Gweithwyr Achos Penodedig
Ar 1 Hydref 1998, cyflwynwyd deddfwriaeth a wnaeth ganiatáu i staff Gwasanaeth Erlyn y Goron nad ydynt yn gyfreithwyr, adolygu a chyflwyno yn Llysoedd yr Ynadon amrediad cyfyngedig o achosion yn cynnwys pledion euog cyffredin.
Gall y rhain gynnwys dwyn o siopau, bod ym meddiant cannabis a throseddau moduro nad ydynt yn ddadleuol.
O dan oruchwyliaeth Erlynwyr y Goron profiadol, sy’n eu cynorthwyo ac yn eu cynghori, mae’r gweithwyr achos hyn yn rhannu eu hamser rhwng gorsafoedd yr heddlu lle y byddant yn adolygu achosion a Llysoedd yr Ynadon yn lleol.
Rhaid i weithwyr achos basio cwrs hyfforddiant anodd, wedi’i ddilysu gan gorff allanol, a chael eu dynodi’n ffurfiol gan y DPP cyn ymgymryd â’r gwaith hwn.
