Chwilio Manwl

Agored ac Atebol

Roedd Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn cynnwys deddfwriaeth gyda’r bwriad o sicrhau bod sefydliadau cyhoeddus ac adrannau’r llywodraeth yn fwy agored ac atebol. Mae’n nodi y dylai’r wybodaeth ganlynol fod ar gael i’r cyhoedd yn gyffredinol.

  • Sut y bydd sefydliadau cyhoeddus yn gwneud penderfyniadau
  • Y modd y maent yn cyflawni eu dyletswyddau
  • Sut y maent yn gwario arian cyhoeddus

Fe ddaeth y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i rym ym mis Ionawr 2005.

Croeso i Gynllun Cyhoeddiadau Deddf Rhyddid Gwybodaeth y CPS

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (FoIA) yn rhoi hawl cyffredinol i’r cyhoedd weld pob math o wybodaeth sy’n cael ei dal gan awdurdodau cyhoeddus gan gynnwys y CPS.

Mae’r hawl hwn yn ddarostyngedig i amodau a nodir ac i’r eithriadau a nodir yn Adrannau 21 - 44 Rhan II y Ddeddf. Mae hyn yn cynnwys yr hawl i gael gwybod a yw gwybodaeth yn bodoli ynghyd â’r hawl i dderbyn gwybodaeth. Daeth Adran 1 y Ddeddf i rym ym mis Ionawr 2005, ac mae’n rhoi hawl i aelodau’r cyhoedd wneud ceisiadau penodol am wybodaeth nad yw’n bersonol a ddelir gan yr awdurdodau cyhoeddus sydd o dan gwmpas y Ddeddf.

Ceisiadau Deddf Rhyddid Gwybodaeth

Os byddwch am wneud Cais Hawl i Fynediad i’r CPS o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, llenwch y ffurflen (isod) mor llawn ag sy’n bosibl, a naill ai ei hanfon drwy ebost i’r Uned Rhyddid Gwybodaeth yn FOIUnit@cps.gsi.gov.uk neu ei phostio at:

Y Swyddog Rhyddid Gwybodaeth
CPS Headquarters
50 Ludgate Hill
Llundain EC4M 7EX

Ffurflen Gais Mynediad Deddf Rhyddid Gwybodaeth

Datgeliadau Rhyddid Gwybodaeth 2006

Mae’r rhan hon o’r wefan yn sicrhau bod rhestr ar gael i’r cyhoedd o’r ceisiadau lle y rhyddhawyd deunydd gan Wasanaeth Erlyn y Goron o Dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Cyhoeddir rhestr o’r deunydd a ryddhawyd yn ystod 2005 yn fuan.

Datgeliadau Rhyddid Gwybodaeth 2006

Os byddwch am gael copi o’r deunydd a ryddhawyd ar gyfer unrhyw un o’r ceisiadau hyn, cysylltwch â:

Y Swyddog Rhyddid Gwybodaeth
CPS Headquarters
50 Ludgate Hill
Llundain EC4M 7EX

FOIUnit@cps.gsi.gov.uk

Cael Gwybodaeth Bersonol

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn dal gwybodaeth bersonol yn ei ffeiliau Achosion Troseddol. Nid yw’r wybodaeth hon ar gael i’r cyhoedd o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Fodd bynnag, os dymunwch weld eich data personol eich hun yn y system, gallwch ofyn am gael gweld y wybodaeth o dan Ddeddf Diogelu Data 1998.

Sut mae defnyddio’n Cynllun Cyhoeddiadau

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cyhoeddi sawl math o wybodaeth y mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gofyn amdani, a hynny yn ei hadran cynllun cyhoeddiadau. Mae’r wybodaeth a geir yn yr adran hon yn cynnwys Adroddiadau Perfformiad, Cynlluniau Busnes, Cofnodion Cyfarfodydd, Polisi a Chanllawiau Cyllid a llawer mwy...

Gwybodaeth nad yw wedi’i chynnwys yn ein Cynllun Cyhoeddiadau

Oherwydd natur sensitif a phersonol peth o’r wybodaeth a ddelir gan Wasanaeth Erlyn y Goron nid yw’r holl wybodaeth ar gael i’r cyhoedd. Ystyrir bod peth o’r wybodaeth yn gyfrinachol. Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cyhoeddi gwybodaeth yn unol â’r Cod Ymarfer ar Fynediad i Lywodraeth.