Chwilio Manwl

Cyfarwyddwyr, Is-adrannau Gwaith Achosion Penodol Canolog

Is-adrannau Troseddu Cyfundrefnol, Troseddu Arbennig, a Gwrthderfysgaeth

Mae’r Is-adrannau Gwaith Achosion Penodol Canolog yn cynnwys tair Is-adran ar wahân sy’n gweithio mewn partneriaeth â’i gilydd i ddelio â rhai o’r achosion mwyaf cymhleth a difrifol a ddaw i sylw’r CPS. Bydd Penaethiaid yr Is-adrannau yn adrodd yn uniongyrchol i’r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus.

Dyma’r tair Is-adran gwaith achosion penodol:

Is-adran Troseddu Cyfundrefnol

Dan arweiniad Alison Saunders, yr Is-adran Troseddu Cyfundrefnol, ynghyd â chyd-weithwyr yn Swyddfa Erlyniadau Cyllid a Thollau, sy’n delio â phob achos y bydd yr Asiantaeth Troseddu Cyfundrefnol Difrifol (SOCA) yn ymchwilio iddo. Y mae hefyd yn delio â throsedd ‘technoleg uwch’; atafaelu a materion gorfodi.

Mae’r Is-adran wedi sefydlu perthynas waith gref gyda phartneriaid rhyngwladol allweddol a bydd yn gwneud defnydd llawn o fframwaith Ynadon Cyswllt y DU i gynorthwyo ag unrhyw faterion rhyngwladol sy’n dod oddi wrth SOCA ac ymchwiliadau eraill yr heddlu.
Mae dalgylch yr Is-adran yn cwmpasu Cymru a Lloegr a bydd achosion yn cael eu rhannu rhwng Llundain, Efrog a Birmingham. Bwriedir agor pedwaredd Uned ym Manceinion yn y dyfodol agos.

Is-adran Troseddu Arbennig

Dan arweiniad Carmen Dowd, mae’r Is-adran hon yn gyfrifol am erlyn a chynorthwyo i erlyn amryw o’r achosion mwyaf sensitif, arbenigol a gwahanol o fewn y Gwasanaeth. Mae llawer o’r rhain yn achosion amlwg iawn ac ar adegau yn rhai cymhleth, ac yn aml byddant yn denu llawer o ddiddordeb yn y cyfryngau.

Mae’r mathau o achosion a erlynir gan yr Is-adran yn dueddol o fod yn rhai sydd, oherwydd rhesymau gweithredol ac adnoddau, angen sylw gan y Ganolfan yn hytrach na’r Rhanbarthau. Mewn rhai achosion, efallai fod hyn yn golygu un elfen arbenigol sydd ei hangen fel rhan o achos e.e. estraddodi diffynnydd, neu ble bydd achos yn destun apêl i Dy’r Arglwyddi.

Meysydd gwaith yr Is-adran yw trychinebau cenedlaethol, estraddodi, apeliadau i Dy’r Arglwyddi, achosion sifil yn erbyn y CPS, achosion cyn 1986 a gyfeirir at y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol, achosion o ddynladdiad corfforaethol, dynladdiad meddygol, llygredd cyhoeddus difrifol, troseddau etholiadol a marwolaethau yn y ddalfa.

Is-adran Gwrthderfysgaeth

Dan arweiniad Sue Hemming, mae’r Is-adran hon yn cynnwys cyfreithyddion a gweithwyr achosion penodol sy’n cydweithio ar lwyth achosion amrywiol o’r achosion mwyaf anodd, sensitif a difrifol sy’n cynnwys terfysgaeth, troseddau gwladol a rhyngwladol.
Y meysydd gwaith sy’n cael eu cwmpasu yw terfysgaeth, troseddau casineb, troseddau yn erbyn y ddynoliaeth a throseddau rhyfel, herwgipio ac achosion y Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol.