Chwilio Manwl

Y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus

Y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus presennol yw Ken Macdonald QC a ddaeth yn Bennaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron ym mis Tachwedd 2003.

Hanes

2000

2007

Peter Lewis15 Ionawr, fe gafodd Peter Lewis ei benodi’n Brif Swyddog Gweithredol, y cyntaf i gael ei benodi’n fewnol.

2003

Syr Ken Macdonald QC3 Tachwedd, penodwyd Syr Ken Macdonald QC yn Gyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus (DPP). Cafodd y Cyfarwyddwr ei urddo’n farchog gan y Frenhines yn rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd 2007.

2002

Richard FosterPenodwyd Richard Foster yn Brif Weithredwr ym mis Ionawr 2002.

1990-1999

1999

Yn sgîl cyhoeddi’r "Adolygiad o’r CPS" gan Syr Iain Glidewell ym mis Mehefin 1998, yn Ebrill 1999, newidiodd y CPS o 14 i 42 Ardal  ddaearyddol. Mae pob Ardal yn rhannu ffin â’r heddluoedd presennol heblaw am CPS Llundain sy’n cwmpasu Heddluoedd Dinas Llundain a’r Metropolitan.

1998

David Calvert-Smith CFAr Dachwedd 1, Penodwyd David Calvert-Smith CF yn Gyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus (DPP).

1992

Barbara MillsPenodwyd Mrs Barbara Mills yn DPP. Ym 1997, penodwyd Barbara Mills yn Fonesig yr Ymerodraeth Brydeinig.

1980-1989

1987

Syr Allan GreenPenodwyd Syr Allan Green yn DPP.

1986

Dechreuodd y CPS weithredu ym 1986.

1985

Fe greodd y Ddeddf Erlyn Troseddau Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS). Sefydlodd y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus yn bennaeth Adran a oedd yn ymgorffori Adran y DPP ac Adrannau Cyfreithwyr cyfredol yr Heddlu.

1983

Cyhoeddodd y Swyddfa Gartref Bapur Gwyn "Gwasanaeth Erlyn Annibynnol i Gymru a Lloegr." Roedd y Llywodraeth yn ffafrio gwasanaeth cenedlaethol â nodweddion lleol cryf a delio â mwyafrif yr achosion mewn swyddfeydd lleol er mwyn atal oedi mewn gwneud penderfyniadau.

1981

Argymhellodd y Comisiwn Brenhinol i’r Llywodraeth y dylid cyflwyno awdurdod erlyn annibynnol newydd drwy Ddeddf Seneddol.

1960 - 1979

1978

Sefydlwyd Comisiwn Brenhinol ar Weithdrefnau Troseddol o dan Syr Cyril Philips. Cyhoeddwyd ei adroddiad ym 1981 ac roedd yn cynnwys y tair beirniadaeth ganlynol o’r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru a Lloegr:

- ni ddylai’r heddlu ymchwilio i droseddau a phenderfynu p’un a ddylid erlyn. Ni ellid dibynnu ar y swyddog a oedd wedi archwilio achos i benderfynu’n deg ynghylch erlyn

- roedd Heddluoedd gwahanol ledled y wlad yn defnyddio gwahanol safonau er mwyn penderfynu a ddylid erlyn ai peidio.

- roedd yr heddlu’n caniatáu gormod o achosion gwan i ddod gerbron y llysoedd. Arweiniodd hyn at nifer uchel o rydd-farniadau ar gyfarwyddydd barnwyr.

1977

Syr Thomas HetheringtonPenodwyd Syr Thomas Hetherington yn DPP.

1964

Penodwyd Syr Norman Skelhorn yn DPP.

1962

Fe ddywedodd Comisiwn Brenhinol ar yr heddlu nad oedd yn dderbyniol i’r heddlu ddefnyddio’r un swyddogion i archwilio achosion ac i’w herlyn. Argymhellodd y dylai fod gan bob heddlu ei adran cyfreithiwr erlyn ei hun. Fe sefydlodd rhai heddluoedd eu hadrannau cyfreithiwr erlyn eu hun, tra bo heddluoedd eraill yn parhau i ddefnyddio cyfreithwyr lleol am gyngor ar erlyn. Nid oedd yn rhaid i’r heddluoedd weithredu ar gyngor y cyfreithiwr.

1920-44

1944

Syr Theobald MathewPenodwyd Syr Theobald Mathew yn DPP.

1930

Sir Edward Tindal AtkinsonPenodwyd Syr Edward Tindal Atkinso yn DPP.

1920

Syr Archibald BodkinPenodwyd Syr Archibald Bodkin yn DPP.

1880-1908

1908

Syr Charles MathewsFe wahanodd Deddf Erlyn Troseddau 1908 rôl Cyfreithiwr y Trysorlyd a rôl y DPP. Penodwyd Syr Charles Mathews yn Gyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus cyntaf i fod yn bennaeth ar yr adran hon a fyddai ar wahân.

1907

Daeth y Cyfarwyddwr yn gyfrifol am amddiffyn apeliadau yn Llys newydd yr Apêl.

1894

Hamilton Cuffe (Yr Arglwydd Desart).Penodwyd Hamilton Cuffe (Yr Arglwydd Desart) yn DPP.

1884

Syr Augustus StephensonTrosglwyddwyd dyletswyddau’r erlynydd cyhoeddus i Gyfreithiwr y Trysorlys a aeth yn DPP. Y DPP a Chyfreithiwr Trysorlys cyntaf oedd Syr Augustus Stephenson.

1880

Syr John MaulePenododd yr Ysgrifennydd Cartref Syr John Maule yn Gyfarwyddwr Cyntaf Erlyniadau Cyhoeddus fel rhan o’r Swyddfa Gartref. Roedd yn delio ond â nifer fechan o achosion pwysig neu anodd. Wedi penderfynu i erlyn, byddai Cyfreithiwr y Trysorlys yn mynd i’r afael â’r erlyniad. Parhaodd yr Heddlu i fod yn gyfrifol am ran fwyaf yr erlyniadau hyd at 1986.

Cyn 1880

Cyn Deddf Erlyn Troseddau 1879 nid oedd Erlynydd Cyhoeddus i fynd ag achosion troseddol gerbron llys. Roedd yn rhaid i bobl ddod o hyd i’w cyfreithwyr eu hunain neu gyflwyno’r achos eu hunain. Sefydlwyd heddluoedd yn raddol wedi 1829.