Sut i ddefnyddio ein Cynllun Cyhoeddi
Mae’r mathau o wybodaeth mae’n fwriad gennym eu cyhoeddi wedi eu grwpio yn y cynllun o dan benawdau eang i ddisgrifio’r math o wybodaeth y gallwch ddisgwyl dod o hyd iddi. O dan bob pennawd eang, gwelir dosbarthiadau gwybodaeth y gellir eu hadnabod y mae’r CPS yn eu cyhoeddi neu’n bwriadu eu cyhoeddi.
Dyma’r penawdau eang rydym wedi grwpio dosbarthiadau gwybodaeth y cynllun hwn iddynt:
- Gwasanaeth Erlyn y Goron fel sefydliad
- Adroddiadau
- Cynlluniau Busnes
- Protocolau Cenedlaethol a Chytundebau gydag Asiantaethau Eraill
- Gwybodaeth Rheoli Perfformiad
- Polisi a chanllawiau ar Erlyn
- Polisi a chanllawiau ar Amrywiaeth a Chydraddoldeb
- Polisi a chanllawiau Adnoddau Dynol
- Polisi a chanllawiau Cyllid
- Polisi a chanllawiau Systemau Gwybodaeth Busnes
- Polisi a chanllawiau Cyfathrebu
- Cofnodion cyfarfodydd
Mae’r dosbarthiadau’n disgrifio un ddogfen neu fwy sy’n gosod gwybodaeth, polisi neu gasgliadau ffurfiol ar y pwnc a ddynodir. O dan bob dosbarth gellir hefyd ddod o hyd i:
- Ddisgrifiad byr o’r wybodaeth sydd ar gael o fewn y dosbarth;
- Sut y byddwn yn sicrhau bod y wybodaeth ar gael (er enghraifft, ar wefan, neu drwy’r post);
- Manylion unrhyw daliadau a godir am ddarparu’r wybodaeth
- Mae rhai dosbarthiadau hefyd yn cynnwys peth gwybodaeth ychwanegol i’ch cynorthwyo.
Gallwch lwytho gwybodaeth i lawr o’n gwefan heb fod angen talu’r CPS. Mae’r Cynllun Cyhoeddiadau hefyd yn dangos lle y bydd copïau papur o rai dogfennau ar gael yn rhad ac am ddim. Lle y gall unigolion ddangos nad yw’n ymarferol iddynt gyrchu’r wybodaeth yn electronig drwy’r wefan ac lle nad yw’r cynllun cyhoeddiadau yn dangos bod copïau papur ar gael, byddwn yn ystyried y dull mwyaf priodol o ddarparu mynediad. Bydd gwybodaeth y dangosir ei bod ar gael drwy’r post yn cael ei hanfon atoch yn brydlon ac ymhob achos cyn pen 20 diwrnod wedi i ni dderbyn y cais.
Bydd tâl am ddarparu peth o’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn ein cynllun. Rhaid talu pob tâl sy’n ddyledus ymlaen llaw.
Oni nodir fel arall, gellir copïo gwybodaeth a gyhoeddir o dan y cynllun at ddefnydd personol heb fod angen talu Gwasanaeth Erlyn y Goron.
Gellir oedi cyhoeddi rhai dogfennau (megis cofnodion cyfarfodydd) er mwyn caniatáu gweithgarwch. Weithiau, mae’n bosibl na fydd gwybodaeth yn cael ei darparu lle, ym marn yr Adran, na ddylid datgelu peth gwybodaeth fel mater o gyfrinachedd, lle mae amharu diangen ar breifatrwydd, sensitifrwydd masnachol neu seiliau penodedeig eraill, gan gynnwys budd y cyhoedd.
Yn gyffredinol, prin fydd y mynediad i ddata achosion troseddol, gan fod y rhan fwyaf ohono yn dod o dan ddarpariaethau Preifatrwydd Deddf Diogelu Data 1998. Fodd bynnag, bydd pob cais am wybodaeth yn cael ei ystyried ar wahân a phenderfynir fesul achos.
Os bernir bod gwybodaeth o fewn dosbarth wedi’i heithrio yn unol â’r eithriadau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, bydd hyn yn cael ei esbonio yn y ddogfen berthnasol. Bydd unrhyw eithriadau y dibynnwn arnynt yn cael eu nodi a’u hesbonio.
Nid yw’r Cynllun Cyhoeddiadau hwn yn ôl-weithredol. Felly, nid ydym yn ymgymryd â chyhoeddi gwybodaeth a grëwyd ac a ddaliwyd gan y CPS cyn diwedd Mehefin 2003.
Bydd gwybodaeth sy’n cwympo i mewn i’r dosbarthiadau’n cael ei dal yn unol â threfnlenni dargadw a gwaredu y CPS, sydd wedi eu creu ar sail canllawiau’r Swyddfa Cofnodion Gwladol.
