Chwilio Manwl

Mae’r dudalen hon yn cynnwys cysylltau at gynnwys Cymraeg a Saesneg

Sylwch y bydd rhai o’r cysylltau ar y dudalen hon yn mynd â chi at rannau Saesneg gwefan Gwasanaeth Erlyn y Goron.

Protocolau Cenedlaethol a Chytundebau gydag Asiantaethau Eraill

Teitl

Troseddau Rhyfel a Throseddau yn erbyn y Ddynoliaeth

Disgrifiad

Cytundeb rhwng Uned Troseddau yn erbyn y Ddynoliaeth SO15 yn Heddlu Llundain (SO15) ac Is-adran Gwrthderfysgaeth (CTD) Gwasanaeth Erlyn y Goron mewn perthynas â honiadau o Droseddau Rhyfel a/neu Droseddau yn erbyn y Ddynoliaeth.

Nodiadau Ychwanegol

Ar gael ar-lein

Teitl

Datganiad Disgwyliadau Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ar gyfer y Bar

Disgrifiad

Datganiad sy’n disgrifio’r disgwyliadau cydraddoldeb ac amrywiaeth ar gyfer Siambrau sydd ag aelodau yn gweithio i’r CPS neu’n chwilio am waith gan y CPS, ynghyd â dogfennau perthnasol.

Nodiadau Ychwanegol

Ar gael ar-lein

Teitl

Protocolau Trais yn y Cartref

Disgrifiad

Protocolau ynghylch achosion o drais yn y cartref

Nodiadau Ychwanegol

Ar gael ar-lein

Teitl

Safon y Bar/CPS ar gyfer Cyfathrebu rhwng Dioddefwyr, Tystion ac Eiriolwr yr Erlyniad

Disgrifiad

Mae Safon y Bar/CPS ar gyfer Cyfathrebu rhwng Dioddefwyr, Tystion ac Eiriolwr yr Erlyniad a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2006, yn annog cysylltiadau rhwng yr erlynydd a grwpiau dioddefwyr a thystion yn ystod proses y llys. Fe’i datblygwyd drwy bartneriaeth â’r Bar a Chymdeithas y Cyfreithwyr, ynghyd â phartïon eraill sydd â diddordeb, ac mae’n tanlinellu’r egwyddorion a geir yng Nghanllawiau’r Twrnai Cyffredinol ar Dderbyn Pledion a’r Ymarfer ar Rôl yr Erlyniad mewn Dedfrydu 2005. Mae’n cyfrannu tuag at gyflawniad y CPS o Lw yr Erlynwyr.

Nodiadau Ychwanegol

Ar gael ar-lein ac ar ffurf PDF Adobe Acrobat
Safon y Bar/CPS ar gyfer Cyfathrebu rhwng Dioddefwyr, Tystion ac Eiriolwr yr Erlyniad PDF

Teitl

Cyhoeddusrwydd a’r System Cyfiawnder Troseddol

Disgrifiad

Protocol ar gyfer Cydweithio: Prif Swyddogion yr Heddlu, Prif Erlynwyr y Goron a’r Cyfryngau

Nodiadau Ychwanegol

Ar gael ar-lein

Teitl

Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng y CPS a Chymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu (ACPO) ynghylch Deddf Troseddau Rhywiol Adran 46, 2003

Disgrifiad

Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn rhwng y CPS ac ACPO wedi’i ddrafftio yn unol â chyfraith Ewrop a chartref ac mae’n cydnabod y dylid sicrhau’r rheini sy’n gweithio i reoli, gweithredu neu ddefnyddio rhwydweithiau a gwasanaethau y cânt eu hamddiffyn lle eu bod yn gweithredu er mwyn atal creu a dosbarthu delweddau o gam-drin plant.

Nodiadau Ychwanegol

Ar gael ar ffurf PDF Adobe Acrobat
MoU rhwng CPS ac ACPO ar Adran 46 y Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003 PDF

Teitl

Protocol rhwng Cyfarwyddiaeth Gwaith Achos Gwasanaeth Erlyn y Goron a Chomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu

Disgrifiad

Mae a wnelo’r protocol hwn â chydweithredu a chyfnewid gwasanaethau a gwybodaeth rhwng Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) a Chyfarwyddiaeth Gwaith Achos Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS)

Nodiadau Ychwanegol

Ar gael hefyd ar ffurf PDF Adobe Acrobat
Protocol rhwng Cyfarwyddiaeth Gwaith Achos Gwasanaeth Erlyn y Goron a Chomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu PDF

Teitl

Archwilio ac Erlyn Achosion o Gam-drin Plant

Disgrifiad

Protocol ar rannu gwybodaeth rhwng asiantaethau mewn ymchwiliadau ac erlyniadau amddiffyn plant.

Nodiadau Ychwanegol

Ar gael hefyd ar ffurf PDF Adobe Acrobat
Archwilio ac Erlyn Achosion o Gam-drin Plant PDF

Teitl

Confensiwn yr Erlynwyr

Disgrifiad

Cytundeb rhwng awdurdodau erlyn i ymgynghori lle y bydd gan yr awdurdodau gyd-ddiddordeb mewn erlyniad.

Nodiadau Ychwanegol

Ar gael hefyd ar ffurf PDF Adobe Acrobat
Confensiwn yr Erlynwyr PDF

Teitl

Marwolaethau sy’n Gysylltiedig â’r Gweithle: Protocol ymgynghorol

Disgrifiad

Cytundeb ynghylch ymgynghori o’r ymchwiliad i’r erlyniad rhwng yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, ACPO, CPS, Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig ac Awdurdodau Lleol.

Nodiadau Ychwanegol

Ar gael hefyd ar ffurf PDF Adobe Acrobat
Marwolaethau sy’n Gysylltiedig â’r Gweithle: Protocol ymgynghorol PDF

Teitl

Cytundeb Lefel Gwasanaeth ynghylch Deddf Elw o Droseddau 2002

Disgrifiad

Cytundeb rhwng y CPS a Chymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu (ACPO) ynghylch gweithredu’r Ddeddf

Nodiadau Ychwanegol

Ar gael hefyd ar ffurf PDF Adobe Acrobat
Cytundeb Lefel Gwasanaeth ynghylch Deddf Elw o Droseddau 2002 PDF

Teitl

Archwilio ac Erlyn Troseddau Mewnfudo

Disgrifiad

Protocol ar gyfer cysylltu rhwng ACPO, y gwasanaeth mewnfudo a’r CPS.

Nodiadau Ychwanegol

Ar gael hefyd ar ffurf PDF Adobe Acrobat
Archwilio ac Erlyn Troseddau Mewnfudo PDF

Teitl

Cytundeb am y Trefniadau i Ladmeryddion Fynychu Ymchwiliadau ac Achosion yn y System Cyfiawnder Troseddol

Disgrifiad

Mae’r cytundeb yn darparu gweithdrefn safonol ar gyfer trefnu cyfieithwyr ar y pryd i droseddau cyhuddiedig ac i ddiffynyddion a thystion sy’n ymddangos mewn achosion troseddol yng Nghymru a Lloegr.

Nodiadau Ychwanegol

Ar gael hefyd ar ffurf PDF Adobe Acrobat
Cytundeb am y Trefniadau i Ladmeryddion Fynychu Ymchwiliadau ac Achosion yn y System Cyfiawnder Troseddol PDF

Teitl

Pentameter - Gorolwg gweithredol

Disgrifiad

Pentameter yw’r ymdrech gydlynol gyntaf i fynd i’r afael â thraffigo pobl ar y lefel genedlaethol. Ag yntau wedi’i gyllido gan Reflex, mae’n cynnwys pob un o’r 55 Heddlu yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Iwerddon ac Ynysoedd y Sianel. Mae hefyd yn cynnwys Gwasanaeth Mewnfudo’r Deyrnas Unedig, yr Asiantaeth Troseddau Difrifol ac Wedi’u Trefnu (SOCA), Gwasanaeth Erlyn y Goron a sawl sefydliad anllywodraethol. Dyma’r gorolwg gweithredol o Pentameter a luniwyd gan Heddlu Swydd Gaerloyw.

Nodiadau Ychwanegol

Ar gael ar ffurf PDF Adobe Acrobat
Pentameter - Gorolwg Gweithredol PDF

Teitl

Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Swyddfa Erlynydd Cyffredinol Ffederasiwn Rwsia a Gwasanaeth Erlyn y Goron Cymru a Lloegr

Disgrifiad

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi cyhoeddi’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn a arwyddwyd gan Ddirprwy Erlynydd Cyffredinol Ffederasiwn Rwsia yn Llundain ar 15 Tachwedd 2006.

Nodiadau Ychwanegol

Ar gael ar-lein

Teitl

Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Gwasanaeth Erlyn y Goron a Gwasanaeth Rheoli Diogelwch y GIG

Disgrifiad

Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn wedi’i gytuno rhwng y CPS a Gwasanaeth Rheoli Diogelwch y GIG er mwyn sicrhau erlyniad effeithiol i achosion sy’n cynnwys trais a cham-drin yn erbyn unrhyw aelod o staff y GIG

Nodiadau Ychwanegol

Ar gael ar ffurf PDF Adobe Acrobat
Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Gwasanaeth Erlyn y Goron a Gwasanaeth Rheoli Diogelwch y GIG PDF

Teitl

Protocol ar gyfer darparu gwasanaethau gwyddoniaeth fforensig i’r Heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron

Disgrifiad

Dylid defnyddio’r protocol hwn yn ganllaw i bob darparwr ynghylch yr egwyddorion i’w dilyn a gofynion y System Cyfiawnder Troseddol.

Nodiadau Ychwanegol

Ar gael ar-lein a hefyd ar ffurf PDF Adobe Acrobat
Protocol ar gyfer darparu gwasanaethau gwyddor fforensig i’r Heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron PDF