Chwilio Manwl

Pobl yn y CPS

Pennaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron yw'r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus (y Cyfarwyddwr) Syr Ken Macdonald QC. Mae'r Cyfarwyddwr dan oruchwyliaeth y Twrnai Cyffredinol, sy'n atebol i'r Senedd am y Gwasanaeth. Adeg llunio'r cynllun hwn, roedd y CPS yn cyflogi tua 8,000 aelod o staff, gan gynnwys tua 2,500 o gyfreithyddion. Bob blwyddyn byddant yn delio â thros 1.3 miliwn o achosion yn y llysoedd ynadon a thua 115,000 yn Llys y Goron.

I gael gwybod mwy am y bobl sy'n gweithio i Wasanaeth Erlyn y Goron ewch i Pobl yn y CPS.

Swyddogaeth y CPS

Gwasanaeth Erlyn y Goron yw Adran y Llywodraeth sy’n gyfrifol am erlyn achosion troseddol a archwilir gan yr Heddlu yng Nghymru a Lloegr. Fe’n crëwyd gan Ddeddf Erlyn Troseddau 1985, ac rydym yn gorff annibynnol sy’n gweithio’n agos â’r heddlu.

Pennaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron yw’r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus (y Cyfarwyddwr) Syr Ken Macdonald CF. Arolygir y Cyfarwyddwr gan y Twrnai Cyffredinol sy’n gyfrifol am y Gwasanaeth yn y Senedd. Adeg llunio’r cynllun hwn, roedd y CPS yn cyflogi oddeutu 8,000 o staff, gan gynnwys oddeutu 2,500 o gyfreithwyr. Bob blwyddyn maent yn delio â mwy na 1.3 miliwn achos yn llys yr ynadon a thua 115,000 yn Llys y Goron.

Mae gennym bencadlys yn Llundain, Efrog a Birmingham ac rydym yn gweithredu strwythur o 42 ardal yng Nghymru a Lloegr. Mae’r ardaloedd hyn yn cyfateb i ffiniau’r 43 Heddlu yng Nghymru a Lloegr ac mae Ardal Llundain y CPS yn rhannu ffiniau gweithredol Heddluoedd Llundain a’r Metropolitan. Mae Prif Erlynydd y Goron yn bennaeth ar bob Ardal (CCP) sy’n gyfrifol am erlyniadau yn yr Ardal. Yn Llundain, mae’r CCP yn derbyn cymorth Cyfarwyddwyr Sector. Er bod CCPs yn uniongyrchol atebol am eu Hardaloedd, mae’r rhan fwyaf o’r cyfrifoldebau am weinyddu’r Ardal yn effeithiol ac yn effeithlon yn nwylo’r Rheolwyr Busnes Ardal.

Gwasanaeth Erlyn y Goron yw prif awdurdod erlyn Cymru a Lloegr. Rydym yn gyfrifol am gynghori’r heddlu ar achosion y gellid eu herlyn, adolygu achosion a gyflwynir gan yr heddlu, lle penderfynir erlyn byddwn yn pennu’r cyhuddiad ymhob achos heblaw am yr achosion lleiaf, byddwn yn paratoi achosion at y llys ac yn eu cyflwyno gerbron y llys. Rôl y Gwasanaeth yw erlyn achosion yn gadarn, yn deg ac yn effeithiol lle bo tystiolaeth ddigonol o ddedfrydu a pryd bynnag y bydd er budd y cyhoedd i wneud hynny.