Cyfarwyddwyr Sector
Ar hyn o bryd, Llundain yw unig Ardal Gwasanaeth Erlyn y Goron sydd â Chyfarwyddwyr Sector. Oherwydd maint Llundain a swmp ein gweithredoedd yno, fe argymhellodd Adroddiad Glidewell 1998 y dylai Prif Erlynydd y Goron yn Llundain gael ei gefnogi gan nifer o gynorthwywyr.
Mae eu dyletswyddau penodol yn cynnwys:
- Erlyn, gan gynnwys chwarae rhan bersonol mewn achosion.
- Cynrychioli’r CPS i’r cyhoedd ac i bartneriaid y System Cyfiawnder Troseddol.
- Cyfrannu at lunio a gweithredu polisi a strategaeth yr Ardal.
Mae Cyfarwyddwyr Sector yn atebol i Brif Erlynydd y Goron am waith achos a pherfformiad cyffredinol.
