Chwilio Manwl

Gweithio Gyda'n Gilydd

Mae'r System Cyfiawnder Troseddol yn cynnwys llawer o asiantaethau sy'n cydweithio i sicrhau bod ein gwlad yn lle diogel i fyw ynddi. Ymhlith yr asiantaethau hyn y mae'r Heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, y Gwasanaeth Carchardai, y Gwasanaeth Prawf, Llysoedd Ynadon, Llysoedd y Goron a llawer o rai eraill. I gael gwybod mwy am y System Cyfiawnder Troseddol ewch i www.CJSonline.gov.uk.

Y System Cyfiawnder Troseddol

Mae’r CPS yn gweithio mewn partneriaeth â’r heddlu, y llysoedd, y Swyddfa Gartref, yr Adran Materion Cyfansoddiadol (DCA) ac asiantaethau eraill ledled y System Cyfiawnder Troseddol er mwyn lleihau troseddau ac ofn troseddau, a’u costau cymdeithasol ac economaidd; er mwyn gweithredu cyfiawnder yn deg ac yn effeithlon ac er mwyn hybu hyder yn y gyfraith.

Nod cyffredinol y CPS, sy’n adlewyrchu blaenoriaethau’r Llywodraeth ar gyfer y system cyfiawnder troseddol yw:

Darparu gwasanaeth erlyn uchel ei ansawdd sy’n dod â throseddwyr i gyfiawnder, sy’n helpu i leihau troseddau ac ofn troseddau a thrwy hynny hybu hyder y cyhoedd yn y gyfraith drwy adolygu achosion yn gyson, yn deg ac yn annibynnol a thrwy eu cyflwyno yn deg, yn drylwyr ac yn gadarn gerbron y llysoedd.

Am wybodaeth gynhwysfawr am y system cyfiawnder troseddol, ymwelwch â gwefan y CJS.

Sefydliadau eraill yn y System Cyfiawnder Troseddol

Yr Adran Materion Cyfansoddiadol

Yn y Llywodraeth yr Adran Materion Cyfansoddiadol sy’n gyfrifol am weithredu cyfiawnder, hawliau a democratiaeth. Er mwyn gwasanaethu’r cyhoedd yn fwy effeithiol, maent yn gyrru gwelliannau yn eu blaen i’r system cyfiawnder, a moderneiddio a gwarchod y cyfansoddiad. Eu nod yw ymbweru dinasyddion i gael cyfiawnder, i ddiogelu eu hawliau ac i gymryd rhan mewn proses dryloyw ac atebol. Am ragor o wybodaeth am yr Adran Materion Cyfansoddiadol ewch i http://www.dca.gov.uk

Pen y dudalen

Y Swyddfa Gartref

Mae’r Swyddfa Gartref yn gyfrifol am faterion sy’n gysylltiedig â chyfraith a threfn, ac am hybu plismona effeithiol ac effeithlon ac am sicrhau bod gan y llysoedd bwerau dedfrydu addas. Mae’n cynnal ac yn adolygu effeithiolrwydd cyfraith droseddol a gweithdrefnau’r system cyfiawnder troseddol. Am ragor o wybodaeth am y Swyddfa Gartref ewch i www.homeoffice.gov.uk

Pen y dudalen

Swyddogion y Gyfraith

Mae’r Twrnai Cyffredinol, gyda chymorth y Cyfreithiwr Cyffredinol, yn cynghori’r Llywodraeth ar sawl mater cyfreithiol, gan gynnwys deddfwriaeth sydd yn yr arfaeth. Mae gan y Twrnai Cyffredinol gyfrifoldeb terfynol am orfodi cyfraith droseddol ac mae’n arolygu’r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus. Am ragor o wybodaeth am Swyddogion y Gyfraith ewch i www.lslo.gov.uk

Pen y dudalen

Y Swyddfa Twyll Difrifol

Nid y CPS sy’n erlyn y rhan fwyaf o achosion o dwyll mawr, ond y Swyddfa Twyll Difrifol, sy’n arbenigo mewn troseddau o’r fath. Am ragor o wybodaeth am y Swyddfa Twyll Difrifol ewch i www.sfo.gov.uk

Pen y dudalen

Y Llysoedd

Mae eiriolwyr sy’n cynyrchhioli’r CPS yn erlyn mwyafrif yr achosion troseddol sy’n cael eu clywed gerbron llysoedd yr ynadon a Llysoedd y Goron. Bydd llysoedd yr ynadon yn delio â thramgwyddau troseddol llai difrifol. Mae llysoedd ieuenctid yn llysoedd ynadon arbennig sy’n delio â’r holl gyhuddiadau yn erbyn pobl 10 oed (oedran cyfrifoldeb troseddol) ac o dan 18 oed, heblaw am y rhai mwyaf difrifol. Mae Llysoedd y Goron hefyd yn delio â’r troseddau mwyaf difrifol y gellir eu dwyn i achos a chanddo farnwr a rheithgor. Am ragor o wybodaeth am y llysoedd ewch i www.courtservice.gov.uk

Pen y dudalen

Yr Heddlu

Mae 43 Heddlu ledled Cymru a Lloegr sy’n gyfrifol am ymchwilio i droseddau, casglu tystiolaeth ac arestio neu ddal troseddwyr drwgdybiedig. Pan ddelir rhywun a ddrwgdybir, bydd yr heddlu’n penderfynu p’un a ddylid eu rhybuddio, i beidio â gweithredu ymhellach, i gyflwyno hysbysiad o gosb benodedig - yn achos troseddau gyrru, eu rhoi ar fechnïaeth gan ddisgwyl ymholiadau pellach, neu i’w cyhuddo ac i anfon y papurau i Wasanaeth Erlyn y Goron. Am ragor o wybodaeth eich i wefan eich Heddlu lleol drwy Borth Gwasanaethau’r Heddlu ar www.police.uk

Pen y dudalen

Gwasanaeth y Carchardai

Mae Gwasanaeth y Carchardai yn gyfrifol am gadw pobl sydd ar remand gan ddisgwyl achos yn y ddalfa a’r rheini y mae’r llysoedd yn eu dedfrydu i gyfnod yn y carchar. Am ragor o wybodaeth am Wasanaeth y Carchardai ewch i www.homeoffice.gov.uk

Pen y dudalen

Y Gwasanaeth Prawf

Mae’r Gwasanaeth Prawf yn darparu cyngor a gwybodaeth i’r llysoedd ar droseddwyr, yn gweithredu gorchmynion cymunedol a wneir gan y llysoedd a hefyd yn cynorthwyo carcharorion cyn ac ar ôl eu rhyddhau. Am ragor o wybodaeth am y Gwasanaeth Prawf ewch i www.homeoffice.gov.uk

Pen y dudalen

Arolygaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron ei Mawrhydi (HMCPSI)

Mae HMCPSI yn sefydliad annibynnol sy’n arolygu holl weithredoedd Gwasanaeth Erlyn y Goron ac yn adrodd arnynt. Am ragor o wybodaeth ewch i www.hmcpsi.gov.uk

Pen y dudalen