Cyhuddo Statudol
Trwy weithio’n agos â chydweithwyr yn yr heddlu fel Y Tîm Erlyn, llwyddodd y CPS i gyflwyno Cyhuddo Statudol ym mhob un o’r 42 Rhanbarth bron i flwyddyn ynghynt na’r amserlen.
Gan weithio wrth galon y System Cyfiawnder Troseddol, erlynwyr y CPS sydd bellach yn dewis y cyhuddiad ym mhob achos heblaw’r rhai lleiaf, gan sefydlu achosion cryf o’r cychwyn cyntaf. Mae dull gweithredu Y Tîm Erlyn eisoes wedi arwain at gynnydd yn nifer y pledion euog, gan ostwng y baich ar y llysoedd ac, yn bwysicaf oll, darparu gwell gwasanaeth i’r dioddefwyr a’r tystion sydd ynghlwm wrth bob achos.
Ystyrir mai Cyhuddo Statudol yw’r datblygiad unigol mwyaf arwyddocaol o ran ymdrin â gwaith achosion troseddol penodol ers sefydlu’r CPS.
Rhan anhepgor o Gyhuddo Statudol yw CPS Direct, sef gwasanaeth ffôn cenedlaethol y tu allan i oriau’r swyddfa lle gall yr heddlu gael cyngor am Gyhuddo drwy’r nos a thros y penwythnos, 365 diwrnod y flwyddyn. Yn ystod 2005-06, atebodd 124 o erlynwyr CPS Direct 157,150 galwad a rhoi 96,108 darn o gyngor am Gyhuddo. Mewn ffordd, mae CPS Direct yn Rhanbarth ychwanegol “rhithwir”, dan arweiniad Prif Erlynydd y Goron.
