Cyfarwyddyd gan y Cyfarwyddwr ynghylch Cyhuddo
Cyfarwyddyd i Swyddogion yr Heddlu ac Erlynwyr y Goron a Gyflwynwyd gan y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus dan Adran 37A Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol (PACE)
Trydydd Argraffiad: Chwefror 2007
- Cyflwyniad |
- Darpariaethau ac Egwyddorion Allweddol y Cyfarwyddyd hwn |
- Cyfrifoldeb am benderfynu ar gyhuddiadau |
- Penderfyniadau yn ategol i’r penderfyniad cyhuddo |
- Lleoli Erlynydd ar Ddyletswydd a’i swyddogaeth |
- Penderfyniadau i beidio ag erlyn |
- Gwybodaeth i’w hanfon at Erlynwyr y Goron ar gyfer penderfyniadau cyhuddo |
- Rôl a Chyfrifoldebau Swyddogion y Ddalfa dan Adran 37(7) (a) i (d) PACE, fel y newidiwyd gan Atodlen 2 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 |
- Rhybuddiad, cerydd a rhybudd terfynol |
- Torri Amodau Mechnïaeth Cyn Cyhuddo |
- Gweithredoedd yr heddlu ar ôl cyfeirio a’r drefn gynyddol |
- Ffurf yr Adroddiad i Erlynydd y Goron ar gyfer Penderfyniad Cyhuddo (MG3) |
- Gofyn Cydymffurfio â Darpariaethau’r Llawlyfr Canllawiau |
- Nodiadau |
- Cyflwyniad
- Pwrpas y Cyfarwyddyd hwn (gweler nodyn 1) yw sicrhau bod Swyddogion y Ddalfa yn gallu penderfynu sut y dylid ymdrin â pherson pan fydd:
- Swyddog y Ddalfa yn penderfynu bod digon o dystiolaeth (yn unol â’r Prawf Trothwy) i gyhuddo person o gyflawni trosedd (gweler nodyn 2), neu
- Person wedi’i arestio am dorri mechnïaeth a oedd eisoes wedi’i ryddhau ar fechnïaeth ar gyfer penderfyniad cyhuddo (gweler nodyn 3).
- Mae’r Cyfarwyddyd hwn yn nodi hefyd pa wybodaeth y mae’n rhaid ei hanfon at Erlynydd y Goron fel y gellir gwneud penderfyniad cyhuddo, neu benderfyniad arall (gweler nodyn 4).
- Mae’r Cyfarwyddyd hwn yn berthnasol i’r achosion hynny y mae’n rhaid i’r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus ymdrin â hwy yn unol ag Adran 3 Deddf Erlyniad Troseddau 1985.
- Bydd y Cyfarwyddyd hwn yn dod i rym yn Rhanbarthau’r Byrddau Cyfiawnder Troseddol Lleol a nodir ar y dyddiadau sydd yn yr atodlen a gysylltir â hyn.
- Darpariaethau ac Egwyddorion Allweddol y Cyfarwyddyd hwn
- Erlynwyr y Goron fydd yn penderfynu a ddylid cyhuddo person yn yr holl droseddau ditiol yn unig, troseddau neillffordd neu droseddau ynadol heblaw yn yr achosion hynny a restrir yn y Cyfarwyddyd hwn lle gall yr heddlu barhau i gyhuddo.
- Bydd Erlynwyr y Goron yn gwneud penderfyniadau cyhuddo ar ôl edrych ar y dystiolaeth mewn achosion ac yn unol â’r Cyfarwyddyd hwn.
- Rhaid i Swyddogion y Ddalfa gydymffurfio â’r Cyfarwyddyd hwn wrth benderfynu sut i ymdrin â pherson yn unol ag Adran 37(7) PACE, fel a newidiwyd gan Atodlen 2 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003.
- Bydd Erlynwyr y Goron yn ceisio nodi a datrys achosion sy’n amlwg ddim yn addas ar gyfer eu herlyn mor fuan â phosib wedi ystyried pa bynnag ddeunydd sydd ar gael.
- Bydd Erlynwyr y Goron yn rhoi arweiniad a chyngor i ymchwilwyr gydol y broses ymchwilio ac erlyn. Gall hyn gynnwys trywyddau ymholi, anghenion tystiolaethol a chymorth gydag unrhyw drefniadau cyn cyhuddo. Bydd Erlynwyr y Goron yn weithredol yn nodi a, lle bo hynny’n bosib, yn unioni diffygion tystiolaethol ac yn dwyn achosion i ben yn gynnar os na ellir eu cryfhau trwy ymchwilio ymhellach.
- Yr unig adeg y bydd ar Erlynwyr y Goron angen ‘adroddiadau tystiolaethol’ (gweler Paragraff 7.2 (i) isod) yw lle bydd hi’n amlwg y bydd yr achos yn mynd ymlaen i Lys y Goron neu ei bod yn debygol y bydd yn dreial ynadol a ymleddir neu lle’r ymddengys i Erlynydd y Goron bod yr achos mor gymhleth neu mor sensitif fel na ellir gwneud penderfyniad cyhuddo heb gael adroddiadau tystiolaethol.
- Lle bo angen, defnyddir trefniadau mechnïaeth cyn cyhuddo er mwyn hwyluso’r broses o gasglu tystiolaeth, gan gynnwys, mewn achosion priodol, yr holl dystiolaeth allweddol y bydd yr erlyniad yn dibynnu arni, cyn gwneud y penderfyniad cyhuddo (Adran 37 (7)(a) ac Adran 47 (1A) PACE).
- Bydd Erlynwyr y Goron yn hysbysu’r swyddog sy’n rhan o’r ymchwiliad o unrhyw gyngor a phenderfyniad cyhuddo neu benderfyniad arall yn ysgrifenedig gan ddefnyddio’r ffurflen MG3 (Adran 37B (4) PACE).
- Gellir cyhuddo rhywun tra byddant yn cael eu dal gan yr heddlu, neu yn unol ag Adran 29 Deddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (cyhuddo drwy’r post) pan ddaw i rym. [Gellir defnyddio’r drefn wysio nes y daw’r newid i rym.]
- Pan fydd Erlynydd y Goron yn hysbysu Swyddog y Ddalfa nad oes digon o dystiolaeth i gyhuddo, neu er bod digon o dystiolaeth i gyhuddo, na ddylid cyhuddo’r person na rhoi rhybudd, yna bydd Swyddog y Ddalfa yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r person hwnnw na fydd yn cael ei erlyn (Adran 37B(5) PACE).
- Pan fydd Erlynwyr y Goron yn penderfynu y dylid cyhuddo person o drosedd neu roi rhybudd, rhybudd amodol, cerydd neu rybudd terfynol ynghylch trosedd, bydd y person yn cael ei gyhuddo neu’n derbyn rhybudd, neu rybudd amodol, neu gerydd neu rybudd terfynol yn unol â hynny (Adran 37B(6) PACE).
- Pan fydd Erlynwyr y Goron yn penderfynu y dylai person gael rhybudd ond y gwelir na fydd hi’n bosib rhoi rhybudd o’r fath i’r person, yna bydd y person yn cael ei gyhuddo o’r trosedd yn lle hynny (Adran 37B (7) PACE.)
- Er mwyn hwyluso ymgynghori cynnar yn effeithiol ac effeithlon a gwneud penderfyniadau cyhuddo, bydd Erlynwyr y Goron yn gweithredu fel Erlynwyr ar Ddyletswydd ar gyfer yr oriau a gytunir yn lleol, i roi arweiniad a gwneud penderfyniadau cyhuddo. Yn ogystal â’r gwasanaeth hwn bydd trefniant erlynydd ar ddyletswydd y tu allan i’r oriau hynny, a reolir yn ganolog, er mwyn sicrhau y bydd gwasanaeth parhaus 24 awr y dydd.
- Cyfrifoldeb am benderfynu ar gyhuddiadau
- Erlynwyr y Goron yn cyhuddo– yr egwyddor
- Erlynwyr y Goron fydd yn gyfrifol am y penderfyniad i gyhuddo a phennu neu ddrafftio’r cyhuddiadau yn yr holl droseddau ditiol yn unig, troseddau neillffordd neu droseddau ynadol lle bydd Swyddog y Ddalfa o’r farn fod y Prawf Trothwy yn cael ei fodloni mewn unrhyw achos, ac eithrio ar gyfer y troseddau a bennir yn y Cyfarwyddyd hwn yn rhai lle gall yr heddlu gyhuddo neu rybuddio heb gyfeirio at Erlynydd y Goron.
- Erlynwyr y Goron yn cyhuddo – trefniadau yn y cyfamser
- Fesul cam y bydd yr egwyddor a nodir ym Mharagraff 3.1 uchod yn cael ei sefydlu a bydd argraffiadau pellach o’r Cyfarwyddyd hwn yn rhoi gwybod am y datblygiadau.
- Hyd nes y ceir hysbysiad o’r fath, gall yr heddlu benderfynu ar y cyhuddiad mewn troseddau neillffordd neu droseddau ynadol lle’r ymddengys i Swyddog y Ddalfa ei bod hi’n debygol y ceir ple euog a bod yr achos yn un addas ar gyfer ei ddedfrydu yn y llys ynadon, ond heb gynnwys y rhai a nodir yn Atodiad A y Cyfarwyddyd hwn.
- Pan fydd Swyddog y Ddalfa yn ansicr a yw achos yn dod dan 3.2(iii) uchod, dylid ymgynghori yn gynnar ag Erlynydd ar Ddyletswydd er mwyn cael eglurhad a yw’r penderfyniad cyhuddo yn un y dylid ei wneud gan Erlynydd y Goron.
- Yr Heddlu yn cyhuddo
- Unrhyw drosedd dan Ddeddfau Traffig y Ffyrdd neu unrhyw drosedd arall yn codi yn sgil presenoldeb cerbyd modur, ôl-gerbyd, neu feic pedalu ar ffordd neu fan cyhoeddus arall, ac eithrio lle bydd (ac felly y byddai’n rhaid i Erlynydd y Goron benderfynu ar y cyhuddiad):
- Yr amgylchiadau wedi arwain at farwolaeth unrhyw berson; neu
- Honiad o yrru’n beryglus; neu
- Honiad o yrru dan waharddiad ble na chafwyd cyfaddefiad mewn cyfweliad PACE i’r gyrru na’r gwaharddiad; neu
- Lle gellir codi’r amddiffyniad statudol o fod â gofal am gerbyd modur (an-ffit oherwydd diod neu gyffuriau neu ormodedd o alcohol) dan Adran 4(3) neu 5(2) Deddf Traffig y Ffyrdd 1988; neu
- Honiad o gymryd cerbyd modur yn anghyfreithlon neu drosedd dwysach o gymryd cerbyd modur (oni bai ei fod yn achos addas ar gyfer penderfyniad fel ple euog cynnar yn y llys ynadon).
- Unrhyw drosedd o ddihengyd dan Deddf Mechnïaeth 1976 ac unrhyw drosedd yn groes i Adran 5 Deddf Trefn Gyhoeddus 1986 ac unrhyw drosedd dan Ddeddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1847, Deddf Heddlu Llundain 1839, Deddf Crwydradaeth 1824, Deddf Troseddau Strydoedd 1959, dan Adran 91 Deddf Cyfiawnder Troseddol 1967, Adran 12 Deddf Trwyddedu 1872, unrhyw drosedd dan unrhyw is-ddeddf ac unrhyw drosedd ynadol a fyddai, o gael euogfarn, yn arwain at gosb o 3 mis neu lai yn y carchar ac eithrio lle bydd (ac felly y byddai’n rhaid i Erlynydd y Goron benderfynu ar y cyhuddiad):
- Y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus yn cyhoeddi trefniadau eraill ar gyfer cyhuddo ac erlyn y troseddau hyn.
- Arolwg gan Erlynwyr y Goron dan Adran 10 Deddf Erlyniad Troseddau 1985
- Cyfuniadau o bersonau a throseddau
- Cymhwyso’r Côd ar gyfer Erlynwyr y Goron
- Nifer a difrifoldeb y cyhuddiad(au)
- Cymhwyso’r Prawf Côd Llawn
- Cymhwyso’r Prawf Trothwy wrth lunio penderfyniadau cyhuddo
- Lle nad yw’r deunydd tystiolaethol angenrheidiol dan Baragraff 7.2 (isod) ar gael, bydd Erlynydd y Goron (neu Swyddog y Ddalfa) yn asesu’r achos yn erbyn y Prawf Trothwy a bennir ym Mharagraff 3.10. Dylid nodi hyn ar yr MG3 a chytuno ar ddyddiad arolygu ar gyfer Prawf Côd Llawn fel rhan o’r cynllun gweithredu.
- Wedyn, ar ôl derbyn rhagor o dystiolaeth neu Adroddiad i Erlynydd y Goron ar gyfer Penderfyniad Cyhuddo (MG3) ynghyd â’r wybodaeth angenrheidiol yn unol â Pharagraff 7.2 y Cyfarwyddyd hwn, bydd Erlynydd y Goron yn arolygu’r achos yn unol â’r Prawf Côd Llawn cyn penderfynu a yw hi’n briodol parhau â’r trosedd(au) yn y cyhuddiad ynteu ddwyn cyhuddiadau ychwanegol neu rai gwahanol.
- Y Prawf Trothwy
- Achosion a gyhuddir gan yr heddlu
- Achosion Argyfwng – Terfynau Amser PACE yn Dod i Ben
- Penderfyniadau yn ategol i’r penderfyniad cyhuddo
- Ymgynghori lle bwriedir gwrthod mechnïaeth neu osod amodau
- Penderfynu ar y llys ar gyfer yr ymddangosiad cyntaf
- Trefn arbennig ar gyfer Troseddwyr Ifanc Di-baid
- Lleoli Erlynydd ar Ddyletswydd a’i swyddogaeth
- Lleoli
- Ymgynghori Cynnar
- Achosion lle mae’r dystiolaeth yn wan
- Arolygu’r Adroddiad i Erlynydd y Goron ar gyfer Penderfyniad Cyhuddo (MG3) a thystiolaeth.
- Hysbysiad ysgrifenedig
- Cytuno ar weithredu
- Cyfeirio achosion
- Adroddiad tystiolaethol
- Penderfyniadau i beidio ag erlyn
- Dim digon o dystiolaeth neu na fyddai cyhuddo er budd y cyhoedd
- Hysbysiad ysgrifenedig
- Gwybodaeth i’w hanfon at Erlynwyr y Goron ar gyfer penderfyniadau cyhuddo
- Tystiolaeth
- Adroddiadau
- Yr holl achosion sy’n mynd ymlaen i Lys y Goron neu y disgwylir iddynt gael eu hymladd: Adroddiad Tystiolaethol.
- Achosion eraill a gyfeirir at Erlynydd y Goron ar gyfer penderfyniad cyhuddo
- Achosion cadw yn y ddalfa – Prawf Trothwy – adroddiad brys
- Gofyn ymgynghori’n gynnar mewn Achosion Adroddiad Tystiolaethol
- Achosion cymhleth neu sensitif – adroddiad tystiolaethol
- Anghenion yr achos ddim yn glir – ymgynghori ag Erlynydd ar Ddyletswydd
- Rôl a Chyfrifoldebau Swyddogion y Ddalfa dan Adran 37(7) (a) i (d) PACE, fel y newidiwyd gan Atodlen 2 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003
- Angen ymgynghori cynnar
- Ymgynghori
- Achosion a gyfeirir lle nad yw’r heddlu yn dymuno mynd ymlaen
- Y safon i’w defnyddio wrth benderfynu a ddylid cyfeirio’r achos at Erlynydd y Goron neu ryddhau’r person ar fechnïaeth
- Oedi cyn cyhuddo a rhyddhau pobl addas ar fechnïaeth
- Datgeliad
- Oedi Cyn Cyhuddo
- Rhybuddiad, cerydd a rhybudd terfynol
- Dargyfeirio rhag erlyn, yr heddlu i rybuddio, ceryddu ayb
- Ymgynghori ynghylch penderfyniad i rybuddio
- Gweithredu mewn achosion rhybudd amodol
- Arolwg gan Erlynwyr y Goron
- Penderfyniadau i gyhuddo neu rybuddio gan Erlynwyr y Goron
- Torri Amodau Mechnïaeth Cyn Cyhuddo
- Gweithredu os torrir amodau mechnïaeth cyn cyhuddo wrth ddisgwyl penderfyniad cyhuddo gan y CPS
- Cyhuddo tormechnïaeth – sefyllfaoedd argyfwng
- Gweithredoedd yr heddlu ar ôl cyfeirio a’r drefn gynyddol
- Mewn unrhyw achos sy’n bodloni’r Trothwy a lle mae’r achos wedi ei gyfeirio at Erlynydd y Goron ar gyfer penderfyniad cyhuddo, ac mai penderfyniad Erlynydd y Goron yw cyhuddo, rhybuddio, cael tystiolaeth ychwanegol, neu beidio â gweithredu, ni fydd yr heddlu yn mynd ymlaen mewn unrhyw ffordd arall heb gyfeirio’r mater yn ôl at Erlynydd y Goron yn gyntaf.
- Datrys anghydfod
- Ffurf yr Adroddiad i Erlynydd y Goron ar gyfer Penderfyniad Cyhuddo (MG3)
- Ffurf yr MG3
- Gofyn Cydymffurfio â Darpariaethau’r Llawlyfr Canllawiau
- Cydymffurfio â’r Llawlyfr Canllawiau
- Nodiadau
- Cyflwynwyd gan y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus dan Adran 37(A)(1)(a) Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984, fel yr ymgorfforwyd gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003.
- PACE, Adran 37(7) newidiad.
- PACE, Adran 37C.
- PACE, Adran 37A(1)(b).
- Er enghraifft, tystiolaeth weledol wedi’i recordio o’r trosedd yn digwydd lle mae hi’n bosib adnabod y troseddwr yn glir
Pwrpas y Cyfarwyddyd hwn, ble mae’n berthnasol a phryd y daw i rym.
Darpariaethau statudol ac egwyddorion allweddol sydd wrth wraidd y Cyfarwyddyd hwn.
Dyletswydd Erlynwyr y Goron i benderfynu ar achosion lle dylid cyhuddo.
Trefniadau yn y cyfamser ar gyfer cyhuddo mewn rhai achosion lle bydd ple euog tebygol
Manylion, gydag eithriadau, achosion lle caiff yr heddlu gyhuddo
Gall yr Heddlu benderfynu ar y cyhuddiad yn yr achosion canlynol:
Achosion lle mae’r heddlu yn cyhuddo a fydd yn cael eu harolygu gan Erlynydd y Goron.
Lle bydd yr heddlu yn penderfynu ar gyhuddiad dan y Cyfarwyddyd hwn, bydd y penderfyniad hwnnw a’r cyhuddiad yn cael eu harolygu gan Erlynydd y Goron yn gweithredu dan Adran 10 Deddf Erlyniad Troseddau 1985 a than Adran 37B Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (newidiad).
CPS i gyhuddo mewn achosion a ddirprwyir i’r heddlu mewn achosion neilltuol.
Lle bo’r cyhuddiadau neu’r cyhuddiadau ar y cyd sydd i’w dwyn yn erbyn un neu fwy o bersonau yn cynnwys cyfuniad o droseddau, rhai ohonynt yn rhai y gall yr heddlu benderfynu yn eu cylch, ac eraill yn rhai y mae’n rhaid i Erlynydd y Goron eu hystyried, bydd Swyddog y Ddalfa yn cyfeirio’r holl gyhuddiadau at Erlynydd y Goron i’w penderfynu.
Cymhwyso’r Côd ar gyfer Erlynwyr y Goron o ran Swyddogion y Ddalfa.
Wrth benderfynu ar gyhuddiadau, bydd Erlynwyr y Goron a Swyddogion y Ddalfa yn cymhwyso’r egwyddorion a geir yn argraffiad diweddaraf y Côd ar gyfer Erlynwyr y Goron.
Dewis cyhuddiad, amrywiaeth a nifer y cyhuddiadau.
Wrth benderfynu ar yr holl gyhuddiadau i’w dwyn ymlaen, dylai’r cyhuddiadau a ddewisir geisio adlewyrchu difrifoldeb a graddau’r troseddu. Hefyd, dylent geisio rhoi pwerau dedfrydu digonol i’r llys, a sicrhau y gellir cyflwyno’r achos mewn ffordd eglur a syml. Lle bo hynny’n briodol, gellir cynnwys rhestr o droseddau eraill y cyfaddefwyd iddynt ar MG18 er mwyn i’r sawl a gyhudddir ofyn i’r Llys eu cymryd i ystyriaeth.
Cymhwyso’r Prawf Côd Llawn yn gyffredinol.
Mewn unrhyw achos lle mae angen gwneud penderfyniad cyhuddo, a lle mae’r wybodaeth y mae’n rhaid ei hystyried dan Baragraff 7.2 (isod) y Cyfarwyddyd hwn ar gael i’w harolygu, y safon i’w chymhwyso wrth lunio penderfyniad cyhuddo fydd y Prawf Llawn dan y Côd ar gyfer Erlynwyr y Goron: sef (wedi arolygu’r deunydd tystiolaethol a ddarperir) bod digon o dystiolaeth i roi gobaith realistig o euogfarn ac y byddai bwrw ymlaen er budd y cyhoedd.
Mewn achosion lle penderfynir na fyddai’n briodol i’r person gael ei ryddhau ar fechnïaeth ar ôl cyhuddo a lle nad yw’r wybodaeth y cyfeirir ati ym Mharagraff 7.2 (isod) y Cyfarwyddyd hwn ar gael ar yr adeg y mae’n rhaid gwneud y penderfyniad cyhuddo, yna bydd proses fesul cam yn berthnasol:
Y Prawf Trothwy ar gyfer cyhuddo mewn achosion cadw yn y ddalfa lle nad oes ffeil dystiolaeth ar gael.
Pryd i gymhwyso’r Prawf Côd Llawn ar gyfer Erlynwyr y Goron mewn achosion cadw yn y ddalfa.
Os penderfynir cyhuddo a gwrthod mechnïaeth, rhaid dal i arolygu’r penderfyniad hwnnw. Rhaid asesu’r dystiolaeth a gasglwyd yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod y cyhuddiad yn parhau’n briodol a bod cyfiawnhad dros barhau i wrthwynebu rhoi mechnïaeth. Dim ond am gyfnod cyfyngedig y bydd Erlynwyr y Goron yn cymhwyso’r Prawf Trothwy. Rhaid cymhwyso’r Prawf Côd Llawn cyn gynted ag sy’n ymarferol bosib, gan roi ystyriaeth i gynnydd yr ymchwiliad.
Fodd bynnag, lle bo’r wybodaeth a bennir ym Mharagraff 7.2 ar gael adeg llunio’r Adroddiad cychwynnol i Erlynydd y Goron, bydd y Prawf Côd Llawn yn cael ei gymhwyso.
Y Prawf Trothwy
I gymhwyso’r Prawf Trothwy bydd angen asesu’n gyffredinol, ym mhob un o amgylchiadau’r achos, a oes amheuaeth resymol o leiaf yn erbyn y person ei fod ef neu hi wedi cyflawni trosedd (yn unol ag Erthygl 5 y Confensiwn Ewropeaidd ar Iawnderau Dynol) ac ar y cam hwnnw a fyddai bwrw ymlaen er budd y cyhoedd.
Wrth lunio’r penderfyniad tystiolaethol ym mhob achos bydd angen ystyried nifer o ffactorau gan gynnwys: y dystiolaeth ar gael ar y pryd a’r tebygolrwydd y ceir tystiolaeth bellach a natur y dystiolaeth honno; pa mor rhesymol yw credu y daw tystiolaeth ar gael; yr amser a gymer hynny a’r camau sydd ar droed i’w chasglu; effaith y dystiolaeth ddisgwyliedig ar yr achos, a’r cyhuddiadau y bydd y dystiolaeth yn ei chrynswth yn eu cefnogi.
Mae budd y cyhoedd yn golygu’r un peth ag o dan y Prawf Côd Llawn, ond bydd yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael adeg cyhuddo, a fydd yn aml yn gyfyngedig.
Cymhwyso’r Profion uchod mewn achosion lle mae’r heddlu yn cyhuddo.
Pan fo Swyddogion y Ddalfa, yn unol â’r Cyfarwyddyd hwn, yn gwneud y penderfyniad cyhuddo heb gyfeirio at Erlynwyr y Goron, byddant yn cymhwyso’r Prawf Côd Llawn. Lle bo’r achos yn un lle nad oes bwriad rhyddhau’r person ar fechnïaeth ar ôl cyhuddo a lle nad yw’r deunydd tystiolaethol sydd ei angen i gymhwyso’r Prawf Côd Llawn ar gael, bydd Swyddog y Ddalfa yn mynd ymlaen i gymhwyso’r Prawf Trothwy yn unol â Pharagraff 3.10 uchod.
Yr heddlu yn cyhuddo achosion y CPS mewn argyfwng.
Mewn achosion lle mai Erlynydd y Goron sy’n gyfrifol am gyhuddo yn unol â’r Cyfarwyddyd hwn ac y bwriedir gwrthod mechnïaeth er mwyn gwneud cais i lys am remandio’r person yn y ddalfa (neu am amodau mechnïaeth na ellir eu gosod ond mewn llys) ond y bydd hi’n amhosib ynghynghori ag Erlynydd y Goron yn bersonol neu dros y ffôn cyn y bydd unrhyw derfyn amser cadw yn y ddalfa PACE sy’n berthnasol cyn cyhuddo yn dod i ben, gall Swyddog y Ddalfa fynd ymlaen i gyhuddo, ond ar awdurdod Arolygydd ar Ddyletswydd yn unig. Bydd yr Arolygydd ar Ddyletswydd yn nodi’r cofnod cadw yn y ddalfa a’r MG3 i gadarnhau ei bod hi’n briodol cyhuddo dan y ddarpariaeth argyfwng hon. Rhaid cyfeirio’r achos at Erlynydd y Goron cyn gynted ag y bo’n ymarferol i gael awdurdod i fwrw ymlaen â’r erlyniad.
Ymgynghori cyn gwneud cais i wrthod mechnïaeth yn y llys a remandio am gyfnod byr yn nalfa’r heddlu
Tra bo penderfyniadau i gadw pobl yn y ddalfa neu eu rhoi ar fechnïaeth yn faterion i Swyddog y Ddalfa yn unig, lle’r ymddengys na ddylai person sy’n cael ei gadw gan yr heddlu gael ei ryddhau ac y dylid ei gadw er mwyn gwneud cais i’r llys am ei remandio yn y ddalfa, gan gynnwys cyfnodau byrion yn nalfa’r heddlu er mwyn cynnal ymholiadau i droseddau eraill, mae’n bosib y byddai Swyddog y Ddalfa yn dymuno ymgynghori ag Erlynydd ar Ddyletswydd er mwyn cadarnhau bod unrhyw gais arfaethedig am remandio yn y ddalfa neu osod amodau mechnïaeth na ellir eu gosod ond mewn llys yn gyfiawn yn unol â Deddf Mechnïaeth 1976, fod y cais yn un cyfatebol, ei bod yn debygol y bydd y llys yn gorchymyn hyn a bod digon o fanylion i gefnogi unrhyw gais o’r fath wedi eu cofnodi ar yr MG7.
Dewis llys
Pan fydd Erlynwyr y Goron yn gwneud penderfyniadau cyhuddo yn ymwneud ag achosion a fydd yn cael eu mechnïo yn syth i wrandawiad cychwynnol, bydd Erlynydd y Goron yn penderfynu a yw’r achos yn un priodol ar gyfer Llys Gwrandawiad Cyntaf Cynnar ynteu Llys Gwrandawiad Gweinyddol Cynnar. Bydd hyn yn cael ei nodi ar y ffurflen MG3 gyda’r penderfyniad cyhuddo.
Darpariaethau arbennig ar gyfer achosion Troseddwyr Ifanc Di-baid (PYO)
Erlynwyr y Goron fydd yn gyfrifol am y penderfyniad cyhuddo ym mhob achos lle mae Troseddwyr Ifanc Di-baid oni bai fod y cyhuddiad yn un a nodir ym Mharagraff 3.3 y Cyfarwyddyd hwn.
Unrhyw bryd y bydd person sydd dan 18 oed, neu sy’n ymddangos fel petai dan 18 oed, yn cael ei gymryd i’r ddalfa, bydd Swyddog y Ddalfa yn mynd ati ar unwaith i wirio a yw’r person yn Droseddwr Ifanc Di-baid.
Lle’r ymddengys i’r Swyddog Ymchwilio neu Swyddog y Ddalfa y gallai’r person sy’n destun yr ymchwiliad fod yn Droseddwr Ifanc Di-baid, bydd yn ymgynghori’n gynnar â’r Erlynydd ar Ddyletswydd i gadarnhau’r cyhuddiadau tebygol a’r anghenion tystiolaethol yn yr achos. Defnyddir ymgynghori cynnar i gadw rheolaeth weithredol ar yr holl achosion yn ymwneud â Throseddwyr Ifanc Di-baid er mwyn sicrhau perfformiad cyson o ran symud achosion o’r fath yn eu blaenau.
Lle’r ymddengys y bydd yr achos yn cael ei ymladd, bydd yr Erlynydd ar Ddyletswydd a’r Swyddog Ymchwilio yn cytuno, cyn gynted ag sy’n ymarferol, ac mewn unrhyw achos o fewn 3 diwrnod i’r arestio, ar yr anghenion tystiolaethol er mwyn symud yr achos yn ei flaen ac ar ddyddiad ar gyfer cwblhau’r gwaith y cytunwyd arno, gan gynnwys unrhyw gyfnod ar fechnïaeth cyn cyhuddo, gan roi ystyriaeth i’r targed o 71 diwrnod rhwng arestio a dedfrydu ar gyfer cwblhau achosion o’r fath.
Lleoli Erlynwyr y Goron a’u swyddogaeth
Bydd Prif Erlynwyr y Goron yn trefnu i leoli Erlynwyr y Goron i weithredu fel Erlynydd ar Ddyletswydd mewn lleoliadau a gytunir yn lleol gan roi ystyriaeth i fusnes yr ardal a lle bo modd ar sail wyneb-i-wyneb, neu i fod ar gael fel arall er dibenion cyflawni dyletswydd statudol y CPS. Bydd Erlynwyr ar Ddyletswydd ar gael ar gyfer ymgynghori a byddant yn cynnig y cyngor a’r arweiniad cyfreithiol cynnar, gan gynnwys gwneud penderfyniadau cyhuddo lle bo’n briodol, a fydd yn hwyluso’r broses o baratoi a phenderfynu erlyniadau yn effeithiol ac effeithlon.
Pryd y gall yr heddlu holi am gyngor cynnar
Gellir holi a derbyn ymgynghoriad a chyngor cynnar mewn unrhyw achos (gan gynnwys rhai lle mai’r heddlu eu hunain sy’n penderfynu ar y cyhuddiad) a gall gynnwys trywyddau ymholi, anghenion tystiolaethol a threfniadau cyn cyhuddo. Wrth weithredu’r swyddogaeth hon, bydd Erlynwyr y Goron yn mynd ati’n weithredol i nodi a, lle bo hynny’n bosib, unioni diffygion tystiolaethol a nodi’r achosion sy’n addas i fynd ymlaen i lys ar gyfer ple euog cynnar fel adroddiad brys.
Atal achosion gwan yn gynnar
Dylai ymgynghori cynnar hefyd geisio adnabod achosion gwan eu tystiolaeth, na ellir eu hunioni trwy ymchwilio ymhellach, naill ar y cam hwn neu o gwbl, fel y gellir dwyn yr ymchwiliadau hyn i ben yn gynnar lle bo hynny’n briodol.
Yr Erlynydd ar Ddyletswydd yn gweithredu ar ôl derbyn achos
Pan fo Erlynwyr y Goron yn derbyn ‘Adroddiad i Erlynydd y Goron ar gyfer Penderfyniad Cyhuddo’ (MG3) ynghyd â’r wybodaeth a bennir ym Mharagraff 7.2 isod, mae’n ddyletswydd ar Erlynydd y Goron i arolygu’r dystiolaeth cyn gynted ag sy’n ymarferol, gan roi ystyriaeth i unrhyw ddyddiadau dychwelyd mechnïaeth, a phenderfynu a yw hi’n briodol ai peidio, ar y cam hwnnw, cyhuddo’r person o gyflawni trosedd ynteu eu dargyfeirio o’r system cyfiawnder troseddol.
Hysbysiad ysgrifenedig o gyhuddiad neu benderfyniad arall
Unwaith y gwneir penderfyniad cyhuddo (neu benderfyniad arall), bydd Erlynwyr y Goron yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig o’r penderfyniad trwy lenwi ail ran yr Adroddiad i Erlynydd y Goron ar gyfer Penderfyniad Cyhuddo (MG3) a’i roi i swyddog sy’n rhan o’r ymchwiliad i’r trosedd. Bydd Erlynydd y Goron yn cadw copi.
Cytuno ar gynllun gweithredu er mwyn llunio ffeil achos
WPan ddaw hi’n amlwg yn ystod ymgynghoriad neu wedi derbyn yr Adroddiad i Erlynydd y Goron ar gyfer Penderfyniad Cyhuddo (MG3) na fydd hi’n bosib gwneud penderfyniad cyhuddo ar y cam hwnnw, bydd Erlynydd y Goron sy’n ymgynghori yn rhoi cyngor ynghylch y camau pellach y dylid eu cymryd, gan gynnwys y dystiolaeth i’w chasglu neu’r datganiadau i’w cymryd cyn y gellid gwneud penderfyniad a bydd yn cytuno â’r swyddog ymchwilio pa gamau fydd yn cael eu cymryd a’r amser er mwyn cyflawni hynny. Bydd y cytundeb hwn yn cael ei gofnodi ar yr MG3 a rhoddir copi i swyddog sy’n rhan o’r ymchwiliad. Wrth ddarparu cyngor o’r fath, dylai Erlynwyr y Goron osgoi mynnu’n syml fod ffeiliau llawn yn cael eu darparu ond byddant yn nodi’r dystiolaeth benodol y mae ei hangen neu y dylid ei chasglu yn unol â Pharagraff 7.2 isod. Ni fydd personau yn cael eu cyhuddo nes y bydd pob gweithred gytûn wedi cael ei chwblhau.
Cyfeirio achosion mewn amgylchiadau arbennig
Lle bydd hi’n ymddangos mewn ymgynghoriad cynnar fod yr achos mor gymhleth neu mor sensitif fel y byddai’n fwy priodol ei gyfeirio at uned neu erlynydd arbenigol, neu i erlynydd unigol gael ei enwi ar gyfer yr achos o’r cychwyn cyntaf, bydd yr Erlynydd ar Ddyletswydd, neu unrhyw Erlynydd y Goron yr ymgynghorir ag ef neu hi, yn cysylltu â’r Pennnaeth Uned Rhanbarthol priodol yn ddioed i wneud y trefniadau angenrheidiol.
Llunio ffeiliau tystiolaeth: yr heddlu yn defnyddio mechnïaeth cyn cyhuddo
Mewn achosion a nodir yn rhai sy’n debygol o gael eu hymladd neu eu hanfon i Lys y Goron, bydd Erlynwyr y Goron yn nodi’r gofynion ar gyfer paratoi adroddiadau tystiolaethol lle nad yw’r wybodaeth honno ar gael ar unwaith cyn y gellir gwneud penderfyniad cyhuddo llawn. Os yw’r person yn addas i gael ei ryddhau ar fechnïaeth bydd Swyddog y Ddalfa wedyn yn mechnïo’r person hwnnw am gyfnod sy’n ddigonol fel y gellir cwblhau unrhyw weithredu cytûn ac i Erlynydd y Goron gael ei hysbysu am yr achos ar gyfer penderfyniad cyhuddo.
Hysbysiad ysgrifenedig gan Swyddog y Ddalfa na fydd erlyniad
Pan fydd Erlynydd y Goron yn hysbysu Swyddog y Ddalfa nad oes digon o dystiolaeth i gyhuddo’r person o gyflawni’r trosedd neu fod digon o dystiolaeth ond nad yw budd y cyhoedd yn mynnu y dylid cyhuddo’r person na rhoi rhybudd ar gyfer trosedd, bydd Swyddog y Ddalfa yn hysbysu’r person yn ysgrifenedig am hynny.
Hysbysiad ysgrifenedig gan Swyddog y Ddalfa na fydd erlyniad, ond gweithredu pellach yn bosib
Fodd bynnag, lle bydd hi’n ymddangos i Erlynydd y Goron y gellid ailystyried yr achos dan y Côd ar gyfer Erlynwyr y Goron petai rhagor o dystiolaeth neu wybodaeth yn dod i law yn y dyfodol, bydd Erlynydd y Goron yn hysbysu Swyddog y Ddalfa ynghylch hynny a Swyddog y Ddalfa yn hysbysu’r person yn ysgrifenedig yn unol â hynny.
Tystiolaeth angenrheidiol er mwyn gwneud penderfyniad cyhuddo
Wrth wneud penderfyniadau cyhuddo, bydd Erlynwyr y Goron yn archwilio ac asesu’r dystiolaeth sydd ar gael cyn gwneud penderfyniad. Lle bynnag y bo modd, bydd Erlynwyr y Goron yn ceisio gwneud y penderfyniad ar sail y dystiolaeth a gyflwynir iddynt gan yr ymchwiliwr. Fodd bynnag, lle nad yw hyn yn bosib, bydd Swyddogion y Ddalfa yn trefnu i bersonau gael eu rhyddhau ar fechnïaeth, os yw’n angenrheidiol a phriodol gwneud hynny, fel y gellir darparu’r wybodaeth sydd ei hangen cyn gynted ag sy’n ymarferol.
Ffurf yr adroddiadau
Bydd y wybodaeth a ddarperir gan swyddog sy’n rhan o’r ymchwiliad i Erlynydd y Goron ar gyfer penderfynu ar gyhuddiad ar ffurf ‘Adroddiad i Erlynydd y Goron ar gyfer Penderfyniad Cyhuddo’ (MG3) a rhaid i’r deunyddiau canlynol fod gyda’r ffurflen:
Achosion Llys y Goron a rhai dieuog tebygol
Lle bo’n glir bod yr achos yn debygol o fynd ymlaen i Lys y Goron neu y bydd yn mynd ymlaen i Lys y Goron neu ei fod yn debygol o gael ei ymladd, rhaid cynnwys Adroddiad Tystiolaethol gyda’r Adroddiad i Erlynydd y Goron ar gyfer Penderfyniad Cyhuddo (MG3). Bydd yr Adroddiad tystiolaethol yn cynnwys y dystiolaeth allweddol y bydd yr erlyniad yn dibynnu arni yn ogystal ag unrhyw ddeunydd na fydd yn cael ei ddefnyddio a allai danseilio achos yr erlyniad neu gynorthwyo’r amddiffyniad (gan gynnwys adroddiadau troseddau, disgrifiadau cychwynnol ac unrhyw euogfarnau blaenorol sydd gan dystion allweddol).
Gyda’r Adroddiad Tystiolaethol hefyd rhaid rhoi cyhuddiad(au) a awgrymir, cofnod o euogfarnau a rhybuddion a dderbyniodd y person, ac unrhyw sylwadau gan y swyddog adrodd neu’r swyddog goruchwylio.
Pob achos arall
Mewn unrhyw achos arall a fydd yn cael ei gyfeirio at Erlynydd y Goron ar gyfer penderfyniad cyhuddo, gyda’r Adroddiad i Erlynydd y Goron rhaid cynnwys Adroddiad Brys sy’n cynnwys datganiadau gan dystion allweddol, unrhyw dystiolaeth rymus arall (gweler nodyn 5) a chrynodeb o gyfweliad. Lle’r oedd dim mwy na 4 o swyddogion yr heddlu yn dyst i’r trosedd, gall datganiad gan dyst allweddol a chrynodeb o’r dystiolaeth arall fod yn ddigonol. Yr Erlynydd ar Ddyletswydd dan sylw sydd i benderfynu a ddylai’r crynodeb o’r cyfweliad neu’r tystion eraill o blith yr heddlu fod ar lafar ynteu’n ysgrifenedig.
Gyda’r Adroddiad Brys rhaid cynnwys unrhyw wybodaeth arall a allai fod yn berthnasol o ran y prawf tystiolaethol neu brawf budd y cyhoedd, cofnod o euogfarnau a rhybuddion, ac unrhyw sylwadau gan y swyddog adrodd neu’r swyddog goruchwylio.
Gwybodaeth yn y ffeil mewn achosion cadw yn y ddalfa
Lle gwneir penderfyniad cyhuddo yn unol â Pharagraff 3.9 (i) uchod, yn unol â’r Cyfarwyddyd hwn ac er mwyn hwyluso’r broses o wneud cais i lys am gael remandio person yn y ddalfa, gyda’r Adroddiad i Erlynydd y Goron (MG3) rhaid cynnwys Adroddiad Brys sy’n cynnwys digon o’r deunydd sydd ar gael bryd hynny a manylion byr am unrhyw euogfarnau blaenorol neu rybuddion a dderbyniodd y person fel y gellir cymhwyso’r Prawf Trothwy. Bydd ffeil remánd y Llawlyfr Canllawiau yn cael ei darparu ar gyfer y gwrandawiad dros dro cyntaf a’r gwrandawiadau dros dro wedi hynny, nes y bydd yr Adroddiad i Erlynydd y Goron wedi’i gwblhau a’i gyflwyno neu dystiolaeth bellach y cyfeirir ati ym Mharagraff 3.9 (ii) uchod wedi’i chyflwyno.
Ymgynghori cynnar mewn achosion adroddiad tystiolaethol
Dylid ymgynghori’n gynnar gydag Erlynydd ar Ddyletswydd i nodi’r achosion lle bydd angen ffeil dystiolaethol ac i gytuno ar drefn amser ar gyfer cwblhau a chyflwyno’r Adroddiad i Erlynydd y Goron ar gyfer Penderfyniad Cyhuddo (MG3). Rhaid i swyddog sy’n rhan o’r ymchwiliad gyflwyno’r Adroddiad i Erlynydd y Goron ar gyfer Penderfyniad Cyhuddo (MG3) wedi’i llenwi o fewn y terfyn amser cytûn ynghyd â’r deunydd tystiolaethol y cyfeirir ato ym Mharagraffau 5.6 a 7.2(i) uchod.
Achosion cymhleth neu sensitif
Mewn unrhyw achos lle’r ymddengys i Erlynydd ar Ddyletswydd fod yr achos yn un mor gymhleth neu sensitif fel na ellir gwneud penderfyniad i gyhuddo, neu beidio â chyhuddo, heb wybodaeth lawnach, yna gyda’r Adroddiad i Erlynydd y Goron ar gyfer Penderfyniad Cyhuddo (MG3) rhaid cynnwys ffeil dystiolaethol a’r deunydd y cyfeirir ato ym Mharagraffau 5.6 a 7.2(i) uchod.
Pan fo’r heddlu yn ansicr ynghych y dystiolaeth angenrheidiol
Pan fo Swyddog Ymchwilio o’r farn y gallai person fod wedi codi amddiffyniad mewn cyfweliad, neu’n ansicr a yw person wedi cyfaddef i’r trosedd yn llawn a bod angen cael eglurhad o’r wybodaeth angenrheidiol i’w rhoi gyda’r adrodiad ar gyfer penderfyniad cyhuddo, dylid ymgynghori’n gynnar ag Erlynydd ar Ddyletswydd er mwyn penderfynu a yw’r achos yn debygol o fynd yn ei flaen ac i sefydlu’r anghenion adrodd er mwyn hwyluso’r broses o wneud y penderfyniad cyhuddo.
Ymgynghori cynnar lle bydd y CPS yn cyhuddo ynghylch trosedd
Lle’r ymddengys yn debygol mai Erlynwyr y Goron fydd yn penderfynu ar gyhuddiad, rhaid i Swyddogion y Ddalfa gyfarwyddo’r swyddogion ymchwilio i ymgynghori ag Erlynydd ar Ddyletswydd cyn gynted ag sy’n ymarferol ar ôl i berson gael ei gymryd i’r ddalfa. Fel hyn gellir cytuno’n gynnar ar yr Adroddiad a’r anghenion tystiolaethol a, lle bo’n briodol, penderfynu ar unrhyw gyfnod mechnïaeth fel y gellir cyflwyno’r Adroddiad i Erlynydd y Goron ar gyfer Penderfyniad Cyhuddo (MG3).
Penderfyniadau cynnar
Trwy ymgynghori’n gynnar ag Erlynydd ar Ddyletswydd bydd modd adnabod achosion gwan yn fuan ac unrhyw achosion lle gellir gwneud y penderfyniad cyhuddo ar ôl ystyried tystiolaeth gyfyngedig.
Achosion a gyfeirir lle nad yw’r heddlu yn dymuno erlyn lle mae digon o dystiolaeth i gyhuddo dan y Prawf Trothwy
Mewn unrhyw achos ditiol yn unig sy’n cwrdd â’r Prawf Trothwy a lle bo swyddog ymchwilio neu swyddog goruchwylio yn penderfynu nad yw’n dymuno mynd ymlaen i erlyn, rhaid cyfeirio’r achos at Erlynydd y Goron i gadarnhau a yw’r achos i fynd yn ei flaen ai peidio. Trwy ymgynghori’n gynnar mewn achos o’r fath, gall olygu y gellir cwtogi ar y gwaith o ymchwilio a pharatoi papurau’r achos oni bai fod cymhlethdod neu sensitifrwydd yr achos yn penderfynu’n wahanol.
Y cam pryd y mae’n rhaid cyfeirio achosion at Erlynydd y Goron
Wrth benderfynu a oes digon o dystiolaeth i gyhuddo yn unol ag Adran 37(7) PACE, bydd Swyddogion y Ddalfa yn defnyddio’r Prawf Trothwy a bennir ym Mharagraff 3.10 uchod. Lle bydd hi’n ymddangos, mewn unrhyw achos, nad oes yna’n amlwg ddim tystiolaeth ac nad yw’r Prawf Trothwy yn cael ei fodloni o ran y sawl sydd yn y ddalfa, nid oes angen i Swyddog y Ddalfa gyfeirio’r achos at Erlynydd y Goron cyn rhyddhau’r person hwnnw, boed ar fechnïaeth neu fel arall. Mewn unrhyw achos lle bydd y Cyfarwyddyd hwn yn mynnu bod Erlynwyr y Goron yn penderfynu ar y cyhuddiad a bod Swyddog y Ddalfa o’r farn y bodlonir y Prawf Trothwy, bydd Swyddog y Ddalfa yn sicrhau bod yr achos yn cael ei gyfeirio at Erlynydd y Goron cyn gynted ag y bo’n rhesymol, neu, lle bo’r person yn addas ar gyfer mechnïaeth, yn rhyddhau’r person sydd yn y ddalfa ar fechnïaeth cyn cyhuddo, gyda neu heb amodau, yn unol ag Adran 37(7)(a).
Yr heddlu yn defnyddio mechnïaeth cyn cyhuddo
Mewn unrhyw achos lle bydd y Cyfarwyddyd hwn yn mynnu mai Erlynwyr y Goron sy’n gwneud y penderfyniad cyhuddo ac nad yw’r wybodaeth angenrheidiol ar gael bryd hynny, bydd Swyddogion y Ddalfa yn rhyddhau’r personau hynny sy’n addas i’w mechnïo (gyda neu heb amodau fel y bo’n briodol) fel y gellir ymgynghori ag Erlynydd y Goron a chyflwyno adroddiad tystiolaethol ar gyfer Penderfyniad Cyhuddo (MG3) yn unol â’r Cyfarwyddyd hwn.
Datgeliad cynnar i’r amddiffyniad
Dylai’r cyfnod mechnïaeth fod yn ddigonol i ganiatáu cwblhau’r ymchwiliad, cyflwyno Adroddiad i Erlynydd y Goron ar gyfer Penderfyniad Cyhuddo (MG3), i’r person gael ei gyhuddo, ac i ddatgeliad cynnar o’r dystiolaeth ac unrhyw ddeunydd nas defnyddir y cyfeirir ato ym Mharagraff 7.2 i gael eu darparu i’r amddiffyniad cyn yr ymddangosiad cyntaf.
Oedi cyn cyhuddo – rhesymau eraill
Lle bydd Swyddog y Ddalfa o’r farn bod digon o dystiolaeth i gyhuddo person ond yn dod i’r casgliad nad yw hi ar y cam hwnnw yn briodol cyhuddo’r person o gyflawni trosedd neu ofyn am benderfyniad cyhuddo gan Erlynydd y Goron a’i fod yn bwriadu rhyddhau’r person o ddalfa’r heddlu yn unol ag Adran 37 (7)(b) PACE, dim ond ar fechnïaeth ddiamod y gellir rhyddhau’r person. Dylai Swyddog y Ddalfa gofnodi’r rhesymau dros weithredu fel hyn.
Lle bo’r heddlu o’r farn fod y Prawf Trothwy yn cael ei fodloni mewn achos, heblaw trosedd ditiol yn unig, a’u bod yn penderfynu er budd y cyhoedd rhoi rhybudd syml yn lle hynny, neu roi cerydd neu rybudd terfynol yn achos person ifanc, gall yr heddlu roi’r rhybudd, y cerydd neu’r rhybudd terfynol fel y bo’n briodol, heb gyfeirio’r achos at Erlynydd y Goron.
Er gwaethaf yr uchod, mae’n bosib y bydd swyddog ymchwilio yn dymuno ymgynghori ag Erlynydd y Goron ynghylch unrhyw achos lle bwriedir ymdrin â pherson trwy roi rhybudd, cerydd, neu rybudd terfynol.
Lle mae yna gynllun rhybuddio amodol yn cael ei weithredu’n lleol a bod yr heddlu eisiau rhoi rhybudd amodol i unrhyw berson ynghylch trosedd, rhaid i Swyddog y Ddalfa gyfeirio’r achos at Erlynydd y Goron i gael penderfyniad.
Lle bydd yr heddlu, yn unol â’r Cyfarwyddyd hwn, wedi penderfynu cychwyn achos yn erbyn person trwy ei gyhuddo, a bod Erlynydd y Goron, yn gweithredu dan Adran 10 Deddf Erlyniad Troseddau 1985 ac Adran 37B Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (newidiad) yn hysbysu Swyddog y Ddalfa y byddai’n fwy priodol bwrw ymlaen trwy roi rhybudd amodol (os oes cynllun mewn grym yn lleol), rhybudd syml, cerydd neu rybudd terfynol, bydd Swyddog y Ddalfa yn sicrhau bod y person yn derbyn rhybudd amodol, rhybudd syml, cerydd neu rybudd terfynol fel y bo’n briodol.
Gall Erlynwyr y Goron, wrth gynnal arolwg cyhuddo yn unol â’r Cyfarwyddyd hwn, benderfynu mai cyhuddiad, rhybudd amodol (os oes cynllun mewn grym yn lleol), rhybudd syml, cerydd neu rybudd terfynol sy’n briodol. Rhoddir hysbysiad ysgrifenedig o’r penderfyniad i Swyddog y Ddalfa ar ffurflen MG3. Lle gwelir wedi hynny na fydd hi’n bosib rhoi’r rhybudd amodol (os oes cynllun mewn grym yn lleol), rhybudd syml, cerydd neu rybudd terfynol i’r person, bydd y mater yn cael ei gyfeirio’n ôl at Erlynydd y Goron i benderfynu a ddylid cyhuddo’r person o gyflawni’r trosedd yn lle hynny.
Os bydd person yn cael ei ryddhau ar fechnïaeth tra bydd yn aros am benderfyniad y CPS ynghylch cyhuddo neu’n cael ei ailryddhau yn dilyn ei arestio am dorri amodau mechnïaeth i’r diben hwnnw [dan Adran 37(7)(a) neu 37C(2)(b) PACE,] a bod y person hwnnw wedyn yn cael ei arestio dan Adran 46A (1A) PACE ar seiliau rhesymol o fod wedi torri unrhyw un o amodau’r fechnïaeth, neu am fethu ildio i’r fechnïaeth yng ngorsaf yr heddlu, a bod Swyddog y Ddalfa yn dod i’r casgliad y dylai’r person gael ei gadw yn y ddalfa er mwyn gwneud cais i’r llys i gael ei remandio yn y ddalfa, bydd Swyddog y Ddalfa yn ymgynghori ag Erlynydd y Goron i gael penderfyniad a ddylid cyhuddo’r person o’r trosedd y cafodd y ei ryddhau ar fechnïaeth yn ei gylch o’r blaen neu o unrhyw drosedd arall neu gael ei ryddhau heb gyhuddiad naill ai ar fechnïaeth neu heb fechnïaeth.
Mewn unrhyw achosion o’r fath lle na fu’n bosib ymgynghori ag Erlynydd y Goron yn bersonol neu dros y ffôn cyn unrhyw derfyn amser cadw yn y ddalfa PACE ac y bwriedir gwrthod mechnïaeth er mwyn gwneud cais am remandio’r person yn y ddalfa (neu am amodau mechnïaeth na ellir eu gosod ond mewn llys), gall Swyddog y Ddalfa fynd ymlaen i gyhuddo, ond ar awdurdod Arolygydd ar Ddyletswydd yn unig. Bydd yr Arolygydd ar Ddyletswydd yn nodi’r cofnod cadw yn y ddalfa a’r MG3 i gadarnhau ei bod hi’n briodol cyhuddo dan y darpariaethau argyfwng. Rhaid cyfeirio’r achos at Erlynydd y Goron cyn gynted ag y bo’n ymarferol i gael awdurdod i fwrw ymlaen â’r erlyniad.
Gweithredoedd yr heddlu ar ôl cyfeirio
Os, mewn unrhyw achos, na fydd Swyddog Ymchwilio neu Swyddog y Ddalfa yn cytuno â’r penderfyniad cyhuddo, anghenion yr Adroddiad neu unrhyw gynnig dargyfeirio gan Erlynydd y Goron a’u bod yn dymuno i’r achos gael ei gyfeirio i’w arolygu ymhellach, rhaid i’r achos gael ei gyfeirio at y Rheolwr Troseddau BCU (Ditectif Brif Arolygydd fel arfer), neu Ddirprwy a benodir, ar gyfer ymgynghori â Phennaeth Uned CPS, neu Ddirprwy a benodir er mwyn datrys y mater. Os bydd angen mynd â’r peth ymhellach dylid sicrhau cyfraniad Comander y Rhanbarth a’r Pennaeth Uned Lefel E neu Brif Erlynydd y Goron. Dylai fod trefniadau yn eu lle er mwyn i’r arolwg hwn gael ei gynnal yn gyflym.
Yr Adroddiad i Erlynydd y Goron ar gyfer Penderfyniad Cyhuddo y dylid ei ddefnyddio yw’r ffurflen MG3. Mae copi ynghlwm yn Atodiad B y Cyfarwyddyd hwn. Gall Bwrdd Golygyddol y Llawlyfr Canllawiau addasu’r ffurflen hon o bryd i’w gilydd.
Bydd yr holl drefniadau ymgynghori a’r gweithdrefnau ar gyfer paratoi, prosesu a chyflwyno ffeiliau erlyn a datgelu deunydd nas defnyddir yn cael eu cynnal yn unol â darpariaethau argraffiad diweddaraf y Llawlyfr Canllawiau a gytunwyd rhwng y Swyddfa Gartref, Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron.
Ken Macdonald QC
Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus
