Chwilio Manwl

Y Swyddogion Cyfraith

Swyddogion y Gyfraith yw:

Y Twrnai Cyffredinol: Yr Arglwydd Goldsmith CF

Y Cyfreithiwr Cyffredinol: Mike O’Brien CF AS

Mae’r Twrnai Cyffredinol, gyda chymorth y Cyfreithiwr Cyffredinol, ei ddirprwy, yn cynghori’r Llywodraeth ar sawl mater cyfreithiol, gan gynnwys deddfwriaeth sydd yn yr arfaeth. Mae gan y Twrnai Cyffredinol gyfrifoldeb terfynol am orfodi’r gyfraith. Mae’r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus, ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron yn atebol i’r senedd drwy’r Twrnai Cyffredinol.