Cyflwyniad
Gwasanaeth Erlyn y Goron yw Adran y Llywodraeth sy'n gyfrifol am erlyn achosion troseddol a archwilir gan yr Heddlu yng Nghymru a Lloegr.
A ninnau'n brif awdurdod erlyn Cymru a Lloegr, rydym yn gyfrifol am:
- gynghori'r heddlu ar achosion y gellid eu herlyn.
- adolygu achosion a gyflwynir gan yr heddlu.
- Lle penderfynir erlyn, pennu unrhyw gyhuddiadau ym mhob achos heblaw am rai bach.
- paratoi achosion ar gyfer y llys.
- Cyflwyno achosion yn y llys.
Ein Gweledigaeth
Rydym yn gweithio er mwyn bod yn awdurdod erlyn annibynnol o safon fyd-eang sy'n darparu gwasanaeth cyhoeddus gwerthfawr drwy:
- Cryfhau'r broses erlyn er mwyn dod â throseddwyr i gyfiawnder: darparu gwasanaeth erlyn annibynnol, gweithio â'r heddlu o ddechrau achos i'w waredu; cynghori'r heddlu cyn cyhuddo; llunio a phrofi'r achos erlyn cryfaf posibl a chyflwyno'r achos hwnnw gerbron y llysoedd ar ran y cyhoedd.
- Bod yn bencampwr hawliau dioddefwyr: asesu anghenion dioddefwyr a thystion a'u tystiolaeth debygol o ddechrau achos ac ar hyd ei fywyd; sicrhau bod eu profiad o'r CPS a'r CJS yn eu hannog hwythau ac eraill i gyflwyno'u hun yn y dyfodol er mwyn chwarae eu rhan mewn dod â throseddwyr i gyfiawnder.
- Ysbrydoli hyder y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu: bod yn weladwy, yn agored ac yn atebol am ein penderfyniadau; bod yn ymatebol i anghenion y gymuned a darparu gwasanaeth cyhoeddus gwerthfawr; cael ein gweld fel y sefydliad sy'n penderfynu pa achosion a ddylai fynd i'r llys a sicrhau cyfiawnder i'r achosion hynny
- Gyrru newid a darparu ymlaen yn y System Cyfiawnder Troseddol: fel arweinydd hunanhyderus; dylanwadol o ran darparu cyfiawnder troseddol lleol ac o ran siapio CJS y dyfodol.
- Cael enw da am degwch, cyfleoedd gyrfa ardderchog ac ymrwymiad a sgiliau'n holl bobl: lle y bydd pawb yn cael eu trin ar sail teilyngdod; lle gall pobl o allu godi i'r uchelfannau a lle mae'n holl bobl yn cael eu hadnabod am eu hymrwymiad, eu sgiliau a'u hymroddiad i gyfiawnder.
- Bod â gallu cryf i gyflawni: drwy drawsffurfio cefnogaeth y Pencadlys i gyflawni rheng flaen; sicrhau gwerth am arian ac effeithiolrwydd i ailfuddsoddi mewn gwasanaethau erlyn rheng flaen; gwella rheolaeth costau erlyn; harneisio TG i gefnogi busnes y CPS; a darparu drwy reolaeth prosiect a rhaglen effeithiol.
