Chwilio Manwl

Rheolwyr Busnes Ardal

Mae’r rhan fwyaf o’r cyfrifoldebau am redeg yr Ardal yn effeithiol ac yn effeithlon yn nwylo’r Rheolwyr Busnes Ardal.

Mae eu dyletswyddau’n cynnwys:

  • Rheoli gwasanaethau gweinyddol ar gyfer yr Ardal Gyfan.
  • Gweithredu cynlluniau busnes Ardal, gan sicrhau cysondeb â nodau cyfiawnder troseddol.
  • Rheoli systemau a phrosesau gwaith achos i gefnogi erlyn.
  • Gweithio’n agos ag asiantaethau cyfiawnder troseddol eraill.

Mae Rheolwyr Busnes Ardal yn atebol yn uniongyrchol i Brif Erlynydd y Goron yr Ardal.