Chwilio Manwl

Ffeithiau am y CPS

  • Pennaeth y CPS yw’r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus, Syr Ken Macdonald QC. Arolygir y Cyfarwyddwr gan y Twrnai Cyffredinol, sy’n atebol i’r Senedd am y Gwasanaeth. Mae’r Cyfarwyddwr yn cael ei gefnogi gan Brif Weithredwr, sy’n gyfrifol am redeg y busnes o ddydd i ddydd, gan adael i’r Cyfarwyddwr ganolbwyntio ar erlyn, materion cyfreithiol a pholisi cyfiawnder troseddol.
  • Mae gan y CPS 42 Rhanbarth ledled Cymru a Lloegr. Mae pob Rhanbarth dan arweiniad Prif Erlynydd y Goron (CCP) sy’n gyfrifol am gyflwyno gwasanaeth erlyn o ansawdd uchel i’w gymuned leol ef neu hi. Mae staff y pencadlys yn Llundain, Efrog a Birmingham. Y mae un Rhanbarth arall ‘rhithwir’, sef CPS Direct, sy’n cynnig cyngor ynghylch Cyhuddo i’r heddlu y tu allan i oriau swyddfa.
  • Ym mis Hydref 2005 fe gyflwynwyd tair Adran Gwaith Achos Penodol newydd i ddelio â throseddu cyfundrefnol, gwrthfrawychiaeth a throsedd arbenigol. Fe gafodd yr adrannau hyn eu creu er mwyn darparu gwasanaeth erlyn o’r radd flaenaf i’r Asiantaeth Troseddau Cyfundrefnol Difrifol a sicrhau bod y CPS yn gallu delio â’r ystod lawn o droseddau difrifol. Trwy erlyn yr achosion amlwg hyn, mae staff y CPS yn gallu arddangos eu sgiliau ar y lefelau uchaf a chyfrannu at wella hyder y cyhoedd yn y system cyfiawnder troseddol.
  • Y CPS yw’r ‘cwmni cyfreithiol’ mwyaf yn y Deyrnas Unedig, yn ymdrin ag achosion troseddol yn unig. Ar ddiwedd Mawrth 2006, roeddem yn cyflogi cyfanswm o 8,775 o bobl. Mae tua 30% yn erlynwyr cymwys ac mae dros 94% o’r holl staff yn ymwneud ag erlyniadau yn y rheng flaen, neu gefnogaeth i’r erlyniadau hynny.
  • Fe sefydlwyd y CPS gan Ddeddf Erlyn Troseddau 1985.