Chwilio Manwl

Prif Erlynwyr y Goron

Mae Prif Erlynwyr y Goron yn uwch gyfreithwyr sydd â’r cyfrifoldebau canlynol:

  • Erlyn, gan gynnwys chwarae rhan bersonol mewn achosion, yn ôl polisi’r CPS.
  • Gosod a chynnal y safonau proffesiynol a moesegol uchaf wrth arfer dyletswyddau lleol y Gwasanaeth.
  • Cynrychioli’r CPS o fewn y gymuned ledol ac mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill y System Cyfiawnder Troseddol.
  • Cyfrannu at bolisi cenedlaethol a strategaeth y CPS.
  • Sicrhau perthnasau effeithiol â gweithwyr, rheoli personél a pholisi cyfle cyfartal yn eu Hardal.

Mae Prif Erlynwyr y Goron yn adrodd yn uniongyrcol i’r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus.