Datganiad Hygyrchedd
Dyma’r datganiad hygyrchedd swyddogol i wefan Gwasanaeth Erlyn y Goron.
Adeiladwyd Gwefan Gwasanaeth Erlyn y Goron gyda’r bwriad o sicrhau bod y cynnwys ar gael i’r amrediad ehangaf posibl o ymwelwyr, waeth beth yw eu hanabledd neu amhariad. Cyflawnwyd hyn drwy lynu at arferion gorau, megis cydymffurfio â safonau’r W3C a thrwy gyfeirio’n ofalus at y safonau a osodwyd gan Swyddfa’r E-gennad.
Os bydd gennych gwestiynau neu sylwadau, a wnewch chi gysylltu â’r tîm gwe yn y CPS.
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn nodi’r prif gamau rydym wedi eu cymryd i ddarparu ar gyfer anghenion pobl anabl:
Bysellau Hwylus
Mae rhai porwyr yn eich galluogi i neidio i ddolenni penodedig drwy deipio bysellau a ddiffinnir ar y wefan. Yn Windows, gallwch wasgu’r bysell ‘alt’ a’r bysell hwylus, ac wedyn ‘enter’; ar Macintosh, gallwch wasgu’r bysell ‘ctrl’ ac wedyn y bysell hwylus.
Noder: ceir cefnogaeth i fysellau hwylus dim ond yn Microsoft Internet Explorer 4 ac yn uwch ac yn fersiynau Netscape 6.x.
Mae’r tudalennau ar y wefan hon yn cydymffurfio â safon bysellau hwylus y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei hargymell:
S - Sgipio’r llywio
1 - Hafan
2 - Beth sy’n newydd (y brif dudalen Newyddion ar wefan y CPS)
3 - Map o’r wefan
4 - Chwilio
5 - Cwestiynau a ofynnir yn fynych (FAQ) (’Ynghylch y CPS’ ar y wefan hon)
6 - Cysylltwch â Ni
7 - Cwyno
8 - Telerau ac amodau
9 - Ffurflen adborth
0 - Manylion y bysellau hwylus
Cydymffurfio â safonau
Adeiladwyd tudalennau’r wefan hon yn 2004 i gydymffurfio, fan lleiaf, â safon WCAG AA, gan gydymffurfio â holl ganllawiau blaenoriaeth 1 a 2 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe y W3C. Profwyd tudalennau’r wefan hon drwy ddefnyddio meddalwedd Bobby, ac maent yn cydymffurfio â’r canllawiau y mae Bobby wedi ei seilio arnynt. Lle y bydd canlyniadau profion Bobby wedi dangos naill ai rhybudd neu fethiant i gydymffurfio â’r safonau, rydym wedi mynd i’r afael â’r materion hyn, a gwneud penderfyniadau yn unigol.
Mae holl dudalennau’r wefan hon yn dilysu fel HTML 4.01 Transitional.
Mae holl dudalennau’r wefan hon yn defnyddio iaith farcio semantig strwythuredig. Defnyddir tagiau H1 ar gyfer y prif deitlau, a thagiau H2, H3 a H4 ar gyfer is-deitlau.
Gall defnyddwyr JAWS sgipio i’r adran nesaf o fewn tudalennau ar y wefan hon drwy wasgu ALT+INSERT+3.
Cynorthwyon i lywio
Mae’r holl dudalennau’n cynnwys dolen i’r hafan, a lluniwyd y system ddewislenni mewn modd cyson drwy’r wefan gyfan. Yn ogystal, mae’r system lywio ‘llwybr briwsion bara’ a’r blychau dolenni cyflym dethol wedi eu cynllunio i atgyfnerthu ymwybyddiaeth o leoliad y dudalen sy’n cael ei darllen ar y wefan, ac er mwyn cynyddu mynediad yn gyffredinol i’r holl wybodaeth sydd ar gael.
Mae holl dudalennau’r wefan yn cynnwys blwch chwilio (bysell hwylus 4), ac mae dewisiadau chwilio manwl ar gael ar y dudalen chwilio manwl.
Dolenni
Mae gan lawer o ddolenni nodweddion teitl, sy’n disgrifio’r ddolen yn fanylach. Ysgrifennir y dolenni fel eu bod yn synhwyrol o’u darllen allan o’u cyd-destun.
Delweddau
Mae’r holl ddelweddau cynnwys ar y wefan hon yn cynnwys nodweddion ALT disgrifiadol. Mae graffigwaith sydd ond yn addurniadol yn cynnwys nodweddion ALT nwl. Mae delweddau cymhleth yn cynnwys nodweddion LONGDESC neu ddisgrifiadau mewn llinell sydd yn esbonio arwyddocâd pob delwedd i ddarllenwyr anweledol.
Dylunio gweledol
Mae’r wefan hon yn defnyddio taflenni arddull rhaeadrol ar gyfer dylunio gweledol.
Os na fydd eich porwr neu ddyfais pori’n cefnogi taflenni arddull, mae modd darllen cynnwys pob tudalen o hyd.
Ffontiau
Mae’r wefan hon ond yn defnyddio meintiau ffont perthynol, sy’n gydnaws â’r dewis "maint y testun" defnyddiwr-benodol mewn porwyr gweledol.
Y porwr gweledol mwyaf cyffredin yw Microsoft Internet Explorer ac rydyn wedu darparu’r disgrifiad canlynol o sut mae newid maint eich ffont yn MSIE version 6:
- Dewiswch ‘Gweld’ o’r cwymplenni ar ben y sgrîn.
- Dewiswch ‘Maint y Ffont’ o ddewisiadau’r ddewislen Gweld.
- Dewiswch faint y ffont sy’n well gennych o restr o bum dewis sydd ar gael.
- Mae angen i sawl ymwelydd â’r wefan sydd â nam ar y golwg gynyddu maint y ffont o’r gosodiad diofyn ‘Canolig’ i ‘Mwy’ neu ‘Mwyaf’. Dylech fod yn ymwybodol er i wefan y CPS gael ei hadeiladu i gefnogi newidiadau mewn maint ffont, nad dyma’r achos gyda phob gwefan.
- Rhaid i rai defnyddwyr gwe gyda nam ar eu golwg gymryd camau pellach i sicrhau bod gwefannau’n weladwy. Mae Internet Explorer a sawl rhaglen bori arall yn eich galluogi i nodi eich Taflen Arddull Rhaeadrol eich hun a fydd yn gwrthwneud arddull gwefannau rydych yn edrych arnynt. Bydd hyn yn rhoi i chi reolaeth lawn ar sut mae’r testun yn ymddangos mewn gwefannau. Gallwch gael gwybod rhagor am nodi’ch ffeil CSS eich hun drwy ddefnyddio’r nodwedd Help o fewn eich meddalwedd pori.
Cyfeiriadau hygyrchedd
Canllawiau hygyrchedd W3 , sy’n esbonio’r rhesymau y tu ôl i bob canllaw.
Dyluniwyd y wefan hygyrch hon gan yr asiantiaeth dylunio gwe Ecru
