Chwilio Manwl

Cyfarwyddyd Cyffredinol gan y Cyfarwyddwr i Weithwyr Achosion Penodol Penodedig y CPS

Cyfarwyddyd cyffredinol gan y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus i Weithwyr Achosion Penodol Penodedig Gwasanaeth Erlyn y Goron, yn unol ag adran 7A(3) a (4) Deddf Erlyniad Troseddau 1985 ('y Ddeddf')

  1. Rhaglith
  2. Pwerau a hawl i ymddangos
  3. Pwerau i adolygu a phenderfynu ar achosion

  1. Rhaglith
    1. Bydd y cyfarwyddyd hwn yn dod i rym ar 2 Ionawr 2006, a bydd yn gymwys i holl weithwyr y CPS a ddynodir gan y Cyfarwyddwr yn unol ag adran 7A(1) y Ddeddf. Cyfeirir at unrhyw weithiwr o’r fath yn y cyfarwyddyd hwn fel Gweithiwr Achos Penodol Penodedig ['DCW'].
    2. Bydd y cyfarwyddyd hwn yn gymwys boed y DCW wedi’i ddynodi cyn y dyddiad a nodir ym mharagraff 1.1, ar y dyddiad hwnnw, neu ar ôl hynny.
    3. Wrth i’r cyfarwyddyd hwn ddod i rym yn unol â pharagraffau 1.1 ac 1.2, bydd pob cyfarwyddyd blaenorol a roddwyd i DCW yn unol ag adran 7A(3) a (4) y Ddeddf, ac a ddisgrifir yn yr Atodiad priodol i adroddiad blynyddol y Cyfarwyddwr i’r Twrnai Cyffredinol yn unol ag adran 7A(7)(c) y Ddeddf, yn peidio â bod mewn grym.
    4. O bryd i’w gilydd fe all y Cyfarwyddwr gyflwyno canllawiau i Ranbarthau’r CPS ynghylch sut i fynd ati i weithredu’r cyfarwyddyd hwn, ac ymdrin â materion perthynol gan gynnwys trefniadau ar gyfer goruchwylio DCW a gofynion hyfforddiant sy’n berthnasol i rai dyletswyddau.

    Brig y dudalen

  2. Pwerau a hawl i ymddangos
    1. Bydd pob DCW yn arfer pwerau a hawliau Erlynydd y Goron i ymddangos wrth gynnal achosion troseddol mewn llysoedd ynadon, gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud â chais diffynnydd am fechnïaeth, neu gais mewn perthynas â mechnïaeth (gan gynnwys achosion am dorri mechnïaeth), boed y mater yn cael ei ymladd ai peidio a boed y diffynnydd yn oedolyn neu’n berson ifanc ai peidio, ac eithrio i’r graddau bod yr achosion yn unrhyw rai o’r achosion wedi’u heithrio a restrir ym mharagraff 2.4 isod.
    2. Bydd pob DCW yn arfer pwerau Erlynydd y Goron wrth gynnal achosion troseddol mewn llysoedd ynadon, gan gynnwys y grym i adolygu achosion o’r fath yn unol â’r Côd ar gyfer Erlynwyr y Goron a phenderfynu ar achosion o’r fath, ac eithrio i’r graddau bod yr achosion yn unrhyw rai o’r achosion wedi’u heithrio a restrir ym mharagraff 2.4 isod.
    3. Mae pwerau DCW i adolygu a phenderfynu ar achosion hefyd yn amodol ar Adran 3 isod.
    4. Er diben y cyfarwyddyd hwn, achosion wedi’u heithrio yw achosion:
      • ar gyfer trosedd y gellir ei roi ar dreial yn Llys y Goron yn unig;
      • ar gyfer trosedd neillffordd ble bydd y diffynnydd, mewn gwrandawiad blaenorol, wedi dewis sefyll ei brawf yn Llys y Goron;
      • ar gyfer trosedd neillffordd ble bydd yr ynadon wedi penderfynu, mewn gwrandawiad blaenorol, y byddai treial yn Llys y Goron yn fwy addas;
      • ar gyfer trosedd ble rhoddwyd hysbysiad trosglwyddo dan adran 4 Deddf Cyfiawnder Troseddol 1987 neu adran 53 Deddf Cyfiawnder Troseddol 1991;
      • sydd ar ffurf treial troseddol, yn dechrau gydag achos yr erlyniad yn cael ei agor ar ôl i’r diffynnydd neu gynrychiolydd y diffynnydd bledio’n ddieuog a diweddu gyda’r diffynnydd yn cael ei ddyfarnu’n euog neu’n ddieuog;
      • sydd ar ffurf Gwrandawiad Newton; neu
      • sydd ar ffurf gwrandawiad 'rhesymau arbennig', sef lle bo trosedd yn arwain at waharddiad gorfodol a’r diffynnydd yn cyflwyno tystiolaeth i gefnogi 'rhesymau arbennig' o ran pam na ddylai ef neu hi gael ei wahardd rhag gyrru.
    5. Gall DCW arfer yr un pwerau a hawliau i ymddangos ag Erlynydd y Goron er mwyn profi mater ynadol yn absenoldeb y diffynnydd dan adran 12 Deddf Llysoedd Ynadon 1980, os a dim ond os na fu ymateb i’r wŷs a bod y llys yn mynd ymlaen i wrando’r achos yn absenoldeb y sawl a gyhuddir.

    Brig y dudalen

  3. Pwerau i adolygu a phenderfynu ar achosion
    1. Yr egwyddor sylfaenol yw na ddylai DCW ond adolygu achosion llysoedd ynadon sy’n syml ac nad ydynt yn cynnwys mater technegol anodd, na chymhlethdod arall o ran ffeithiau na’r gyfraith.
    2. Yn gyson â’r egwyddor sylfaenol honno, ni ddylai DCW ond adolygu troseddau ynadol neu neillffordd ble bydd:
      • y diffynnydd yn oedolyn; a
      • y mater yn un ynadol yn unig neu’n cael ei ystyried yn addas ar gyfer ei benderfynu’n ynadol; a
      • ble disgwylir yn rhesymol y bydd ple euog; neu
      • (os fel arall) os yw’r trosedd yn drosedd bach traffig y ffyrdd, ar yr amod nad yw’r diffynnydd yn berson ifanc.
    3. Gellir disgwyl ple euog yn rhesymol os bydd diffynnydd wedi cyfaddef wrth yr heddlu iddo ef neu hi gyflawni’r trosedd, neu fod swyddog yr heddlu neu swyddogion yr heddlu wedi bod yn dyst i’r trosedd ac nad yw’r diffynnydd wedi rhoi arwydd y bydd ef neu hi’n pledio’n ddieuog.
    4. Nid yw’n bosibl i DCW adolygu achos ble bydd unrhyw rai o’r canlynol yn berthnasol:
      • ble na wnaed y penderfyniad i gyhuddo yn unol â Chyfarwyddyd gan y Cyfarwyddwr ynghylch Cyhuddo dan adran 37A Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984, ble bo mewn grym yn y Rhanbarth;
      • mae’r mater yn un ditiol yn unig;
      • os yw’n fater ynadol, bod y diffynnydd wedi pledio’n ddieuog a’r mater eisoes wedi’i bennu ar gyfer treial ynadol;
      • os yw’n drosedd neillffordd, bod y mater yn disgwyl i gael ei draddodi neu ei drosglwyddo;
      • mae’r trosedd yn galw am ganiatâd y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus neu’r Twrnai Cyffredinol;
      • mae’r achos yn ymwneud â diffynnydd sy’n berson ifanc;
      • efallai yr ystyrir y mater yn un sensitif, er enghraifft mae’n ymwneud â marwolaeth, plentyn sy’n ddioddefwr, mae’r diffynnydd yn swyddog yr heddlu ar wasanaeth, mae’n ymwneud â digwyddiad hiliol, neu os oes rhyw ffactor perthnasol arall sy’n debygol o osod yr achos o fewn categori sensitifrwydd o’r fath;
      • os yw’r cyhuddiadau yn honni bwrgleriaeth o breswylfa, neu gyflenwi neu fod â chyffur rheoledig yn eu meddiant gan fwriadu ei gyflenwi, ni waeth a fydd y diffynnydd yn cyfaddef ai peidio. O ran y cyntaf, bydd raid i Erlynydd y Goron benderfynu a yw adran 111 Deddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000 (Deddf 2000) yn berthnasol. O ran yr ail, yn yr un modd bydd angen i Erlynydd y Goron benderfynu a yw adran 110 Deddf 2000 yn berthnasol, os yw’r cyffur yn Ddosbarth A, neu fel arall a yw’n briodol traddodi i Lys y Goron er mwyn i farnwr ystyried atafaelu dan Ddeddf Elw Troseddau;
      • os oes unrhyw ddadlau o ran y ffeithiau fel bod hynny’n codi posibilrwydd gorchymyn dan adran 58(7) a 58(8) Deddf Trefniadaeth Droseddol ac Ymchwiliadau 1996 yn ymwneud â lliniariad rhan-ddirymus; neu
      • os yw’r mater yn ymwneud â gwaharddiad gorfodol a bod hysbysiad gan y diffynnydd neu gynrychiolydd y diffynnydd cyn unrhyw adolygiad y bydd yn cyflwyno tystiolaeth yn ymwneud â 'rhesymau arbennig' o ran pam na ddylai’r diffynnydd gael ei wahardd.
    5. Os daw’n amlwg wrth adolygu’r ffeil, neu yn ystod gwrandawiad dilynol, bod gwŷs neu gyhuddiad yn galw am fân newid, er enghraifft, i gywiro:
      • gwall o ran gwerth eiddo,
      • y dyddiad neu ddyddiadau y digwyddodd trosedd,
      • lleoliad y trosedd, neu
      • ddisgrifiad o unrhyw wrthrych (gan gynnwys manylion cofrestru cerbyd),

      gall y DCW ei newid neu wneud cais i’r llys i’w newid heb gyfeirio at Erlynydd y Goron.

    6. Heb ymrwymiad i gyffredinolrwydd paragraff 3.5, ble mae’r:
      • mater a gyhuddir yn drosedd traffig y ffyrdd sy’n ymwneud â dangos dogfennau gan y diffynnydd (heblaw mewn achosion penodol), a bod y diffynnydd wedi dangos dogfennau i Swyddog Cyswllt yr Heddlu (PLO) y llys neu i swyddog arall yr heddlu; a
      • bod y DCW yn fodlon, ar ôl siarad â’r PLO neu swyddog arall yr heddlu (neu wrth weld datganiad wedi’i lofnodi’n addas gan y naill neu’r llall), na ellir bellach gynnal y cyhuddiad gwirioneddol,

      mae’n bosib i’r DCW dynnu’r cyhuddiad gwirioneddol neu’r wŷs yn ôl heb gyfeirio at Erlynydd y Goron a bwrw ymlaen gydag unrhyw gyhuddiadau arall sydd hefyd gerbron y llys.

    7. Mewn sefyllfaoedd heblaw’r rhai a ddisgrifir ym mharagraff 3.5 neu 3.6, os bydd y DCW yn cynnig dilyn camau sy’n ymwneud â newid/cyfnewid/tynnu’n ôl neu beidio â pharhau â chyhuddiad neu wŷs, rhaid ymgynghori ag Erlynydd y Goron er mwyn cael penderfyniad. Yna bydd Erlynydd y Goron yn arnodi’r ffeil o ran unrhyw benderfyniad a wneir. Os ymgynghorir ag Erlynydd y Goron ar y ffôn, dylai’r DCW arnodi’r penderfyniad ar y ffeil.

    Rhagfyr 2005

    Brig y dudalen