Yr egwyddorion a ddilynwn
Mae Cod Erlynwyr y Goron yn nodi’r egwyddorion sylfaenol i’w dilyn gan Erlynwyr y Goron wrth iddynt benderfynu ar achosion. Mae penderfynu p’un ai i fwrw ymlaen ag achos wedi ei seilio ar ddau brawf a amlinellir yn y Cod.
Prawf o’r dystiolaeth
Dyma’r cam cyntaf yn y penderfyniad i erlyn. Rhaid i Erlynwyr y Goron fod yn fodlon bod tystiolaeth ddigonol i ddarparu "darogan realistig o ddedfryd" yn erbyn pob diffynnydd ar bob cyhuddiad. Rhaid iddynt ystyried p’un a ellir defnyddio’r dystiolaeth ac a yw’n ddibynadwy. Rhaid iddynt ystyried hefyd beth mae achos yr amddiffyniad yn debygol o fod a sut y mae hynny’n debygol o effeithio ar achos yr erlyniad. Mae "darogan realistig o ddedfryd" yn brawf gwrthrychol. Mae’n golygu y bydd rheithgor neu fainc o ynadon, wedi eu cyfarwyddo’n briodol yn unol â’r gyfraith, yn fwy tebygol na pheidio o gael y diffynnydd yn euog o’r cyhuddiad. (Mae hwn yn brawf gwahanol i’r un y mae’n rhaid i’r llysoedd troseddol eu hunain ei gymhwyso. Dylai rheithgor neu lys ynadon ond cael diffynnydd yn euog os yw’n sicr o euogrwydd diffynnydd). Os na fydd yr achos yn pasio prawf y dystiolaeth, rhaid iddo beidio â mynd yn ei flaen, waeth pa mor bwysig neu ddifrifol y bo.
Prawf budd y cyhoedd
Os bydd yr achos yn pasio prawf y dystiolaeh, rhaid wedyn i Erlynwyr y Goron benderfynu p’un a oes angen erlyniad er budd y cyhoedd. Rhaid iddynt gydbwyso ffactorau o blaid ac yn erbyn erlyn yn ofalus ac yn deg. Mae’n bosib y bydd rhai ffactorau’n cynyddu’r angen i erlyn ond gall eraill awgrymu y byddai gweithredu fel arall yn well. Fodd bynnag, fel arfer, bydd erlyniad yn digwydd oni bai bod ffactorau budd y cyhoedd yn tueddu yn erbyn erlyn sy’n gwrthbwyso’r rheini sy’n tueddu o blaid. Bydd y CPS ond yn dechrau neu’n parhau â’r erlyniad os bydd achos wedi pasio’r ddau brawf.
Mae’r CPS hefyd yn ymgynghori ag asiantaethau eraill ac Adrannau Llywodraethol er mwyn cydweithio i sicrhau gwelliannau yn y system cyfiawnder troseddol ac er mwyn mynd i’r afael â heriau newydd troseddau domestig, Ewropeaidd a byd-eang.
Mae’r egwyddorion y byddwn yn eu dilyn a’n hymrwymiad i safonau gwasanaeth uchel wedi eu hamlinellu yn y canlynol:
- Bydd ein penderfyniadau’n rhydd rhag rhagfarn neu gamwahaniaethu ond byddwn bob amser yn ystyried buddiannau pobl eraill. Byddwn yn gweithredu gydag integriti ac yn wrthrychol a byddwn yn arfer dyfarniadau cadarn â hyder.
- Wrth ddelio â’n gilydd ac â’r cyhoedd, byddwn yn agored ac yn onest. Byddwn yn dangos sensitifrwydd a dealltwriaeth i ddioddefwyr a thystion troseddau a byddwn yn trin pob diffynnydd yn deg.
- Rydym yn atebol i’r Senedd ac i’r cyhoedd; byddwn yn gweithio â’n cydweithwyr er mwyn cynnal hyder y cyhoedd ac i ddarparu system cyfiawnder troseddol sy’n effeithiol. Wrth esbonio’n penderfyniadau, byddwn yn gwrtais ac yn barod i gynnig cymorth.
- Er mwyn cynnal y safonau uchel hyn, byddwn yn adrodd ar ein perfformiad ac yn ymateb i feirniadaeth mewn modd cadarnhaol.
Nodau ac amcanion
Ein gweledigaeth yw bod yn awdurdod erlyn o statws, sy’n darparu’r gwasanaeth gorau posibl i’r gymdeithas. Rydym am barhau i fod yn sefydliad proffesiynol sy’n gwerthfawrogi ei holl bobl, yn perfformio i safon uchel, yn ysbrydoli hyder y cyhoedd, ac sy’n gweithio mewn partneriaeth â holl elfennau’r system cyfiawnder troseddol.
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn chwarae rhan fawr o ran cynorthwyo i ddarparu nodau’r Llywodraeth ar gyfer y system cyfiawnder troseddol:
- Er mwyn lleihau troseddau ac ofn troseddau.
- I sicrhau bod cyfiawnder yn cael ei ddarparu mewn modd effeithiol.
- Darparu gwerth am arian.
Wrth weithio tuag at y nodau hyn, rydym yn rhannu nifer o dargedau cytundeb gwasanaeth cyhoeddus â’n partneriaid yn y system cyfiawnder troseddol, gan gynnwys:
- Gwella gweithredu cyfiawnder drwy gynyddu nifer y troseddau y mae troseddwr yn cael ei ddwyn gerbron y system cyfiawnder ar eu cyfer i 1.25 miliwn erbyn 2007-08;
- Sichrau’r cyhoedd, lleihau ofn troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol; a meithrin hyder yn y CJS heb gyfaddawdu ar degwch.
Mae nod Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cefnogi yn uniongyrchol nodau cyffredinol y system cyfiawnder troseddol sef lleihau troseddau ac ofn troseddau a’u costau economaidd a chymdeithasol; ac i hybu hyder yn y gyfraith. Sef:
- Darparu gwasanaeth erlyn uchel ei ansawdd sy’n dod â throseddwyr i gyfiawnder, sy’n helpu i leihau troseddau ac ofn troseddau a thrwy hynny hybu hyder y cyhoedd yn y gyfraith drwy adolygu achosion yn gyson, yn deg ac yn annibynnol a thrwy eu cyflwyno yn deg, yn drylwyr ac yn gadarn gerbron y llysoedd.
Yr amcan sy’n waelodol i’r nod hwn yw sicrhau bod cyfiawnder yn cael ei weithredu’n effeithiol.
