Chwilio Manwl

Gwasanaeth Erlyn o Ansawdd Uchel

Nod Gwasanaeth Erlyn y Goron yw cyflwyno gwasanaeth erlyn o ansawdd uchel sy’n dod â throseddwyr gerbron llys, sy’n helpu i ostwng troseddu ac ofn troseddau ac sy’n hybu hyder y cyhoedd yn rheolaeth y gyfraith.

Rhybuddio amodol

Fe gafodd rhybuddiadau amodol eu sefydlu gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003. Mewn achosion priodol gellir eu defnyddio fel ffordd o ddargyfeirio troseddwyr rhag gorfod mynd i’r llys os yw eu troseddu yn ddigon difrifol i warantu eu herlyn, ond eu bod yn barod i gyfaddef i’r trosedd ac yn cytuno i gyflawni gweithgareddau ailsefydlu neu wneud iawn fel amod o gael eu rhybuddio.

Yn wahanol i rybuddiad syml, dim ond erlynydd all benderfynu a ddylid cynnig rhybuddiad amodol ai peidio, un ai fel rhan o’r broses Gyhuddo Statudol neu wrth adolygu achos ble mae’r heddlu wedi dwyn cyhuddiad.

Fe gafodd rhybuddio amodol ei dreialu mewn saith rhanbarth ledled y wlad ac fe fydd yn cael ei weithredu’n ehangach.

Rhagor o wybodaeth

Fel rhan o’i ymrwymiad i ymwneud â phob rhan o’r gymuned, mae’r CPS wedi paratoi fideo arobryn o’r enw Just Deserts, wedi’i anelu at bobl ifanc 14-16 oed. Mae’n cyd-fynd â’r modiwl ar Ddinasyddiaeth yn y Cwricwlwm Cenedlaethol, ac ar gael ar ffurf fideo a DVD. Cysylltwch â’ch Rhanbarth CPS lleol neu anfonwch e-bost at Gangen Cyfathrebu’r CPS (publicity.branch@cps.gsi.gov.uk).

Mae’r CPS yn cyhoeddi nifer o gyhoeddiadau sydd o ddiddordeb i’r cyhoedd, gan gynnwys Deiliaid tai a defnyddio grym yn erbyn tresbaswyr a thaflenni sy’n amlinellu polisi’r CPS ar gyfer ymdrin ag achosion o dreisio a thrais yn y cartref, a chyda throseddau homoffobig a hiliol. Y mae cyhoeddiad newydd hefyd sy’n disgrifio polisi’r CPS ynghylch erlyn achosion yn ymwneud â phlant a phobl ifanc. Cysylltwch â’r Gangen Cyfathrebu (gweler uchod) am ragor o wybodaeth, neu ewch i adran Cyhoeddiadau – Polisi a chanllawiau erlyn ar y wefan hon.