Chwilio Manwl

Polisi tâl am ymateb i geisiadau am wybodaeth

O dan y Cynllun Cyhoeddiadau hwn, ni fyddwn yn codi tâl am y wybodaeth a restrir o fewn y Cynllun a gyrchir drwy wefan y CPS. Yn y rhan fwyaf o achosion, byddwn yn disgwyl i bobl gyrchu’r wybodaeth sydd ar gael o dan y Cynllun Cyhoeddiadau drwy’r wefan. Lle y gall unigolion ddangos nad yw’n ymarferol iddynt gyrchu’r wybodaeth yn electronig drwy’r wefan ac lle nad yw’r cynllun cyhoeddiadau yn dangos bod copïau papur ar gael, byddwn yn ystyried y dull mwyaf priodol o roi mynediad i’r wybodaeth.

Cadwn yr hawl i godi tâl am ddogfennau papur mawr, e.e. llawlyfrau neu sawl copi o ddogfennau llai. Fe roddwn wybod ar gais beth yw’r gost.