Chwilio Manwl

Canolfan Gwasanaeth Cynllun Busnes Cymru 2003 / 2004 i Grŵp Teulu Cymru

Ian Henly, Rheolwr y Ganolfan Gwasanaeth 6/3/2003

CYFLWYNIAD

Lleolir Canolfan Gwasanaeth Cymru yng Nghaerdydd ac mae’n gwasanaethu pedair Ardal y CPS o fewn grŵp y teulu, sef:

De Cymru, Dyfed / Powys, Gwent a Gogledd Cymru.

Mae’r Ganolfan Gwasanaeth wedi ei lleoli ar y cyd ag Ardal CPS De Cymru ac mae’n cymryd rhyw 22% o lety Tŵr y Brifddinas, Caerdydd.

Mae 19 aelod staff yn y Ganolfan sy’n darparu gwasanaethau a chyngor i tua 450 o ‘gwsmeriaid’ mewnol (staff) ynghylch Cyllid, Rheoli Cyfleusterau ac Adnoddau Dynol.

Mae’r Ganolfan Gwasanaeth yn cyfrannu at nodau strategol pedair ardal y CPS mewn ffyrdd mor amrywiol â chyngor arbenigol ar gyllidebau Ardal, asesiadau iechyd a diogelwch, trefnu ymarferion recriwtio a dyrchafu, darparu cyngor ar leoli ar y cyd, cynorthwyo i lunio strategaethau cenedlaethol, a delio’n uniongyrchol â thystion a dioddefwyr, gan dalu eu treuliau a chan drefnu teithio a llety a thrwy hynny roi cymorth iddynt roi tystiolaeth.

Mae maint daearyddol Cymru a’r logisteg sydd ynghlwm wrth deithio rhwng y De a’r Gogledd yn her i’r Ganolfan Gwasanaeth yn ei dyhead i ddarparu gwasanaeth personol drwy ragor o gyswllt wyneb yn wyneb ar bob lefel. Bydd y canolbwynt ar gyfer 2003/2004 yn parhau i fod ar ymdrechion i sefydlu perthnasau a systemau mwy effeithiol ac effeithlon er mwyn cefnogi busnes craidd Ardaloedd Y CPS mae’n bodoli i ddarparu cefnogaeth ar ei gyfer.

Mae cynllun busnes y Ganolfan Gwasanaeth yn nodi’r tasgau neu’r meysydd gwaith hynny mae’n eu perfformio sy’n cyfrannu at dargedau Cytundeb Gwasanaethau Cyhoeddus, naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy gynorthwyo’r Ardaloedd cwsmer i gyflawni eu targedau.

Yn ogystal, mae’r Ganolfan Gwasanaeth yn cadw targedau perfformiad mewn meysydd allweddol o’i busnes e.e. Prydlondeb recriwtio, taliadau i dystion a setlo anfonebau gan gyflenwyr.

Y gyllideb ar gyfer y flwyddyn 2003 / 2004 yw £500,000. Mae hyn yn cynnwys swm o £20,000, a ddelir ar ran yr Ardaloedd ar gyfer materion y Gymraeg.

Y RISGIAU ALLWEDDOL RHAG CYFLAWNI TARGEDAU’R PSA 2003-2004

ARDAL/CANOLFAN GWASANAETH : S09 Cymru

Nodwch isod y pum prif risg rydych wedi eu nodi rhag cyflawni targedau PSA yn ystod 2003/04

Rhif: 1:

  • Risg: diffyg gwybodaeth tystion a gweithwyr achos am reolau treuliau tystion NJG a PC
  • Perchennog: Pennaeth Cyllid
  • Tebygolrwydd/Effaith (U,C,I): Tebygolrwydd - C, Effaith - U
  • Gwrthfesurau cyfredol: gwybodaeth. Rhoddir taflen i mewn i’r ffurflen hawlio
  • Effeithiolrwydd yr Asesiad Risg a digonedd gwrthfesurau: dim digon o sylw i effeithio ar hyder lleol
  • Statws Risg (coch, melyn, gwyrdd): melyn
  • Gwrthfesurau arfaethedig : hybu’r Ganolfan Gwasanaeth yn rhagweithiol i’r Cyhoedd a’r Ardaloedd gyda straeon newyddion a diweddariadau i’r Ardaloedd
  • Dyddiad adolygu: 30/06/2003

Rhif: 2:

  • Risg: diffyg gwybodaeth y cyhoedd o weithgarwch PC y CPS
  • Perchennog: Rheolwr y Ganolfan Gwasanaeth
  • Tebygolrwydd/Effaith (U,C,I): Tebygolrwydd - C, Effaith - I
  • Gwrthfesurau cyfredol: stori yn y wasg leol am ymrwymiad cymunedol
  • Effeithiolrwydd yr Asesiad Risg a digonedd y gwrthfesurau: mae gan Ardaloedd nifer o flaenoriaethau sy’n cystadlu. Ystyrir talu anfonebau/darparu gwybodaeth i’r SC yn flaenoriaeth isel.
  • Statws Risg (coch, melyn, gwyrdd): melyn
  • Gwrthfesurau arfaethedig: Darparu gwybodaeth PI i Ardaloedd er mwyn iddynt wella amseroedd dychwelyd. Sefydlu SLA â’r Ardaloedd a darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth i staff priodol yr Ardal.
  • Dyddiad adolygu: 30/06/2003

Rhif: 3:

  • Risg: Mae’n bosibl nad yw’r prosesau’n effeithiol ac yn rhoi gwerth am arian
  • Perchennog: Pennaeth Cyllid a Phennaeth Personél
  • Tebygolrwydd/Effaith (U,C,I): Tebygolrwydd - U, Effaith - C
  • Gwrthfesurau cyfredol: Methodoleg a phrosesau sefydledig
  • Effeithiolrwydd yr Asesiad Risg a digonedd y gwrthfesurau: heb eu profi
  • Statws Risg (coch, melyn, gwyrdd): melyn
  • Gwrthfesurau arfaethedig: mapio prosesau T&S mewnbwn data yn uniongyrchol
  • Dyddiad adolygu: 30/06/2003

Rhif : 4:

  • Risg: Mae’n bosib nad yw contractau Cyfredol yr Ardal a’r Ganolfan Gwasanaeth yn darparu gwerth am arian
  • Perchennog: Pennaeth Rheoli Cyfleusterau
  • Tebygolrwydd/Effaith (U,C,I): Tebygolrwydd - C, Effaith - C
  • Gwrthfesurau cyfredol: Mae’r Ganolfan Gwasanaeth yn dal copïau o’r contractau
  • Effeithiolrwydd yr Asesiad Risg a digonedd y gwrthfesurau: record yn unig; dim prawf o dendr cystadleuol a heb ei ddiweddaru
  • Statws Risg (coch, melyn, gwyrdd): COCH
  • Gwrthfesurau arfaethedig: Adolygu’r holl gontractau Ardal ac SC a darparu canllawiau a chymorth ar aildrafod ayb.
  • Dyddiad adolygu: 30/06/2003

Rhif : 5:

  • Risg: Mae’r angen am gyflymdra’n gor-reoli polisïau a osodwyd. Penodi staff â sgiliau gwael (heb fod yn ddarostyngedig i reolau cystadleuaeth deg ac agored) NJG, PC, VFM
  • Perchennog: Pennaeth Personél
  • Tebygolrwydd/Effaith (U,C,I): Tebygolrwydd - U, Effaith - C
  • Gwrthfesurau cyfredol: dim ond staff sydd wedi derbyn hyfforddiant i gymryd rhan yn y broses. Mae pob ymarfer cystadleuol yn ddarostyngedig i awdurdod cadarnhau
  • Effeithiolrwydd yr Asesiad Risg a digonedd y gwrthfesurau: Gormod o benodiadau achlysurol heb fod yn ddarostyngedig i gystadleuaeth
  • Statws Risg (coch, melyn, gwyrdd): melyn
  • Gwrthfesurau arfaethedig: Tiwtor ar un cwrs adran cyfweld o fewn grŵp y teulu. Cynyddu nifer y paneli â chynrychiolaeth o’r adran bersonél. Cyhoeddusrwydd ehangach i ddenu rhagor o recriwtiaid. Lleihau nifer y staff achlysurol a recriwtiwyd heb gystadleuaeth.
  • Dyddiad adolygu: 30/06/2003

PROFFILIAU STAFF A CHOSTAU GWEINYDDOL HEB EU CORLANNU

ARDAL/CANOLFAN GWASANAETH : S09 Cymru SC

Costau Crynodeb Terfynol 2003-04

Gwaelodlin y Gyllideb: 630000

Cyfanswm SIP Cost Cyfartalog y Staff Cyfanswm Cost y Staff % o Gyfanswm y Gyllideb
CCP CCP CCP 0.0 0 0 0.0%
Cyfreithwyr Parhaol Lefel E 0.0 0 0 0.0%
Cyfreithwyr Parhaol Lefel D 0.0 0 0 0.0%
Cyfreithwyr Parhaol Lefel C2 0.0 0 0 0.0%
Cyfreithwyr Parhaol Lefel C1 0.0 0 0 0.0%
Cyfreithwyr Parhaol Lefel B 0.0 0 0 0.0%
Cyfreithwyr Achlysurol Lefel C1 0.0 0 0 0.0%
Cyfreithwyr Achlysurol Lefel B 0.0 0 0 0.0%
Cyfreithwyr Lwfans Sadwrn   0.0%
Cyfreithwyr Goramser 0.0%
Cyfreithwyr Costau Asiantiaid   0.0%
Cyfreithwyr Cyfanswm Cyfanswm 0.0%

 

Cyfanswm SIP Cost Cyfartalog y Staff Cyfanswm Cost y Staff % o Gyfanswm y Gyllideb
SCS Parhaol SCS 0.0 - - 0.0%
Gweinyddol Parhaol Lefel E 0.0 - - 0.0%
Gweinyddol Parhaol Lefel D 0.0 - - 0.0%
Gweinyddol Parhaol Lefel B3 2.0 37,864 75,728 15.1%
Gweinyddol Parhaol Lefel B2 1.9 28,140 53,961 10.8%
Gweinyddol Parhaol Lefel B1 3.6 24,420 87,912 17.8%
Gweinyddol Achlysurol Lefel B1 0.0 - - 0.0%
Gweinyddol Cyfanswm Lefel B 7.5 - 217,601 43.5%
Gweinyddol Parhaol Lefel A2 8.0 18,264 146,112 29.2%
Gweinyddol Parhaol Lefel A2 (PS) 0.0 - - 0.0%
Gweinyddol Parhaol Lefel A1 5.0 14,116 71,220 14.2%
Gweinyddol Parhaol Lefel A1 0.0 - - 0.0%
Gweinyddol Achlysurol Lefel A2 0.0 - - 0.0%
Gweinyddol Achlysurol Lefel A2 (PS) 0.0 - - 0.0%
Gweinyddol Achlysurol Lefel A1 0.0 - - 0.0%
Gweinyddol Achlysurol Lefel A1 (T) 0.0 - - 0.0%
Gweinyddol Cyfanswm Lefel A 13.0 - 217,332 43.5%
Gweinyddol Cyfanswm Gweinyddol Cyfanswm Gweinyddol 20.5 - 434,933 87.0%
Gweinyddol Goramser 0.0 - 5,667 1.1%
Gweinyddol Staff Asiantaeth Dros Dro 0.0 - - 0.0%
Yr Holl Staff Cyfanswm 20.5 - 440,600 88.1%

Costau heb fod yn gysylltiedig â Staff

  • Cyfanswm y Gost 59,400
  • % o Gyfanswm y Gyllideb 11.9%

Cyfanswm y Gwariant

  • Cyfanswm y Gost 500,000
  • % o Gyfanswm y Gyllideb 100.0%

Amrywiad oddi ar y Gyllideb

  • Cyfanswm y Cost
  • % o Gyfanswm y Gyllideb 0.0%