Chwilio Manwl

Ceisiadau, adborth a chwynion

Nod y cynllun cyhoeddiadau yw eich cynorthwyo i ddod o hyd i wybodaeth am y CPS yn hawdd ac yn gyflym ac i wella faint o wybodaeth sydd ar gael i’r cyhoedd. Rydym yn croesawu adborth ar ein cynllun cyhoeddiadau. Byddwn yn ystyried sylwadau wrth adolygu a datblygu’r cynllun.

Os byddwch am wneud Cais Hawl i Fynediad i’r CPS o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, llenwch y ffurflen (isod) mor llawn ag sy’n bosibl, a naill ai ei hanfon drwy ebost i’r Uned Rhyddid Gwybodaeth yn FOIUnit@cps.gsi.gov.uk neu ei phostio at:

Y Swyddog Rhyddid Gwybodaeth
CPS Headquarters
50 Ludgate Hill
Llundain EC4M 7EX

Ffurflen Gais Mynediad Deddf Rhyddid Gwybodaeth

Os byddwcn yn anfodlon ag unrhyw agwedd ar ein cynllun cyhoeddiadau neu â’r ffordd y gallwn fod wedi prosesu unrhyw gais am fynediad a gynhwysir ynddo, a wnewch chi ysgrifennu at Bennaeth yr Adran Cyfathrebu Corfforaethol yn y cyfeiriad uchod.

Mae copi o’r drefn gwyno wedi ei gyhoeddi - gweler adran 26: Polisi a Chanllawiau ar Gwyno - Saesneg.