Nod a gweledigaeth y CPS
Y CPS yw’r prif awdurdod erlyn yng Nghymru a Lloegr. Yn ein gwaith o ddydd i ddydd fe fyddwn yn gweithio mewn partneriaeth gyda:
- Yr heddlu
- Y llysoedd
- Y gwasanaeth prawf
- Y gwasanaeth carchardai
- Y Gwasanaeth Tystion
- Cyllid a Thollau EM
- Y Swyddfa Twyll Difrifol
- Y Gweithgor Iechyd a Diogelwch
- Llysoedd ynadon a Llys y Goron
Nod
Bydd y CPS yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r heddlu, llysoedd, y Swyddfa Gartref, yr Adran Materion Cyfansoddiadol ac asiantaethau eraill ledled y System Cyfiawnder Troseddol (CJS) i leihau troseddu, ofn troseddu a’u costau cymdeithasol ac economaidd, i weinyddu cyfiawnder yn deg ac effeithlon a hybu hyder yn nhrefn y gyfraith. Nod cyffredinol y CPS, sy’n adlewyrchu blaenoriaethau’r Llywodraeth ar gyfer y Gyfundrefn Cyfiawnder Troseddol, yw:
Cyflwyno gwasanaeth erlyn o safon uchel sy’n dod â throseddwyr o flaen eu gwell, sy’n helpu i leihau troseddu a lleihau ofn troseddu, a thrwy hynny roi mwy o hyder i’r cyhoedd yn nhrefn y gyfraith trwy adolygu achosion yn gyson, teg ac annibynnol a thrwy eu cyflwyno’n deg, trylwyr a chadarn yn y llys.
Gweledigaeth y CPS
Mae’r CPS yn gweithio i fod yn awdurdod erlyn annibynnol ar lefel fyd-eang sy’n cyflwyno gwasanaeth cyhoeddus a werthfawrogir trwy:
- Gryfhau y broses erlyn er mwyn dod â throseddwyr o flaen eu gwell
- Hyrwyddo cyfiawnder a hawliau dioddefwyr
- Ennyn hyder y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu
- Ysgogi newid a chyflawni hynny yn y system cyfiawnder troseddol
- Bod ag enw da am degwch, cyfleoedd gyrfa ardderchog ac ymrwymiad a sgiliau ein holl bobl
- Bod â gallu cryf i gyflawni
