Mynediad i wybodaeth bersonol
Sut mae gofyn am ddata personol - Deddf Diogelu Data 1998
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn dal gwybodaeth bersonol mewn ffeiliau achosion troseddol. Os bydd arnoch angen mynediad i’ch data personol eich hun a ddelir o fewn y ffeiliau hyn, ni chaiff ei ddarparu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, ond o dan egwyddorion mynediad goddrych Deddf Diogelu Data 1998. Yn ddarostyngedig i rai amodau penodedig, a’r cyfyngiadau a nodir yn yr eithriadau yn Adrannau 27 i 39, mae gan unigolion hawliau mynediad i’w data personol eu hunain, ond nid i ddata personol sy’n ymwneud â phobl eraill. Er mwyn gofyn am eich data personol eich hun, bydd yn rhaid i chi lenwi’r ffurflen gais, a fydd ar gael ar wefan y CPS, ac amgáu dogfennau sy’n profi pwy ydych, fel y gofynnir, a’u hanfon yn uniongyrchol at:
Y Swyddog Diogelu Data
CPS Headquarters
50 Ludgate Hill
Llundain EC4M 7EX
Mae’r ffurflenni cais bellach ar gael gan yr holl swyddfeydd rhanbarthol ac ar wefan y CPS. Os byddwch yn cael anhawster i gael copi, ysgrifennwch at y cyfeiriad uchod ac anfonir ffurflen atoch yn uniongyrchol. Bydd y CPS yn codi ffi o £10 ymlaen llaw o 1 Mehefin 2003.
