Chwilio Manwl

Gwybodaeth nad yw wedi’i chynnwys yn ein Cynllun Cyhoeddiadau

Bwriad cynlluniau cyhoeddiadau yw galluogi awdurdodau cyhoeddus i fod yn rhagweithiol wrth sicrhau bod y wybodaeth maent yn ei dal ar gael yn hwylus i’r cyhoedd ac i ddatblygu diwylliant mwy agored. Fodd bynnag, ni ellir, ac ni ddylid cynnwys yr holl wybodaeth y mae’r CPS yn ei dal yn y cynllun.

Nid yw’n debygol y bydd gwybodaeth sydd am ba reswm bynnag, yn sensitif, yn cael ei rhyddhau i’r cyhoedd yn gyffredinol. Er enghraifft, oherwydd bod y CPS yn rhoi cyngor cyfreithiol ac yn cynnal achosion cyfreithiol, mae peth o’r wybodaeth mae’r CPS yn ei dal yn gyfrinachol, yn yr un modd ag y mae gwybodaeth a ddelir gan gyfreithwyr mewn cwmni preifat yn gyfrinachol.

Mae gwybodaeth sy’n sensitif neu’n gyfrinachol, er enghraifft, am ei bod yn ymwneud â materion diogelwch neu’n cynnwys cyngor cyfreithiol a roddwyd wrth ystyried achos cyfreithiol heb ei chynnwys yn ein cynllun, felly hefyd wybodaeth a fyddai wedi’i heithrio o dan Ran 2 y Ddeddf.

Mae gwybodaeth a ddelir at ddibenion ymchwiliad neu achos cyfreithiol, y mae gan y CPS y grym i’w roi ar waith, ynghyd â gwybodaeth a allai fod yn andwyol i weithredu’r gyfraith pe bai’n cael ei datgelu wedi’i heithrio rhag cael ei datgelu, yn ddarostyngedig i brawf budd y cyhoedd o dan ddarpariaethau’r Ddeddf.

Mae’r CPS am fod mor agored â phosibl, yn unol â’r Cod Ymarfer ar Fynediad i Lywodraeth (y Cod) ond byddwn bob tro yn ddarostyngedig i ofynion diogelwch cenedlaethol a phersonol, cyfrinachedd cyfreithiol a Deddf Diogelu Data 1998. Mae copïau o’r cod ar gael gan:

Yr Adran Materion Cyfansoddiadol
Adran Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data
Selborne House
54 Victoria Street
Llundain SW1E 6QW

Fe fuom yn dilyn y Cod tan 1 Ionawr 2005, pan gymerwyd lle y Cod gan yr hawl cyffredinol i fynediad o dan Adran 1 y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Mae’r Comisiynydd Gwybodaeth â’r grym o dan Adran 52 y Ddeddf i weithredu yn erbyn awdurdod cyhoeddus am fethu, ymhlith pethau eraill, â chydymffurfio â gofynion y ddeddf fel maent yn ymwneud â chynlluniau cyhoeddiadau.

O Ionawr 2005, mae gan aelodau’r cyhoedd yr hawl o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i wneud cais penodol am wybodaeth am yr awdurdodau cyhoeddus sydd o dan gwmpas y Ddeddf.

Gallwch weld rhagor o wybodaeth am Gofrestr Asedion Gwybodaeth y Llywodraeth ar www.inforoute.hmso.gov.uk. Mae’r gofrestr hon yn rhestru gwybodaeth y mae Llywodraeth y DU yn ei dal, y gallai peth ohoni fod ar gael i’r cyhoedd. Mae’r gofrestr yn canolbwyntio’n bennaf ar wybodaeth anghyhoeddiedig a ddelir gan adrannau llywodraethol.

Gall y Gofrestr Asedion Gwybodaeth eich helpu i ddod o hyd i wybodaeth sy’n cael ei dal gan adrannau, pa mor ddefnyddiol y mae’r wybodaeth honno a rhoi cymorth i chi gael mynediad iddi. Fe welwch nodyn canllaw am y Gofrestr hon ar www.hmso.gov.uk/guides.htm.