Chwilio Manwl

Hawlfraint y Goron a Neges Ymwadu

Hawlfraint y Goron:

Mae'r wybodaeth a geir ar y wefan hon yn ddarostyngedig i Hawlfraint y Goron ond gellir ei hatgynhyrchu heb ganiatâd ffurfiol neu dâl at ddefnydd personol neu fewnol.

Neges Ymwadu:

Mae gwefan Gwasanaeth Erlyn y Goron a'r deunydd sy'n ymwneud â gwybodaeth, cynnyrch a gwasanaethau llywodraethol, (neu â gwybodaeth, cynnyrch a gwasanaethau trydydd parti), wedi'i darparu 'fel y mae', heb unrhyw fath o gynrychiolaeth neu ardystiad a heb warant o unrhyw fath, boed honno wedi ei mynegi neu ymhlyg, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i'r gwarantau ymhlyg o ansawdd boddhaol, ffitrwydd at bwrpas penodol, diffyg trosedd, cydnawsedd, diogelwch a manwl gywirdeb.

Nid ydym yn gwarantu y bydd y swyddogaethau a geir yn y deunydd ar y wefan hon yn ddi-dor neu'n rhydd rhag camgymeriadau, y bydd diffygion yn cael eu cywiro, neu y bydd y wefan hon neu'r gweinydd sy'n sicrhau ei bod ar gael yn rhydd rhag firysau neu'n cynrychioli swyddogaethau llawn, manwl gywirdeb neu ddibynadwyedd y deunyddiau. Ni fyddwn, o dan unrhyw amgylchiadau, yn gyfrifol am unrhyw golledion neu ddifrod, gan gynnwys, heb gyfyngiad, pa golled neu ddifrod anuniongyrchol neu ganlyniadol bynnag a allai godi o ddefnyddio, neu golli 'r defnydd o, ddata neu elw sydd yn deillio o, neu mewn cysylltiad â defnyddio gwefan Gwasanaeth Erlyn y Goron.

Bydd yr Amodau a'r Telerau hyn yn cael eu llywodraethu gan, a'u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod sy'n codi o dan yr Amodau a'r Telerau hyn yn ddarostyngedig i awdurdodaeth gyfyngedig llysoedd Cymru a Lloegr.