Polisi dargadw ar gyfer gwybodaeth gyhoeddiedig
Yn gyffredinol, polisi’r CPS ar gyfer cadw gwybodaeth sydd yn ein meddiant, yw cadw’r wybodaeth heb fod yn hirach nag sy’n angenrheidiol i gynnal ein gweithgareddau busnes. Am ragor o wybodaeth gweler y trefnlenni yn y Llawlyfr Rheoli Cofnodion, Adran 27 isod.
Fodd bynnag, am ein bod yn cadw cofnodion yn unol â’n cyfrifoldebau o dan Ddeddfau Cofnodion Cyhoeddus 1958 a 1967, cedwir cyfran fechan iawn o’n cofnodion yn hirach na’r cyfnod a nodir yn ein polisi dargadw. Mae’n bosib y bydd rhai hyd yn oed yn cael eu cadw’n barhaol fel rhan o archif cenedlaethol y Swyddfa Cofnodion Gwladol. Wrth ymateb i’ch cais, fe’ch hysbyswn a yw’r wybodaeth yn dal i fodoli.
