Y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus
Syr Ken Macdonald CF
Fe ddechreuodd Syr Ken Macdonald CF yn ei swydd newydd fel Pennaeth y CPS a Chyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus ym mis Tachwedd 2003.
Mae’r DPP yn gyfrifol am sicrhau bod trafodion troseddol sy’n cael eu dechrau gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr yn cael eu hadolygu a’u herlyn yn annibynnol.
Mae’n penderfynu ar yr achosion mwyaf cymhleth a sensitif ac mae’n cynghori’r heddlu ar faterion troseddol. Mae’n adrodd i’r Twrnai Cyffredinol, Gweinidog y Llywodraeth sy’n ateb ar ran y CPS yn y Senedd.
Urddwyd y Cyfarwyddwr yn Farchog gan y Frenhines yn Rhestr Anrhydeddau Calan 2007.
