Chwilio Manwl

Agored ac Atebol

Roedd Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn cynnwys deddfwriaeth gyda’r bwriad o sicrhau bod sefydliadau cyhoeddus ac adrannau’r llywodraeth yn fwy agored ac atebol. Mae’n nodi y dylai’r wybodaeth ganlynol fod ar gael i’r cyhoedd yn gyffredinol.

  • Sut y bydd sefydliadau cyhoeddus yn gwneud penderfyniadau
  • Y modd y maent yn cyflawni eu dyletswyddau
  • Sut y maent yn gwario arian cyhoeddus

Fe ddaeth y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i rym ym mis Ionawr 2005.

Cysylltwch â Ni

Mae gan Wasanaeth Erlyn y Goron bencadlys yn Llundain ac yn Efrog ac mae’n gweithredu strwythur o 42 Ardal yng Nghymru a Lloegr.

Mae’r Ardaloedd hyn yn cyfateb i 43 Heddlu Cymru a Lloegr ac yn Llundain mae’r Ardal yn rhannu ffiniau gweithredol Heddluoedd Dinas Llundain a’r Metropolitan.

Mae’r strwythur 42 Ardal, a gyflwynwyd ym mis Ebrill 1999, yn cyflawni nod y Llywodraeth o ddatblygu system cyfiawnder troseddol cydlynus gyda pholisïau cenedlaethol yn cael eu darparu’n lleol.

Cwynion

Ein nod yw delio â chwynion yn sensitif, yn deg ac yn gyfrinachol. Os bydd cyfiawnhad dros eich cwyn byddwn yn ymddiheuro, yn ceisio unioni’r mater a chymryd camau er mwyn sicrhau nad yw’n digwydd eto. Ymweld ag adran cwynion gwefan y CPS - Saesneg.

Rhyddid Gwybodaeth

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (FoIA) yn rhoi hawl cyffredinol i’r cyhoedd weld pob math o wybodaeth sy’n cael ei dal gan awdurdodau cyhoeddus gan gynnwys y CPS. Ymwelwch ag adran FoIA gwefan y CPS.