Chwilio Manwl

Y Prif Weithredwr

Peter Lewis

Peter LewisMae Peter Lewis yn gyfreithiwr a ddechreuodd ei yrfa gyda’r CPS adeg ei ddechrau ym 1986. Ef oedd Prif Erlynydd y Goron Swydd Nottingham o 1999 hyd at 2003, yna fe aeth yn Gyfarwyddwr Datblygu Busnes. Fe’i penodwyd yn Brif Weithredwr ar 15 Ionawr 2007. Mr Lewis yw’r Prif Weithredwr cyntaf i’w benodi’n fewnol yn y Gwasanaeth.

Mae’r Prif Weithredwr yn gyfrifol am weinyddu’r Gwasanaeth - ac eithrio’r meysydd cyngor cyfreithiol a gwaith achos - ac mae’n adrodd i’r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus.

Crëwyd y penodiad hwn ym mis Mehefin 1998, yn sgîl argymhelliad yr Adolygiad o Wasanaeth Erlyn y Goron (a elwir yn Adroddiad Glidewell). Argymhellodd yr adroddiad y dylid creu’r swydd er mwyn galluogi’r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus i ganolbwyntio ar faterion cyfreithiol.