Adfocadau Llys Uwch
O dan newid mewn rheolau cyfreithiol, mae nifer o gyfreithwyr yn gymwys i ymddangos yn Llys y Goron a uchel lysoedd eraill. Mae’r diwygiad, a gefnogir gan Wasanaeth Erlyn y Goron, yn golygu bod cyfreithwyr cyflogedig a chanddynt gymwysterau Hawliau Uwch yn medru ymddangos mewn rhai achosion yn Llys y Goron, a llysoedd uwch eraill.
Caiff cyfreithwyr Gwasanaeth Erlyn y Goron ymgeisio i Gymdeithas y Cyfreithwyr naill ai am dystysgrif cymhwysedd i sefyll ei phrawf ysgrifenedig a dilyn y cwrs eiriolaeth ymarferol, neu i gael eu heithrio rhag y rhain. Rhaid iddynt basio cwrs asesu eiriolaeth llym Gwasanaeth Erlyn y Goron cyn cael eu lleoli mewn llys uwch. Mae’r Arglwydd Ganghellor a barnwyr penodedig wedi caniatáu hawliau cyfyngedig i’r uchel lys i fargyfreithwyr cyflogedig.
