Canllawiau Cyfreithiol
Cyfieithiad Cymraeg, sylwch
Mae gwybodaeth fanwl am ganllawiau cyfreithiol ar gael yn rhan Saesneg y wefan hon
Pwrpas Canllawiau Cyfreithiol
Paratowyd y Canllawiau Cyfreithiol hyn gan Wasanaeth Erlyn y Goron. Mae’n darparu canllawiau i erlynwyr a gweithwyr achos yng nghyd-destun sawl tramgwydd troseddol a materion gweithdrefnol. Defnyddir y Canllawiau Cyfreithiol i gynorthwyo Erlynwyr y Goron a Gweithwyr Achos Penodedig i ddefnyddio eu disgresiwn wrth benderfynu ar achosion, ac maent yn ddarostyngedig i’r egwyddorion a nodir yng Nghod Erlynwyr y Goron.
Mae gwybodaeth a fyddai’n debygol o ragfarnu atal neu ganfod trosedd, dal neu erlyn troseddwyr neu weinyddu cyfiawnder wedi ei heithrio rhag datgeliadau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth lle bo budd y cyhoedd o ran cynnal yr eithriad yn gwrthbwyso budd y cyhoedd o ran datgelu’r wybodaeth. Felly, bydd darnau bach o ganllawiau at ddefnydd staff y CPS yn unig ac ni fyddant yn ymddangos yn y canllawiau hyn.
Nid yw cyfeirio at y Canllawiau Cyfreithiol yn dirymu’r angen i Erlynwyr y Goron ystyried pob achos ar sail ei rinweddau ei hun ac i ystyried amgylchiadau arbennig wrth gymhwyso’r egwyddorion a nodir yng Nghod Erlynwyr y Goron.
Nid yw’r Canllawiau Cyfreithiol yn dirymu mewn unrhyw ffordd y gyfraith fel y’i datgenir mewn statud neu benderfyniadau achos.
Nid yw’r Canllawiau Cyfreithiol yn cymryd lle unrhyw lyfr testun cyfreithiol cydnabyddedig, megis Archbold, Blackstone’s, Stone’s Justices’ Manual neu Wilkinson’s Road Traffic Offences. Bydd Erlynwyr y Goron yn defnyddio’r rhain fel ffynonellau yn ogystal â’r Canllawiau Cyfreithiol yn eu gwaith. Felly, cyfeirir at y rhain mewn sawl man yn y canllawiau. Fodd bynnag, am resymau cytundebol, ni chaiff aelodau’r cyhoedd fynediad i’r ffynonellau cyfeirio hyn drwy’r canllawiau hyn.
Nid yw’n fwriad darparu cyngor cyfreithiol i aelodau’r cyhoedd, ac nid yw ychwaith yn disodli cyngor arbenigol cyfreithwyr neu arbenigwyr eraill.
Nid yw’r Canllawiau Cyfreithiol yn creu hawliau y gellir eu gorfodi’n gyfreithiol mewn unrhyw achosion cyfreithiol.
Gellir defnyddio deunydd y Canllawiau Cyfreithiol heb geisio cael caniatâd, a bwrw ei fod yn cael ei atgynhyrchu’n gywir ac yn cynnwys cydnabyddiaeth o Wasanaeth Erlyn y Goron fel y ffynhonnell. Ni fydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn ysgwyddo cyfrifoldeb am gywirdeb neu ddibynadwyedd deunydd a atgynhyrchir.
