Cyfarwyddyd gan y Cyfarwyddwr ynghylch Rhybuddiad Amodol
Cyfarwyddyd i Swyddogion yr Heddlu ac Erlynwyr y Goron a gyflwynwyd gan y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus dan Adran 37A Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol (PACE) 1984
Pedwaredd Argraffiad: Chwefror 2007
- Cyflwyniad |
- Troseddau ble gallai Rhybuddiad Amodol fod yn briodol |
- Amgylchiadau ble gallai Rhybuddiad Amodol fod yn briodol |
- Cyfeirio ar gyfer penderfyniadau dargyfeirio |
- Gwybodaeth i’w darparu gan yr heddlu i Erlynydd y Goron |
- Cyfrifoldebau’r Heddlu |
- Cyfrifoldebau Erlynydd y Goron |
- Pennu o fewn faint o amser y mae’n rhaid cydymffurfio ag amodau |
- Rhyddhau personau ar fechnïaeth ar gyfer ystyried rhoi Rhybuddiad Amodol |
- Monitro cydymffurfio a dal gafael ar bapurau achosion |
- Sicrhau cytundeb dros benderfyniadau i roi Rhybuddiad Amodol |
- Personau wedi’u Hawdurdodi |
- Gofynion i gydymffurfio â darpariaethau’r Llawlyfr Canllawiau| |
- Cyflwyniad
- Pwrpas y Cyfarwyddyd hwn yw sicrhau bod Swyddogion y Ddalfa ac Erlynwyr y Goron yn gallu penderfynu sut y dylid ymdrin â pherson pan fydd:
- Swyddog y Ddalfa yn penderfynu bod digon o dystiolaeth i gyhuddo person o gyflawni trosedd;
- Swyddog y Ddalfa neu swyddog sy’n ymwneud â’r ymchwiliad o’r farn y gallai’r person fod yn addas ar gyfer Rhybuddiad Amodol;
- Erlynydd y Goron o’r farn y gallai’r person fod yn addas ar gyfer Rhybuddiad Amodol.
- Mae’r Canllaw hwn yn nodi pa wybodaeth y mae’n rhaid ei hanfon at Erlynwyr y Goron fel y gellir gwneud penderfyniad ynghylch Rhybuddiad Amodol, i gadarnhau cydymffurfio â’r amodau ac ymdrin ag unrhyw dorri amodau neu fethiant i gydymffurfio.
- Nid yw’r Canllaw hwn ond yn berthnasol i’r achosion hynny y mae’n rhaid i’r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus ymdrin â hwy yn unol ag Adran 3 Deddf Erlyniad Troseddau 1985.
- Bydd y Canllaw hwn yn dod i rym yn Rhanbarthau’r Byrddau Cyfiawnder Troseddol Lleol, neu rannau ohonynt, a bydd yn gymwys yn unig i’r achosion a nodir yn yr Adodlen a gysylltir o’r dyddiadau a nodir.
- Ble bo’n briodol, defnyddir trefniadau mechnïaeth cyn cyhuddo er mwyn hwyluso’r broses o ystyried pa mor addas yw rhoi Rhybuddiad Amodol mewn unrhyw achos (Adran 37(7) PACE).
- Bydd Erlynwyr y Goron yn hysbysu Swyddog y Ddalfa, neu swyddog sy’n ymwneud â’r ymchwiliad, o’r penderfyniad i fwrw ymlaen â Rhybuddiad Amodol gan ddefnyddio Ffurflen MG3 (Adran 37(7) (a) PACE).
- Os bydd Erlynwyr y Goron yn penderfynu y dylid cyhuddo person o gyflawni trosedd neu y dylai dderbyn rhybuddiad neu Rybuddiad Amodol yn gysylltiedig â throsedd, dylid cyhuddo’r person neu roi rhybuddiad neu Rybuddiad Amodol yn unol â hynny (Adran 37B (6) PACE).
- Dim ond Person wedi’i Awdurdodi all weinyddu Rhybuddiad Amodol (Adran 22, CJA 2003).
- Os bydd Erlynwyr y Goron yn penderfynu y dylid rhoi Rhybuddiad Amodol i berson, ond na fydd yn bosib rhoi rhybuddiad o’r fath i’r person, bydd Erlynwyr y Goron yn pennu a ddylid cyhuddo’r person o gyflawni’r trosedd yn lle hynny (Adran 37B (7)).
- Os bydd Erlynwyr y Goron yn penderfynu nad oes digon o dystiolaeth i gyhuddo neu er bod digon o dystiolaeth i gyhuddo, na ddylid cyhuddo person na rhoi rhybuddiad iddo ef neu hi, dylai Swyddog y Ddalfa roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person hwnnw na fydd yn cael ei erlyn (Adran 37B (5)).
- Os bydd troseddwr, heb esgus rhesymol, yn methu cydymffurfio ag unrhyw rai o’r amodau sydd ynghlwm wrth Rybuddiad Amodol, gallai Erlynydd y Goron benderfynu dwyn achos o drosedd yn erbyn y person am y trosedd dan sylw (Adran 24(1) CJA 2003).
- Yr unig adeg y bydd Rhybuddiad Amodol yn peidio â bod mewn grym yw pan gychwynnir dwyn achos am y trosedd y rhoddwyd y rhybuddiad ar ei gyfer.
- Troseddau ble gallai Rhybuddiad Amodol fod yn briodol
- Gallai’r troseddau a nodir yn Rhan B yr Atodlen a gysylltir gael eu hystyried yn addas ar gyfer rhoi Rhybuddiad Amodol.
- Amgylchiadau ble gallai Rhybuddiad Amodol fod yn briodol
- Gallai Rhybuddiad Amodol fod yn briodol os bydd Erlynydd y Goron o’r farn, er bod budd y cyhoedd yn cyfiawnhau erlyn, y gallai fod yn well o ran budd y person, y dioddefwr neu’r gymuned petai’r person yn cydymffurfio ag amodau addas gyda’r bwriad o ailsefydlu neu wneud iawn a allai gynnwys proses adferol.
- Rhaid i Erlynydd y Goron fod yn fodlon hefyd y bydd erlyniad yn parhau’n angenrheidiol petai’r cynnig o Rybuddiad Amodol yn cael ei wrthod neu petai’r person yn methu cadw at delerau ac amodau cytûn y rhybuddiad.
- Cyfeirio ar gyfer penderfyniadau dargyfeirio
- Os bydd yn ymddangos i Swyddog y Ddalfa, neu swyddog sy’n ymwneud â’r ymchwiliad, bod digon o dystiolaeth i gyhuddo person o gyflawni trosedd a nodir yn yr Atodlen a gysylltir ond y byddai’n fwy priodol ymdrin â’r person trwy gyfrwng Rhybuddiad Amodol, bydd Swyddog y Ddalfa yn bwrw ymlaen yn unol â pharagraff 6.1 isod.
- Hefyd, os bydd unrhyw achos yn cael ei gyfeirio at Erlynydd y Goron ar gyfer penderfyniad ynghylch cyhuddo a’i bod yn ymddangos y byddai’n fwy priodol ymdrin â’r person trwy roi rhybuddiad neu Rybuddiad Amodol, bydd Erlynydd y Goron yn hysbysu Swyddog y Ddalfa a fydd yn bwrw ymlaen yn unol â pharagraff 6.2 isod.
- Gwybodaeth i’w darparu gan yr heddlu i Erlynydd y Goron
- Ffurf y wybodaeth sydd i’w darparu gan swyddog sy’n ymwneud â’r ymchwiliad mewn unrhyw achos sy’n ymddangos yn fwy addas ar gyfer ei benderfynu trwy Rybuddiad Amodol, fydd Adroddiad i Erlynydd y Goron ar gyfer Penderfyniad Cyhuddo (MG3) a rhaid cynnwys adroddiad brys gyda’r adroddiad, sy’n nodi’r canlynol:
- datganiad(au) gan dystion allweddol gydag arddangosion perthnasol
- crynodeb byr o’r cyfaddefiad a geir mewn cyfweliad dan rybuddiad
- cofnod o unrhyw euogfarnau neu rybuddiadau blaenorol y person
- MG14 drafft yn disgrifio’r amodau arfaethedig
- unrhyw sylwadau gan yr heddlu o ran pa mor addas fyddai hi i’r person dderbyn penderfyniad i roi cyfiawnder dargyfeiriol neu adferol
- MG 19 wedi’i gwblhau, ynghyd ag unrhyw dderbynebau neu amcangyfrifon sydd ar gael, ble bydd amod arfaethedig yn ymwneud â thalu unrhyw iawndal sy’n codi yn sgil y trosedd.
- Ble cynigir canlyniad yn gysylltiedig â chyfiawnder adferol, dylai’r MG3 nodi’r trefniadau sydd i’w gwneud ar gyfer cytuno ar unrhyw amodau a allai fod yn briodol ar gyfer penderfyniad o’r fath.
- Cyfrifoldebau’r Heddlu
- Os bydd yn ymddangos i swyddog sy’n ymwneud ag ymchwiliad neu Swyddog y Ddalfa y gallai Rhybuddiad Amodol fod yn fwy priodol mewn unrhyw achos, bydd Swyddog y Ddalfa yn sicrhau bod swyddog sy’n ymwneud â’r ymchwiliad, mor fuan ag y bo’n ymarferol, yn cyflwyno MG3 ac MG14 drafft fel nodir uchod i Erlynydd y Goron.
- Mewn unrhyw achos arall, os bydd Erlynydd y Goron yn hysbysu’r heddlu y gallai Rhybuddiad Amodol fod yn briodol, bydd Swyddog y Ddalfa neu swyddog sy’n ymwneud â’r ymchwiliad yn ystyried, yn sgil holl amgylchiadau’r achos, gan gynnwys y tebygolrwydd y byddai’r person yn cydymffurfio â’r amodau arfaethedig, a fyddai Rhybuddiad Amodol yn ffordd addas o benderfynu’r achos ac os byddai’n addas, bydd yn cyflwyno MG14 drafft i’w gymeradwyo gan Erlynydd y Goron.
- Mewn unrhyw achos, os bydd Erlynydd y Goron yn penderfynu bod Rhybuddiad Amodol yn briodol, ar ôl derbyn yr MG3 a chymeradwyo’r MG14 bydd Swyddog y Ddalfa neu swyddog sy’n ymwneud â’r ymchwiliad yn mynd ati i weinyddu’r Rhybuddiad Amodol cyn gynted ag y bo’n ymarferol.
- Yn ystod unrhyw gam cyn gweinyddu’r rhybuddiad, os ymddengys yn bosib na fydd y person yn cadw at yr amodau, neu os bydd gwybodaeth arall yn ymddangos yn berthnasol o ran a yw Rhybuddiad Amodol yn ffordd addas o benderfynu ar yr achos, bydd y mater yn cael ei gyfeirio’n ôl (MG3A) at Erlynydd y Goron i’w ystyried ymhellach.
- Os na fydd yn bosib rhoi rhybuddiad neu Rybuddiad Amodol i’r person, bydd y mater yn cael ei gyfeirio’n ôl (MG3A) at Erlynydd y Goron a fydd yn adolygu’r amodau a phennu a ddylid cymhwyso’r un amodau a/neu amodau eraill ynteu a ddylid cyhuddo’r person o gyflawni’r trosedd.
- Os bydd Swyddog y Ddalfa yn cyfeirio mater yn ôl at Erlynydd y Goron i roi ystyriaeth bellach i ba mor briodol yw Rhybuddiad Amodol yn yr achos, bydd penderfyniad Erlynydd y Goron yn derfynol a bydd Swyddog y Ddalfa neu swyddog sy’n ymwneud â’r ymchwiliad yn bwrw ymlaen yn ôl cyfarwyddyd Erlynydd y Goron, yn amodol ar y drefn benderfynu a ddisgrifir ym pharagraff 11.1 isod.
- Cyfrifoldebau Erlynydd y Goron
- Bydd Erlynwyr y Goron sy’n derbyn MG3 a dogfennau perthnasol yn adolygu’r holl dystiolaeth a gwybodaeth sydd ar gael ac yn pennu, yn ôl holl amgylchiadau’r achos, a yw rhybuddiad neu Rybuddiad Amodol yn benderfyniad priodol ac, yn achos Rhybuddiad Amodol, bod unrhyw amodau arfaethedig yn briodol i’r achos, yn gymesur a chyraeddadwy. Bydd y penderfyniad hwn yn cael ei gadarnhau gan Erlynydd y Goron trwy gwblhau Rhan II yr MG3 neu MG3A a rhaid hysbysu swyddog sy’n ymwneud â’r ymchwiliad neu Swyddog y Ddalfa. Dim ond pan fydd yr heddlu wedi derbyn y cadarnhad hwn y bydd rhybuddiad neu Rybuddiad Amodol yn cael ei weinyddu i berson.
- Mewn unrhyw achos ble bydd Swyddog y Ddalfa wedi cyfeirio achos at Erlynydd y Goron ar gyfer ystyried rhoi Rhybuddiad Amodol, a bod Erlynydd y Goron yn penderfynu ei bod yn fwy priodol mynd ati i erlyn yr achos, bydd Erlynydd y Goron yn penderfynu ar y cyhuddiad neu’r cyhuddiadau i fwrw ymlaen â nhw, yn nodi’r penderfyniad hwn ar yr MG3 neu MG3A a hysbysu Swyddog y Ddalfa. Bydd Swyddog y Ddalfa yn trefnu bod y person yn cael ei gyhuddo yn unol â hynny.
- Wrth ystyried unrhyw achos ble cyflwynwyd Adroddiad MG3 ar gyfer Penderfyniad Cyhuddo, os bydd Erlynydd y Goron yn dod i’r casgliad ei bod hi’n ymddangos yn fwy priodol mynd ati i roi rhybuddiad neu Rybuddiad Amodol, bydd Erlynydd y Goron yn hysbysu’r penderfyniad hwnnw trwy lenwi ac anfon Rhan II yr MG3 neu’r MG3A at y swyddog sy’n ymwneud â’r ymchwiliad, neu Swyddog y Ddalfa, ac yn achos Rhybuddiad Amodol arfaethedig, bydd yn cynnwys drafft o unrhyw amodau a ystyrir yn briodol yn yr achos.
- Os penderfynwyd cychwyn achos ar gyfer trosedd mewn unrhyw achos, ond ei bod yn ymddangos maes o law y gallai Rhybuddiad Amodol fod yn briodol, bydd Erlynydd y Goron yn arolygu’r achos drachefn. Cyn belled â’i bod yn amlwg bod y person yn barod i gytuno â’r amodau penodedig a’i fod wedi cyfaddef mewn cyfweliad dan rybuddiad iddo gyflawni’r trosedd, gallai Erlynydd y Goron benderfynu y dylai’r person gael Rhybuddiad Amodol ac, yn dilyn rhoi Rhybuddiad Amodol, bydd yn tynnu’r achos yn ôl. Dan amgylchiadau o’r fath ac adeg rhoi’r Rhybuddiad Amodol, bydd y person yn cael gwybod y gallai unrhyw fethiant i gadw at yr amodau arwain at erlyniad am y trosedd y cyhuddwyd ef o’i gyflawni’n flaenorol.
- Pennu o fewn faint o amser y mae’n rhaid cydymffurfio ag amodau
- Gyda throsedd dan ystyriaeth, os oes cyfyngiad amser ar gychwyn y trafodion, rhaid i unrhyw amser sydd ar gael i gadw at amodau fod yn ddigonol i ganiatáu unrhyw weithredu priodol petai’r troseddwr yn torri amodau neu’n methu cydymffurfio, gan gynnwys cychwyn y trafodion. Fodd bynnag, dylai unrhyw derfynau amser ganiatáu i’r amodau gael eu cwblhau o fewn cyfnod rhesymol o amser a bod yn gymesur a phriodol o ran y trosedd ac amgylchiadau’r person.
- Rhyddhau personau ar fechnïaeth ar gyfer ystyried rhoi Rhybuddiad Amodol
- Os bydd Swyddfa’r Ddalfa o’r farn bod achos yn addas ar gyfer rhoi Rhybuddiad Amodol, os yw’r person wedi cyfaddef iddo gyflawni’r trosedd, yr amodau priodol wedi’u nodi yn rhwydd a’r person wedi nodi parodrwydd i gadw at yr amodau hynny, bydd trefniadau’n cael eu gwneud i gyfeirio’r achos at Erlynydd y Goron cyn gynted ag y bo’n ymarferol ac i hwyluso hyn, gellir rhyddhau’r person ar fechnïaeth gyda neu heb amodau yn unol ag Adran 37(7)(a) PACE. Y tu allan i oriau gwaith arferol, bydd y person yn cael ei ryddhau ar fechnïaeth er mwyn cyfeirio’r achos at Erlynydd y Goron ar y diwrnod gwaith priodol nesaf.
- Dylai cyfnod y fechnïaeth mewn unrhyw achos fod mor fyr â phosib er mwyn caniatáu digon o amser ar gyfer paratoi’r adroddiad brys a chasglu unrhyw wybodaeth, gan gynnwys paratoi MG14 drafft, a fydd yn galluogi Erlynydd y Goron i benderfynu pa mor briodol yw Rhybuddiad Amodol, gan gynnwys unrhyw brosesau adferol yn yr achos. Gallai’r cyfnod hwn o fechnïaeth hefyd hwyluso cyfweld y person gan unrhyw Gynghorwr, Gweithiwr Cymdeithasol, Swyddog Prawf neu unrhyw berson perthnasol arall, a chaniatáu ymgynghori â’r dioddefwr ble bo’n briodol.
- Y tu allan i oriau gwaith arferol, os bydd yn rhaid gwneud penderfyniad i gyhuddo mewn achos a allai fod yn briodol ar gyfer Rhybuddiad Amodol ond na ellir pennu manylion yr amodau arfaethedig bryd hynny, bydd y person yn cael ei ryddhau ar fechnïaeth er mwyn caniatáu rhoi ystyriaeth bellach i’r achos, gan gynnwys cyfeirio at Erlynydd y Goron.
- Os bydd person yn derbyn mechnïaeth ar gyfer ystyried Rhybuddiad Amodol gan Erlynydd y Goron, gellir gosod amodau ar y fechnïaeth dan Adran 37(7)(a), ble bo angen, yn unol â Deddf Mechnïaeth 1976.
- Monitro cydymffurfio a dal gafael ar bapurau achosion
- Unwaith y bydd y person wedi’i awdurdodi wedi gweinyddu’r Rhybuddiad Amodol, bydd yr heddlu’n cadw’r adroddiad brys MG3 a dogfennau cyflawn MG14 hyd nes y cadarnhawyd bod y person wedi cadw at yr holl amodau’n foddhaol.
- Os bydd person wedi cwblhau’r holl ofynion angenrheidiol yn foddhaol o fewn yr amser penodedig, bydd y person wedi’i awdurdodi, neu unrhyw berson sy’n gorfod monitro cydymffurfio mewn unrhyw achos unigol yn tystio bod yr amodau wedi’u cwblhau ac yn darparu copi o’r MG14 wedi’i gwblhau i swyddfa Erlynydd y Goron a wnaeth y penderfyniad gwreiddiol.
- Os bydd swyddog sy’n ymwneud â’r ymchwiliad, neu unrhyw berson a benodwyd i fonitro cydymffurfio ag unrhyw amodau, yn ystyried bod person wedi torri amodau neu o bosib nad yw’n cadw at unrhyw rai o’r amodau, bydd y person hwnnw’n cael gwybodaeth am y torri amodau neu’r methiant i gadw at yr amodau, gan gynnwys rhoi cyfle i’r person esbonio’r torri amodau neu’r methiant i gadw at yr amodau. Pan fydd hyn wedi’i wneud, bydd papurau gwreiddiol yr achos ynghyd ag adroddiad yn rhoi manylion y torri amodau neu fethiant i gadw at yr amodau yn cael eu hanfon at Erlynydd y Goron a fydd yn adolygu’r achos.
- Yna bydd Erlynydd y Goron yn ystyried a fethwyd cadw at amodau ac os felly, a oes esgus rhesymol dros y torri amodau neu’r methiant i gadw atynt. Os penderfynir bod esgus rhesymol, bydd Erlynydd y Goron yn penderfynu a yw’n briodol estyn y terfyn amser er mwyn cwblhau’r amodau. Mewn amgylchiadau eithriadol, gellir newid yr amodau yn sgil unrhyw newid amgylchiadau ers gorfodi’r Rhybuddiad Amodol. Os cafodd yr amodau eu cwblhau’n rhannol, bydd Erlynydd y Goron yn penderfynu a yw’r graddau y cadwyd yn rhannol at y Rhybuddiad Amodol yn ddigon i’w hystyried wedi’u cwblhau. Os penderfynir nad oes esgus rhesymol, bydd Erlynydd y Goron yn penderfynu a ddylid cyhuddo’r person o gyflawni’r trosedd gwreiddiol.
- Yn dilyn torri amod neu fethiant i gadw at amod, os bydd Erlynydd y Goron yn penderfynu y dylid amrywio’r amodau neu estyn yr amser ar gyfer eu cwblhau neu os bydd yn penderfynu cychwyn achos, bydd hyn yn cael ei gadarnhau’n ysgrifenedig i Swyddog y Ddalfa trwy gwblhau MG3A. Mewn unrhyw achos ble bydd yr amodau’n cael eu hamrywio, bydd Swyddog y Ddalfa neu Berson wedi’i Awdurdodi yn sicrhau bod y person yn cytuno ac yna’n trefnu i gwblhau MG14 diwygiedig.
- Unwaith y bydd yr heddlu wedi derbyn MG3A wedi’i gwblhau sy’n galw am gychwyn achos, fe wneir trefniadau ar unwaith i ddechrau dwyn achos, gan roi ystyriaeth i unrhyw gyfyngiadau amser sy’n berthnasol i’r achos, trwy wys neu drwy sicrhau gwarant gwrandawiad cyntaf os bydd Swyddog y Ddalfa o’r farn y byddai cyflwyno gwys yn aneffeithiol.
- Unwaith y bydd achos wedi’i gychwyn, bydd yr MG3 gwreiddiol yn cael ei ddefnyddio i erlyn yr achos oni bai fod y person yn pledio’n ddieuog, ac os felly bydd y swyddog sy’n ymwneud â’r ymchwiliad yn cwblhau a chyflwyno ffeil lawn.
- Sicrhau cytundeb dros benderfyniadau i roi Rhybuddiad Amodol
- Mewn unrhyw achos, os na fydd Swyddog y Ddalfa, neu swyddog sy’n ymwneud â’r ymchwiliad, yn cytuno â’r cynnig i ddargyfeirio a’u bod yn dymuno cael cyfeirio’r achos ar gyfer adolygiad pellach, rhaid cyfeirio’r achos at Reolwr Rhanbarthol y Ddalfa (sef y Prif Arolygydd fel arfer) neu Ddirprwy penodedig er mwyn ymgynghori â Phennaeth Uned y CPS neu Ddirprwy penodedig ar gyfer datrys y mater. Os bydd angen mynd â’r mater ymhellach, dylid gofyn am gyfraniad y Cadlywydd Rhanbarthol a Phennaeth Uned Lefel E neu Brif Erlynydd y Goron.
- Personau wedi’u Hawdurdodi
- Dim ond Person wedi’i Awdurdodi all weinyddu Rhybuddiad Amodol i berson 18 oed neu drosodd.
- Person wedi’i awdurdodi yw cwnstabl, swyddog ymchwilio a bennir dan Adran 38 Deddf Diwygio’r Heddlu 2002 neu berson wedi’i awdurdodi gan y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus neu Brif Erlynydd y Goron i weinyddu Rhybuddiadau Amodol.
- Gofynion i gydymffurfio â darpariaethau’r Llawlyfr Canllawiau
- Ffurf yr adroddiad ar gyfer ystyried rhoi Rhybuddiadau Amodol mewn unrhyw achos fydd yr Adroddiad i Erlynydd y Goron ar gyfer Penderfyniad i Gyhuddo (Ffurflen MG3).
- Y ffurflen ar gyfer drafftio a chofnodi amodau ynghlwm wrth rybuddiad a’r dystysgrif gwblhau fydd MG14.
- Bydd yr holl drefniadau a gweithdrefnau ymgynghori ar gyfer gweinyddu Rhybuddiadau Amodol ac ar gyfer cyflwyno ffeiliau erlyn yn cael eu cynnal yn unol â darpariaethau rhifyn diweddaraf y Llawlyfr Canllawiau fel y cytunwyd rhwng y Swyddfa Gartref, Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron. Gall Bwrdd Golygyddol y Llawlyfr Canllawiau amrywio ffurflenni MG3 ac MG14 o bryd i’w gilydd.
Darpariaethau ac egwyddorion allweddol y Canllaw hwn
Ystyriaethau budd y cyhoedd.
Cynnwys adroddiad brys.
Cyfeirio achosion addas at y CPS.
Cyfeirio achosion at Erlynydd y Goron.
Cyfeirio ar gyfer ystyried ymhellach.
Os na fydd modd gweinyddu rhybuddiad.
Terfynoldeb penderfyniad Erlynydd y Goron.
Adolygiad Erlynydd y Goron.
Os bydd Erlynydd y Goron yn pennu y byddai’n fwy priodol cyhuddo.
Os bydd Erlynydd y Goron yn penderfynu bod dargyfeirio yn fwy priodol.
Trefniadau i roi Rhybuddiad Amodol ar ôl Cyhuddo
Troseddau ynadol – terfynau amser.
Penderfyniadau wedi’u brysio.
Oedi’r penderfyniad i roi rhybuddiad.
Mechnïaeth amodol.
Hyd amser dal gafael ar bapurau achosion.
Gweithredu gan yr heddlu – cwblhau amodau’n briodol.
Gweithredu gan yr heddlu ar dorri amodau.
Adolygu a gweithredu gan Erlynwyr y Goron yn dilyn torri amodau neu fethu cydymffurfio.
Cychwyn achos.
Person wedi’i awdurdodi - diffiniad.
Llawlyfr Canllawiau.
Ken Macdonald QC
Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus
