Strategaeth Gaffael Gynaliadwy
Cyflwyniad
Mae’r CPS yn cefnogi a chyfrannu’n weithredol at Strategaeth y Deyrnas Unedig ar gyfer Datblygu Cynaliadwy, sydd â phum egwyddor arweiniol:
- Byw o Fewn Cyfyngiadau Amgylcheddol
- Sicrhau Cymdeithas Gref, Iach a Chyfiawn
- Cyflawni Economi Cynaliadwy
- Hybu Llywodraethu Da
- Defnyddio Gwyddor Gadarn yn Gyfrifol
Mae polisi’r CPS ar Gaffael Cynaliadwy yn ffurfio rhan o’i Strategaeth Datblygu Cynaliadwy.
Ein hymrwymiad
Mae’r CPS yn cydnabod bod caffael cynaliadwy yn elfen hanfodol wrth symud tuag at gymdeithas fwy gynaliadwy ac mae strategaeth gaffael gynaliadwy y CPS yn adlewyrchu ein hymrwymiad i atgyfnerthu ystyriaethau datblygu cynaliadwy mewn penderfyniadau gwario a buddsoddi a thrwy hynny hybu cadwraeth a gwella’r amgylchedd. Hefyd, mae’r CPS yn ymrwymo i sicrhau bod cynaladwyedd trwy gaffael yn cael ei atgyfnerthu drwy’r Adran gyfan. Mae’r ddogfen hon yn disgrifio sut bydd y CPS yn cyflawni’r ymrwymiadau hyn.
Beth yw caffael cynaliadwy?
Mae caffael cynaliadwy yn golygu ein bod yn cynnwys agweddau amgylcheddol a chymdeithasol yn ein penderfyniadau prynu ar bob cam o’r broses gaffael, er mwyn sicrhau bod y cynnyrch neu’r gwasanaeth terfynol yn bodloni’r amodau amgylcheddol a chymdeithasol a ddiffinnir. Y mae hefyd yn golygu dadansoddi cynhyrchion, o ble y daethont a phwy wnaeth y cynhyrchion, gan fynd ati i ymgorffori’r ystyriaethau hyn mewn ffordd a fydd yn sicrhau bod cyn lleied o effaith â phosib ar gymdeithas a’r amgylchedd drwy gydol oes y nwyddau neu’r gwasanaethau a brynwyd.
Mae caffael cynaliadwy yn dod â llawer o fanteision yn ei sgil (e.e. arbedion hir dymor drwy wella effeithlonrwydd, annog arloesi, defnyddio adnoddau naturiol yn fwy effeithlon ac effeithiol). Wrth weithredu’r polisi caffael cynaliadwy rhaid i’r CPS sicrhau, yn anad dim, ei fod yn cydymffurfio ag amcanion sylfaenol caffael y Llywodraeth: gwerth am arian a meithrin elfen gystadleuol ymysg cyflenwyr.
Nodau caffael cynaliadwy
Dyma nodau wrth ymgorffori ystyriaethau datblygu cynaliadwy ym mhenderfyniadau gwario a buddsoddi y CPS:
- Osgoi effeithiau amgylcheddol niweidiol sy’n codi ar stad y llywodraeth ac yn y gadwyn gyflenwi
- Defnyddio adnoddau cyhoeddus yn fwy effeithlon
- Symbylu’r farchnad i arloesi a llunio dewisiadau mwy cost-effeithiol a chynaliadwy ar gyfer pob prynwr a
- Gosod esiampl ar gyfer busnesau a chodi hyder y cyhoedd bod y CPS o ddifrif ynghylch datblygu cynaliadwy.
Polisi Prynu Amgylcheddol y CPS
Mae Polisi Prynu Amgylcheddol y CPS yn pwysleisio ein hymrwymiad i brynu ein holl nwyddau, gwasanaethau a gwaith mewn ffordd gynaliadwy.
Mae’r CPS yn anelu at integreiddio ei Bolisi Prynu Amgylcheddol, a gofynion polisi datblygu cynaliadwy perthnasol eraill i’w holl weithgareddau caffael.
Dyma ein polisi ar Brynu Amgylcheddol:
- Cydymffurfio â deddfwriaeth amgylcheddol a gofynion rheoleiddio;
- Hybu ymwybyddiaeth amgylcheddol ymysg cyflenwyr a chontractwyr;
- Prynu mwy o gynhyrchion eco-gyfeillgar;
- Ystyried ffactorau amgylcheddol wrth wneud penderfyniadau am gaffael; a
- Datblygu ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol o fewn yr Adran.
Lle bo’n briodol, bydd manylebau nwyddau a gwasanaethau yn cynnwys meini prawf amgylcheddol ac fe’u prynir yn y ffordd arferol trwy dendro cystadleuol gan geisio cael y gwerth gorau am arian. Diffiniad gwerth gorau am arian yw’r ’cyfuniad gorau posib o chost ac ansawdd am oes gyfan (neu sy’n ateb y gofyn) i fodloni gofynion y defnyddiwr’.
Bydd yr Adran yn:
- Ymchwilio a dilyn canllawiau sy’n ymwneud â’r amgylchedd;
- Cynnwys amodau neu feini prawf amgylcheddol mewn manylebau a dogfennau tendro ble bo’n berthnasol;
- Pwyso a mesur manylebau a thendrau gan roi sylw sylw priodol i bwyntiau amgylcheddol; ac
- Annog cyflenwyr a chontractwyr i gefnogi ein menter trwy fynd ati eu hunain i weithredu.
Ble rhoddir amodau amgylcheddol, bydd y pwyso a mesur fel arfer yn rhoi ystyriaeth i:
- Cydymffurfio â rheoliadau;
- Effeithiau amgylcheddol a mesur perfformiad;
- Trefniadau rheoli amgylcheddol presennol; ac
- Ymrwymiad i wella rheoli a phrosesau.
Mae’r Adran yn ymrwymo i ymgymryd ag asesiadau risg amgylcheddol o’i weithgarwch contractio a datblygu a gweithredu rhaglen i reoli cadwyn gyflenwi amgylcheddol.
Cynllun cyfathrebu
Bydd y CPS yn cyfleu ei Bolisi Prynu Amgylcheddol a’r holl ofynion datblygu cynaliadwy perthnasol sydd ar y gweill i randdeiliaid a’n cwsmeriaid trwy un neu ragor o’r canlynol:
- Grwp Ymgynghorol ar Gaffael;
- Gweithgor Caffael Adran y Swyddogion Cyfraith;
- Safle Mewnrwyd y CPS;
- Gwefan Gaffael y CPS;
- Swyddogion Prynu Lleol y CPS;
- Digwyddiadau gan gyflenwyr.
Bydd y CPS yn datblygu rhestr wirio o ystyriaethau amgylcheddol a chymdeithasol ar gyfer pob cam yn y broses gaffael, a fydd ar gael i’n cwsmeriaid mewnol trwy safle mewnrwyd caffael y CPS.
Mae’r CPS yn gweithio’n agos gydag Adrannau eraill y Swyddogion Cyfraith ar faterion datblygu cynaliadwy gan gynnwys caffael cynaliadwy.
Asesiadau risg amgylcheddol
Mae mabwysiadu ymagwedd ar sail risg yn ymddangos yn ddull allweddol ar gyfer gwneud penderfyniadau synhwyrol wrth roi ystyriaeth i faterion cynaladwyedd o fewn pob ymarferiad caffael. Bydd y CPS yn ymgorffori proses o asesiadau risg amgylcheddol a chymdeithasol yn ein gweithgareddau caffael. Bydd y ffordd y byddwn yn ymdrin â rheoli risg yn unol â pholisi’r CPS ar Reoli Risg ac yn cynnwys gweithredu egwyddorion a dulliau cymeradwy Rheoli Rhaglenni a Phrosiectau.
Rheoli’r gadwyn gyflenwi amgylcheddol
Mae’r CPS eisoes yn cydymffurfio â’r safonau presennol sy’n bodoli ledled y Llywodraeth ar gaffael cynaliadwy a hefyd gyda’r gofyniad, bod yn rhaid i bob contract newydd gydag adrannau llywodraeth ganol ddefnyddio’r safonau amgylcheddol gofynnol wrth brynu rhai mathau o gynhyrchion. Mae hyn yn cwmpasu agweddau fel defnyddio ynni’n effeithlon, cynnwys wedi’i ailgylchu a natur bydradwy- h.y. y "Manteision Cyflym" [mae rhestr yn Atodiad A].
Gyda Chyfarwyddeb Gyfunol newydd yr UE, a ddaeth yn rhan o ddeddfwriaeth y Deyrnas Unedig ar 31 Ionawr 2006, rhoddir caniatâd i’r CPS nodi amodau cymdeithasol ac amgylcheddol yn ymwneud â pherfformiad y contract, ar yr amod eu bod yn gydnaws â chyfraith y Gymuned ac yn cael eu cynnwys yn hysbysiad y contract. Caniateir meini prawf gwobrau amgylcheddol ar yr amod eu bod yn gysylltiedig â chynnwys y contract. Hefyd, gellir eithrio cyflenwyr rhag tendro oherwydd camymddwyn proffesiynol sy’n gysylltiedig â deddfwriaeth amgylcheddol a chymdeithasol neu am beidio â chydymffurfio â gofynion amgylcheddol neu gymdeithasol mewn contractau blaenorol.
Bydd y gwir gyfleoedd i reoli’r gadwyn gyflenwi yn codi felly unwaith y bydd y contract wedi’i roi. Byddwn yn datblygu proses ar gyfer nodi cyflenwyr y CPS sydd â’r mwyaf o effaith ar y materion amgylcheddol a chymdeithasol, ac felly â’r cyfle mwyaf i ddylanwadu a reoli eu cadwynau cyflenwi yn hyn o beth. Byddwn yn datblygu a bwrw ymlaen â rhaglen ar gyfer rheoli’r cyflenwyr hynny i’r CPS, a’u cadwynau cyflenwi, a nodir gan y broses hon, ar y cyd â rheolwyr contractau penodedig y CPS ar gyfer y contractau hynny.
Integreiddio pellach ar fentrau a chanllawiau ledled y Llywodraeth
Mae gan y CPS ddulliau cadarn o ledaenu mentrau a chanllawiau caffael ac integreiddio hynny maes o law i ganllawiau ac arferion gorau Adrannol. Mae’r rhain yn cynnwys, er enghraifft, defnyddio safleoedd Mewnrwyd a Rhyngrwyd y CPS a chyhoeddi gwybodaeth yn fewnol gan ddefnyddio Hysbysiadau Porth y CPS. Y rhain fydd y prif ffyrdd o hyd ar gyfer lledaenu ac integreiddio mentrau a chanllawiau cynaladwyedd yn y dyfodol.
Bydd mentrau o bwys hefyd yn cael eu lledaenu trwy weithdai a mentrau hyfforddiant, os a phan fydd hynny’n briodol.
Mecanweithiau ar gyfer mesur ac adrodd am gynnydd
Bydd cynnydd yn cael ei fesur trwy’r broses asesu risg amgylcheddol a rhaglen reoli’r gadwyn gyflenwi amgylcheddol. Bydd mecanweithiau ar gyfer mesur cynnydd a llwyddiant yn cael eu cynnwys adeg datblygu’r ddau faes hwn.
Cynllun gweithredu
Mae’r Cynllun Geithredu ar gyfer rhoi Strategaeth Gaffael Gynaliadwy y CPS ar waith yn ymddangos yn Atodiad B.
Strwythur rheoli ac adnoddau
Y Pennaeth Caffael a Gwasanaethau Masnachol (P&CS) sy’n gyfrifol yn y pen draw am Strategaeth Gaffael Gynaliadwy y CPS.
Cyfrifoldeb y Swyddog Polisi Caffael yw gweithredoedd o ddydd i ddydd sy’n codi o’r Strategaeth, a bydd yn atebol i’r Uwch Reolwr Polisi Caffael a Chontractau Strategol, sy’n atebol i Bennaeth P&CS. Bydd adnoddau ychwanegol yn cael eu darparu, pan fydd angen, gan Reolwr Gweithrediadau P&CS, Ymgynghorydd Datblygu Cynaliadwy y CPS a staff FMBC.
