Chwilio Manwl

Mae’r dudalen hon yn cynnwys cysylltau at gynnwys Cymraeg a Saesneg

Sylwch y bydd rhai o’r cysylltau ar y dudalen hon yn mynd â chi at rannau Saesneg gwefan Gwasanaeth Erlyn y Goron.

Caffael y CPS

Bydd Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) yn gwario dros 60 miliwn y flwyddyn yn arbrynu nwyddau a gwasanaethau yn allanol, gan amrywio o gontractau deunyddiau ysgrifennu, argraffu, reprograffeg a chyfleusterau, i ddarparu gwasanaethau mwy arbenigol, er enghraifft, ymgynghorwyr rheoli a hyfforddiant a datblygu.

Mae darparu’r nwyddau a’r gwasanaethau hyn yn rhan hanfodol o gefnogi’r Adran i fodloni ei hamcanion busnes. Mae’n gwneud synnwyr ardderchog yn economaidd, yn ogystal â bodloni ein rhwymedigaethau i’r Senedd a’r cyhoedd, i sicrhau ein bod yn cael y gwerth gorau am arian wrth brynu pethau amrywiol.

Ar y tudalennau sy’n dilyn mae dogfennau i’ch cynorthwyo i ddeall y broses gaffael yn y CPS.

Ar hyn o bryd mae’r CPS yn treialu Gwasanaeth Tendro Electronig Delta. Mae eDendro yn gallu delio â’r broses dendro o’r dechrau i’r diwedd, o nodi’r gofyniad gwreiddiol ac ystyried darpar gyflenwyr hyd at gyflwyno a derbyn tendrau. Bydd darpar gyflenwyr yn cael eu hannog i gofrestru gyda’n porth eDendro ble gallant gael mynediad hawdd at gyfleoedd tendro presennol yn y CPS, nawr ac yn y dyfodol, dros ac o dan drothwyon y Comisiwn Ewropeaidd; gweld Gwybodaeth Flaenorol a Hysbysiadau Dyfarnu Contractau.

Proffil Prynwyr Erlyn y Goron

Adran Contractau a Thendrau

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch y Gwasanaethau Caffael a Masnachol ar 020 7796 8404 neu drwy e-bost procurement@cps.gsi.gov.uk

Cyhoeddiadau

Efallai y bydd y dogfennau canlynol o ddiddordeb i ddarpar gyflenwyr a chyflenwyr presennol y CPS:

Teitl

Canllaw Gwerthu i’r CPS

Nodiadau Ychwanegol

Ar gael hefyd fel Adobe Acrobat PDF
PDF Canllaw Gwerthu i’r CPS

Teitl

Canllaw Caffael i Reolwyr

Nodiadau Ychwanegol

Ar gael hefyd fel Adobe Acrobat PDF
PDF Canllaw Caffael i Reolwyr

Teitl

Caffael Ymgynghorwyr Rheoli

Nodiadau Ychwanegol

Ar gael fel Adobe Acrobat PDF
PDF Caffael Ymgynghorwyr Rheoli

Teitl

Strategaeth Gaffael Gynaliadwy

Nodiadau Ychwanegol

Ar gael ar y we