Cysylltwch â Ni
Mae gan Wasanaeth Erlyn y Goron bencadlys yn Llundain ac yn Efrog ac mae'n gweithredu strwythur o 42 Ardal yng Nghymru a Lloegr.
Mae'r Ardaloedd hyn yn cyfateb i 43 Heddlu Cymru a Lloegr ac yn Llundain mae'r Ardal yn rhannu ffiniau gweithredol Heddluoedd Dinas Llundain a'r Metropolitan.
Mae'r strwythur 42 Ardal, a gyflwynwyd ym mis Ebrill 1999, yn cyflawni nod y Llywodraeth o ddatblygu system cyfiawnder troseddol cydlynus gyda pholisïau cenedlaethol yn cael eu darparu'n lleol.
Cwynion
Ein nod yw delio â chwynion yn sensitif, yn deg ac yn gyfrinachol. Os bydd cyfiawnhad dros eich cwyn byddwn yn ymddiheuro, yn ceisio unioni'r mater a chymryd camau er mwyn sicrhau nad yw'n digwydd eto. Ymweld ag adran cwynion gwefan y CPS - Saesneg.
Rhyddid Gwybodaeth
Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (FoIA) yn rhoi hawl cyffredinol i'r cyhoedd weld pob math o wybodaeth sy'n cael ei dal gan awdurdodau cyhoeddus gan gynnwys y CPS. Ymwelwch ag adran FoIA gwefan y CPS.
