaeth: 01625 545745

Switsfwrdd: 01625 545700

Ffacs: 01625 524510

E-bost:data@dataprotection.gov.uk

Brig y dudalen

Hawlfraint

Mae’r deunydd sy’n cael ei gynnwys o fewn y cynllun cyhoeddi hwn yn amodol ar hawlfraint y Goron, oni nodir yn wahanol. Mae’n bosib atgynhyrchu deunydd hawlfraint y Goron (heblaw am logos adrannol ac arfau Brenhinol) yn rhad ac am ddim mewn unrhyw ffurf neu gyfrwng, ar yr amod ei fod yn cael ei atgynhyrchu’n gywir ac nad yw’n cael ei ddefnyddio mewn ffordd gamarweiniol. Os bydd unrhyw rai o eitemau hawlfraint y Goron yn cael eu hailgyhoeddi neu eu copïo ar gyfer eraill, rhaid i chi nodi ffynhonnell y deunydd a chydnabod statws yr hawlfraint.

Nid yw caniatâd i atgynhyrchu deunydd sy’n cael ei warchod yn ymestyn i unrhyw ddeunydd arall a geir trwy’r cynllun cyhoeddi sy’n hawlfraint i drydydd personau. Rhaid i chi gael awdurdod i atgynhyrchu deunydd o’r fath oddi wrth ddeiliaid yr hawfraint dan sylw. Fe gewch chi gyfarwyddyd pellach ynghylch cyhoeddi a hawlfraint oddi wrth HMSO yn www.hmso.gov.uk.

Y mae rhagor o wybodaeth am y System Cyfiawnder Troseddol ar gael hefyd ar y wefan hon hefyd ond oherwydd nad y CPS sy’n ei chyhoeddi, nid yw’n cael ei chynnwys yn y cynllun hwn.

Brig y dudalen

Ymateb a chwynion

Bwriad y cynllun cyhoeddi yw eich helpu i ddod o hyd i wybodaeth CPS yn hawdd a chyflym a gwella’r ffordd y mae gwybodaeth ar gael i’r cyhoedd. Rydym yn croesawu ymateb i’n cynllun cyhoeddi. Byddwn yn ystyried eich sylwadau wrth arolygu a datblygu’r cynllun.

Hefyd, pan fydd yr hawl mynediad at wybodaeth unigol yn dod i rym ym mis Ionawr 2005, byddwn yn defnyddio’r profiad a gawn yn sgîl y ceisiadau am fynediad i ddatblygu mwy ar ein cynllun cyhoeddi.

Byddwn yn arolygu’r cynllun cyhoeddi ym mis Mehefin 2004 ac yn flynyddol ar ôl hynny. Hefyd fe fyddwn yn monitro’r ffordd y mae’n gweithio fel mater o drefn. Anfonwch eich sylwadau at:

Y Swyddog Rhyddid Gwybodaeth
Pencadlys y CPS
50 Ludgate Hill
Llundain EC4M 7EX

Os byddwch yn anfodlon ag unrhyw agwedd ar ein cynllun cyhoeddi, neu gyda’r ffordd rydym wedi delio ag unrhyw geisiadau am fynediad at wybodaeth yn y cynllun, ysgrifennwch at Bennaeth yr Adain Cyfathrebu Corfforaethol yn y cyfeiriad uchod.

Byddwn yn cyhoeddi copi o’r drefn gwynion — gweler adran 26.

Brig y dudalen

Rhan 2: Cynllun Cyhoeddi

Trefn ac adeiledd cenedlaethol y CPS

Mae gan Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS) Bencadlysoedd yn Llundain, Efrog a Birmingham ac mae’n gweithio o fewn adeiledd 42 rhanbarth daearyddol yng Nghymru a Lloegr. Cafodd y drefn hon ei chyflwyno ym mis Ebrill 1999 er mwyn bodloni nod y Llywodraeth o ddatblygu system cyfiawnder troseddol gyd-drefnus gyda pholisïau cenedlaethol yn cael eu cyflwyno’n lleol.

Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus

Pennaeth y CPS yw’r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus (DPP), sef Ken Macdonald QC ar hyn o bryd. Y mae ef yn atebol yn uniongyrchol i’r Twrnai Cyffredinol am berfformiad y CPS.

Prif Weithredwr

Y Prif Weithredwr, Richard Foster, sy’n gyfrifol am weinyddu’r Gwasanaeth, ac eithrio am feysydd cyngor cyfreithiol, a bydd yn adrodd i’r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus.

Dyma adeiledd y sefydliad.

Bydd y bobl hyn yn adrodd yn uniongyrchol wrth y Prif Weithredwr a’r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus:

  • Cyfarwyddwr Polisi Cyhoeddus
  • Pennaeth Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
  • Cyfarwyddwr Datblygu Busnes
  • Cyfarwyddwr Gwaith Achosion Penodol
  • Cyfarwyddwr Cyllid
  • Cyfarwyddwr Systemau Busnes
  • Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol
  • Prif Erlynwyr y Goron Rhanbarthol a Rheolwyr Busnes Rhanbarthol

Bydd y Canolfannau Gwasanaeth yn adrodd i’r Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol a Phrif Erlynwyr y Goron Rhanbarthol a Rheolwyr Busnes Rhanbarthol.

Prif Atebolrwydd yn y Pencadlys am Fentrau Allweddol

Ken Macdonald, Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus

Richard Foster, Prif Weithredwr

Garry Patten, Cyfarwyddwr Polisi

  • Athreuliad a throseddwyr cyson
  • Menter ysbeilio/troseddau strydoedd
  • Datblygiadau yn codi o arolwg LJ Auld ar lysoedd troseddau
  • Dioddefwyr a Thystion/Elw o Droseddau
  • Dimensiwn rhyngwladol
  • Adfocadau Llysoedd Uwch a Gweithwyr Achosion Penodol

Chris Newell, Cyfarwyddwr Gwaith Achosion Penodol

  • Cyngor/erlyniadau y Corfflu Troseddau Cenedlaethol
  • Rhaglen gyfnewid Ranbarthol/Gwaith Achosion

John Graham, Cyfarwyddwr Cyllid

  • Gweithredu unedau cyfiawnder troseddol/unedau treialon
  • Rheoli perfformiad ar y cyd rhwng y CPS/heddlu
  • Rheoli perfformiad ar y cyd rhwng y CPS/llysoedd
  • Adnoddau a pherfformiad

Adnoddau a pherfformiad

  • Moderneiddio trwy well TG
  • Cyflwyno Compass

Angela O’Connor, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol

  • Recriwtio, gan gynnwys y cynllun hyfforddiant cyfreithiol
  • Datblygu sgiliau arwain, rheoli a sgiliau proffesiynol
  • Achrediad corfforaethol Buddsoddwyr mewn Pobl
  • Tâl a gwobrwyo
  • Arolwg staff

Peter Lewis, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes

  • Monitro a chefnogi perfformiad a chyflwyno targedau PSA
  • Cyd-drefnu newidiadau sy’n effeithio ar Ranbarthau, yn enwedig Cyhuddo
  • Darparu perchennog corfforaethol ar gyfer gwella’r broses erlyn a’i hawtomeiddio
  • Cyfathrebu newid ar draws y CPS

Rohan Collier, Pennaeth yr Uned Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

  • Cysylltu â’r gymuned
  • Y Cynllun Cydraddoldeb Hiliol sy’n cwmpasu cyflogaeth a chyflwyno gwasanaeth

Pam Teare, Pennaeth yr Adran Cyfathrebu Corfforaethol

  • Pam Teare, Pennaeth yr Adran Cyfathrebu Corfforaethol
  • Cyhoeddusrwydd
  • E-gyfathrebu

Prif Erlynwyr y Goron

Mae 42 Rhanbarth y Gwasanaeth yn cyfateb i ffiniau’r heddlu, gyda Phrif Erlynydd y Goron yn bennaeth ar bob Rhanbarth. Mae Prif Erlynwyr y Goron yn gyfrifol yn bersonol am gyflwyno gwasanaethau Erlyn y Goron yn eu Rhanbarthau hwy, am effeithlonedd ac effeithiolrwydd y broses erlyn ac am reoli eu Rhanbarthau yn briodol ac effeithiol. Maent yn atebol am y rhain i’r Cyfarwyddwr a’r Prif Weithredwr.

Avon a Gwlad yr Haf
David Archer, 2nd floor, Froomsgate House, Rupert Street, Bryste BS1 2QJ. Ffôn: 0117 930 2800 Ffacs: 0117 930 2810

Swydd Bedford
Richard Newcombe, Sceptre House, 7 - 9 Castle Street, Luton, Beds LU1 3AJ. Ffôn: 01582 816600 Ffacs: 01582 816678

Swydd Gaergrawnt
Richard Crowley, Justinian House, Spitfire Close, Ermine Business Park, Huntingdon, Cambs PE29 6XY. Ffôn: 01480 825200 Ffacs: 01480 825205

Sir Gaer
Ian Rushton, 2nd floor, Windsor House, Pepper Street, Caer CH1 1TD. Ffôn: 01244 408600 Ffacs: 01244 408658

Cleveland
David Magson, 5 Linthorpe Road, Middlesbrough, Cleveland TS1 1TX. Ffôn: 01642 204500 Ffacs: 01642 204503

Cymbria
David Adams, 7th floor, St Peter’s House, Gower Street, Derby DE1 1SB. Ffôn: 01332 614000 Ffacs: 01332 614009

Swydd Derby
David Adams, 7th floor, St Peter’s House, Gower Street, Derby DE1 1SB. Ffôn: 01332 614000 Ffacs: 01332 614009

Dyfnaint a Chernyw
Roger Coe-Salazar, Hawkins House, Pynes Hill, Rydon Lane, Exeter, Dyfnaint EX2 5SS. Ffôn: 01392 288000 Ffacs: 01392 288008

Dorset
John Revell, 1st floor, Oxford House, Oxford Road, Bournemouth BH8 8HA. Ffôn: 01202 498700 Ffacs: 01202 498701

Durham
Jeff Corrighan, Elvet House, Hallgarth Street, Durham DH1 3AT. Ffôn: 0191 383 5800 Ffacs: 0191 383 5801

Dyfed Powys
Simon Rowlands, Heol Penlanffos, Tanerdy, Caerfyrddin, Ceredigion, SA31 2EZ. Ffôn: 01267 242100 Ffacs: 01267 243111

Essex
Paula Abrahams, County House, 100 New London Road, Chelmsford, Essex CM2 0RG. Ffôn: 01245 455800 Ffacs: 01245 455964

Swydd Gaerloyw
Adrian Foster, 2 Kimbrose Way, Caerloyw, Glos GL1 2DB. Ffôn: 01452 872400 Ffacs: 01452 872406

Manceinion Fwyaf
Tony Taylor, P.O. Box 237, 8th floor, Sunlight House, Quay Street, Manceinion M60 3PS. Ffôn: 0161 827 4700 Ffacs: 0161 827 4930

Gwent
Christopher Woolley, 6th floor, Chartist Tower, Upper Dock Street, Casnewydd NP20 1DW. Ffôn: 01633 261100 Ffacs: 01633 261106

Hampshire &ac Ynys Wyth
Roger Daw, 3rd floor, Black Horse House, 8 - 10 Leigh Road, Eastleigh, Hants SO50 9FH. Ffôn: 023 80673800 Ffacs: 023 80673854

Swydd Hertford
Charles Ingham, Queen’s House, 58 Victoria Street, St Albans, Herts AL1 3HZ. Ffôn: 01727 798700 Ffacs: 01727 798795

Glannau Humber
Bob Marshall, 2nd floor, King William House, Market Place, Kingston upon Hull HU1 1RS. Ffôn: 01482 621000 Ffacs: 01482 621002

Caint
Elizabeth Howe, Priory Gate, 29 Union Street, Maidstone, Caint ME14 1PT. Ffôn: 01622 356300 Ffacs: 01622 356370

Swydd Gaerhirfryn
Dickie Dickenson, 3rd floor, Unicentre, Lord’s Walk, Preston PR1 1DH Ffôn: 01772 208100 Ffacs: 01772 208144

Swydd Gaerlyˆr
Martin Howard, Princes Court, 34 York Road, Caerlŷr LE1 5TU. Ffôn: 0116 204 6700 Ffacs: 0116 204 6799

Swydd Lincoln
Colin Chapman, Crosstrend House, 10a Newport, Lincoln LN1 3DF. Ffôn: 01522 585900 Ffacs: 01522 585959

Llundain
Dru Sharpling, 7th Floor, 50 Ludgate Hill, Llundain EC4M 7EX. Ffôn: 020 7796 8653 Ffacs: 020 7710 3447

Cyfarwyddwyr Sector (Llundain)
René Barclay (Gwaith Achosion Penodol Difrifol), 4th Floor, 50 Ludgate Hill, London EC4M 7EX. Tel: 020 7710 6020 Fax: 020 7796 8670
Nazir Afzal (Gorllewin LLundain), King’:s House, Kymberley Road, Harrow, Middlesex HA1 1YH. Tel: 020 8901 5906 Fax: 020 8901 5911
Simon Clements (De Llundain) The Cooperage, 8 Gainsford Street, Llundain SE1 2NE. Ffôn: 020 7378 3283 Ffacs: 020 7378 4186
Wendy Williams (Gogledd Llundain) Solar House, 1-9 Romford Road, Llundain E15 4LJ. Ffôn: 020 8221 3182 Ffacs: 020 8221 3184

Glannau Mersi
John Holt, 7th floor (South) Royal Liver Building, Pier Head, Lerpwl L3 1HN. Ffôn: 0151 239 6400 Ffacs: 0151 239 6420

Norfolk
Peter Tidey, Haldin House, Old Bank of England Court, Queen Street, Norwich, Norfolk NR2 4SX. Ffôn: 01603 693000 Ffacs: 01603 693001

Swydd Northampton
Grace Ononiwu, Beaumont House, Cliftonville, Northampton NN1 5BE. Ffôn: 01604 823600 Ffacs: 01604 823651

Northymbria
Nicola Reasbeck, 1st floor, Benton House, 136 Sandyford Road, Newcastle upon Tyne NE2 1QE. Ffôn: 0191 260 4200 Ffacs: 0191 260 4241

Gogledd Cymru
Paul Whittaker, Tŷ Bromfield, Ellice Way, Wrecsam LL13 7YW. Ffôn: 01978 346000 Ffacs: 01978 346001

Gogledd Swydd Efrog
Robert Turnbull, 6th floor, Ryedale Building, 60 Piccadilly, Efrog YO1 1NS. Ffôn: 01904 731700 Ffacs: 01904 731764

Swydd Nottingham
Kate Carty 2 King Edward Court, King Edward Street, Nottingham NG1 1EL. Ffôn: 0115 852 3300 Ffacs: 0115 852 3380

De Cymru
Christopher Woolley, 20fed llawr, Tŷ Capital, Greyfriars Road, Caerdydd CF10 3PL. Ffôn: 029 2080 3900 Ffacs: 029 2080 3930

De Swydd Efrog
Judith Walker, Greenfield House, 32 Scotland Street, Sheffield S3 7DQ. Ffôn: 0114 229 8600 Ffacs: 0114 229 8607

Swydd Stafford
Harry Ireland, 11a Princes Street, Stafford ST16 2EU. Ffôn: 01785 272200 Ffacs: 01785 272299

Suffolk
Chris Yule, Saxon House, 1 Cromwell Square, Ipswich, Suffolk IP1 1TS. Ffôn: 01473 282100 Ffacs: 01473 282101

Surrey
Sandie Hebblethwaite, Saxon House, Three Onslow Street, Guildford, Surrey GU1 4YA. Ffôn: 01483 468200 Ffacs: 01483 468202

Sussex

Alison Saunders, City Gates, 185 Dyke Road, Brighton, East Sussex BN3 1TL. Ffôn: 01273 765600 Ffacs: 01273 765605

Dyffryn Tafwys
Simon Clements, The Courtyard, Lombard Street, Abingdon, Oxon OX14 5SE. Ffôn: 01235 551900 Ffacs: 01235 551901

Swydd Warwig
Mark Lynn, Rossmore House, 10 Newbold Terrace, Leamington Spa, Swydd Warwig CV32 4EA. Ffôn: 01926 455000 Ffacs: 01926 455003

Gorllewin Mersia
Jim England, Artillery House, Heritage Way, Droitwich, Caerwrangon WR9 8YB. Ffôn: 01905 825000 Ffacs: 01905 825103

Gorllewin Canolbarth Lloegr
David Blundell, 14th floor, Colmore Gate, 2 Colmore Row, Birmingham B3 2QA. Ffôn: 0121 262 1300 Ffacs: 0121 262 1500

Gorllewin Swydd Efrog
Neil Franklin, Oxford House, Oxford Row, Leeds LS1 3BE. Ffôn: 0113 290 2700 Ffacs: 0113 290 2707

Wiltshire
Karen Harrold, Fox Talbot House. Bellinger Close, Malmesbury Road, Chippenham, Wiltshire SN15 1BN. Ffôn: 01249 766100 Ffacs: 01249 766102

Canolfannau Gwasanaeth y CPS

Ar hyn o bryd y mae 10 Canolfan Wasanaeth ledled Cymru a Lloegr sy’n darparu gwasanaethau gweinyddol i Ranbarthau’r CPS.

DWYRAIN LLOEGR, County House, 100 New London Road, Chelmsford, Essex, CM2 0RG (ffôn 01245 455800) - yn cwmpasu Swydd Bedford, Swydd Gaergrawnt, Essex, Swydd Hertford, Norfolk, Suffolk

DWYRAIN CANOLBARTH LLOEGR, 2 King Edward Court, King Edward Street, Nottingham, NG1 1EL (ffôn 0115 852 3317) - yn cwmpasu Swydd Derby, Swydd Gaerlyˆr, Swydd Lincoln, Swydd Northampton, Swydd Nottingham

LLUNDAIN, 2nd Floor, Portland House, Stag Place, Llundain SW1E 5BH (ffôn 020 7802 3836) - yn cwmpasu Llundain

CANOLBARTH LLOEGR, 13th Floor, Colmore Gate, 2 Colmore Row, Birmingham B3 2QA (ffôn 0121 262 1306) - yn cwmpasu Swydd Stafford, Swydd Warwig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, Gorllewin Mersia

GOGLEDD-DDWYRAIN LLOEGR, 1st Floor, Benton House, 136 Sandyford Road, Newcastle upon Tyne NE2 1QE (ffôn 0191 260 4200) - yn cwmpasu Cymbria, Durham, Northymbria, Cleveland

DE-ORLLEWIN LLOEGR, P.O. Box 237, 8th Floor, Sunlight House, Quay Street, Manceinion M60 3PS (ffôn 0161 827 4722) (ar gyfer cyllid/llety) 7th Floor (South), Royal Liver Building, Pier Head, Lerpwl L3 1HN (ffôn 0151 239 6400 (ar gyfer personél) - yn cwmpasu Cymbria, Sir Gaer, Manceinion Fwyaf, Swydd Gaerhirfryn, Glannau Mersi

DE-DDWYRAIN LLOEGR, Saxon House, Three Onslow Street, Guildford, Surrey GU1 4YA (ffôn 01483 468200) - yn cwmpasu Hampshire ac Ynys Wyth, Caint, Surrey, Sussex, Dyffryn Tafwys

DE-ORLLEWIN LLOEGR, Hawkins House, Pynes Hill, Rydon Lane, Exeter, Dyfnaint EX2 5SS (ffôn 01392 288000) - yn cwmpasu Avon a Gwlad yr Haf, Dyfnaint a Chernyw, Dorset, Caerloyw, Wiltshire

CYMRU, 20fed Llawr, Tŷ Capital, Greyfriars Road, Caerdydd CF1 3PL (ffôn 029 2080 3910) - yn cwmpasu Dyfed Powys, Gwent, Gogledd Cymru, De Cymru

SWYDD EFROG A GLANNAU HUMBER, 4/5 South Parade, Wakefield, Gorllewin Swydd Efrog, WF1 1LR (ffôn 01924 205315) - yn cwmpasu Glannau Humber, Gogledd Swydd Efrog, De Swydd Efrog, Gorllewin Swydd Efrog

Brig y dudalen

Adroddiadau

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cyhoeddi’r adroddiadau canlynol:

  • Adroddiad Blynyddol y CPS
  • Adroddiadau Blynyddol Rhanbarthol
  • Adroddiad Chwarterol ar Berfformiad Rhanbarthol i’r Grwˆp Adnoddau a Pherfformiad
  • Adroddiad Blynyddol ar Fonitro Digwyddiadau Hiliol
  • Adroddiad ar Berfformiad yr Hydref
  • Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Cyswllt Cenedlaethol sy’n goruchwylio’r protocol ar gyfer marwolaethau yn gysylltiedig â gwaith
  • Papur Ymgynghorol — Arolwg o Swyddogaeth ac Arferion Gwasanaeth Erlyn y Goron
  • Asesiad Cynnar o Unedau Cyfiawnder Troseddol wedi’u Cydleoli
  • Cynlluniau Busnes
  • Cynlluniau Strategol y CPS
  • Protocolau a chytundebau cenedlaethol gydag asiantaethau eraill
  • Gwybodaeth am reoli perfformiad
  • Polisi a chanllaw – Erlyn
  • Polisi a chanllaw – Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
  • Polisi a chanllaw – Cyfathrebu
  • Cofnodion Cyfarfodydd
  • Business Information Systems Policy and Guidance
  • Communications Policy and Guidance
  • Minutes of Meetings

Brig y dudalen