Dathlu ein llwyddiannau

Rydym am rhoi gwybod i'r cyhoedd am y gwaith ardderchog mae erlynwyr a staff yng Nghymru yn gwneud yn ddyddiol. Rydym felly yn cyhoeddi bob mis enghreifftiau o brosiectau neu achosion lle dylai gwaith unigolion gael eu dathlu.  

Rydw i yn ymfalchïo yn y gwaith bendigedig mae staff yng Nghymru yn gwneud a gobeithio wnewch gymeryd yr amser i ddarllen am rhai o'r llwyddiannau.

 

Jim Brisbane
Prif Erlynydd y Goron CPS Cymru-Wales

Ebrill 2012

 

Yr Uned Gwaith Achos Cymhleth a Thîm Adennill Asedau Rhanbarthol: Brin Hurford, Felicity Galvin, Paul Taylor, Jayne Lawlor, Catrin Evans, Kathy Loosemore, a Diane Brearley, ynghyd â Suzanne Thomas, Mandy Williams, Ann Williams a Pam Williams.

Yn ystod y mis fe roddwyd canmoliaeth sylweddol, gan gynnwys Clod Barnwr, i bartneriaeth gryf iawn rhwng y CPS a'r heddlu yng Nghymru o ran ymdrin â throsedd cyfundrefnol (ar achosion cyflenwi cyffuriau yn neilltuol) a materion yn gysylltiedig ag adennill asedau yn dilyn hynny. Trefnodd Uchel Siryf Caerdydd achlysur yn Y Plasty yng Nghaerdydd i gyflwyno a chydnabod gwaith timau'r heddlu a'r CPS. Yn fuan ar ôl cynnal y digwyddiad, fe gafodd Suzanne, Mandy, Ann a Pam lwyddiant mawr arall a arweiniodd at ddedfrydau sylweddol, sef cyfanswm o dros 130 o flynyddoedd, i dros 20 o werthwyr cyffuriau.

 

Mawrth 2012

Ymdrin yn wych ag achos emosiynol iawn

Eiriolwr y Goron David Wooler, Swyddog Paragyfreithiol Katie Perry, Tîm Gweinyddu Uned Treialon Gwent, Swyddog Gofal Tystion Sally Stock a Thîm Uned Gofal Tystion Gwent.

Dyma achos amlwg dros ben, yn gysylltiedig â threisio a llofruddio Nikitta Grender, 19 mlwydd oed a oedd yn feichiog, difa ei phlentyn yn y groth, a oedd eisoes wedi'i henwi'n Kelsey-May, a llosgi. Roedd teimladau cryfion yn lleol o ran yr achos, gyda rhai yn y gymuned yn cwestiynu pam na chafwyd dau gyhuddiad o lofruddio.

Gan wybod na fyddai deddfwriaeth dynladdiad yn gymwys i farwolaeth y plentyn heb ei eni, ond gan sylweddoli pwysigrwydd cyhuddiad ar wahân i gydnabod yr hyn a ddigwyddodd, fe wnaeth David Wooler gyhuddo'r llofrudd Karl Whant â darn o ddeddfwriaeth nad yw'n cael ei ddefnyddio'n aml o gwbl - sef trosedd Difa Plentyn, sy'n dyddio'n ôl i 1929 - yn gysylltiedig â marwolaeth Kelsey-May. Yna esboniodd yn fanwl y rhesymau dros ei benderfyniad - a'r ffaith na ellir dwyn cyhuddiadau o lofruddiaeth mewn troseddau yn erbyn plant heb eu geni - wrth y gymuned leol a'r cyhoedd trwy'r cyfryngau.

Bu'r swyddog paragyfreithiol Katie Perry, gyda chymorth tîm Gweinyddol Uned Treialon Gwent, yn gwneud pentwr o waith i gefnogi'r achos trwy'r llys mewn ffordd hollol broffesiynol. Roedd yr oriel gyhoeddus ac oriel y wasg bob amser yn llawn, a phobl yn aml yn cael eu cloi allan - gan olygu weithiau ei bod yn anodd mynd i mewn ac allan o ystafell y llys. Gyda thros 50 o dystion, roedd yr achos yn her hefyd i Sally Stock (WCO) gyda chymorth cydweithwyr yn Uned Gofal Tystion Gwent, a fu'n ymdrin â'r llwyth gwaith yn broffesiynol dros ben.

 

Chwefror 2012

Llwyddiant mewn achos ecsbloetio plant yn rhywiol

Yn Llys y Goron Casnewydd ganol Ionawr, carcharwyd Basharat Javid am bedair blynedd a thri mis ar ôl pledio'n euog i dalu am wasanaethau rhywiol plentyn a gweithgarwch rhywiol gyda phlentyn. Yr wythnos gynt, cafodd Rigobert Mudingay ddedfryd o ddwy flynedd ar ôl pledio'n euog i dalu am wasanaethau rhywiol plentyn. Bu'n rhaid i'r ddau ddyn fynd ar y gofrestr troseddwyr rhywiol hefyd.

Uned Gwaith Achosion Cymhleth Cymru fu'n ymdrin â'r achos, a oedd yn hynod gymhleth ac anodd, gan olygu bod ein tîm wedi gweithio'n agos â Heddlu Gwent, timau gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol a Gwasanaeth Seraf Barnardo's Cymru.

Gwelwyd bod y ddau ddyn wedi mynd ati'n benodol i dargedu plant a phobl ifanc agored i niwed. Bu'n rhaid i'r cyfreithydd adolygu Suzanne Thomas fod yn ymwybodol o natur sensitif yr achos yn ogystal â delio â llawer iawn o wybodaeth yn ymwneud â nifer o unigolion dan amheuaeth. Mae ymchwiliadau i rai o'r unigolion hynny yn parhau.

Oherwydd natur reibus ac ecsbloetiol y troseddau a natur agored i niwed y dioddefwyr, bu'n rhaid i  dîm y CPS weithio mewn awyrgylch hynod sensitif. Fe wnaeth ein tîm erlyn dan Adran 47 Deddf Troseddau Rhywiol 2003. Trwy lunio achos cadarn, fe gafwyd pledion euog gan y ddau ddiffynnydd, gan olygu bod y dioddefwyr yn gallu osgoi wynebu treial.

Yn dilyn y dedfrydau, dywedodd Catrin Evans, Pennaeth Uned Achosion Cymhleth Cymru: "Mae Javaid Basharat a Rigobert Mudingay yn gyfrifol am droseddau llechwraidd, ecsbloetiol na ellir eu goddef mewn unrhyw gymdeithas wâr. Rydym yn gobeithio bod y dedfrydau hyn yn ei gwneud yn hollol glir i'r rhai sy'n ceisio ecsbloetio pobl ifanc a phobl agored i niwed, y bydd yr awdurdodau erlyn yn gweithio'n ddiflinio i ddod â nhw gerbron llys."

Wrth ddedfrydu, cyfeiriodd y Barnwr at y gwahaniaeth sylweddol yn aeddfedrwydd y diffynyddion a'r dioddefwyr, gan ddweud bod Javaid a Mudingay yn rheibwyr rhywiol o ran bod y troseddau wedi'u cynllunio a hynny'n fwriadol.

Ionawr 2012

Canmol aelodau'r tîm am erlyn rhagorol

Uwch Erlynydd y Goron (SCP) Suzanne Thomas, Gweithiwr Achos Mandy Williams, SCP Grenville Barker, Cyn Bennaeth yr Uned Gwaith Achos Cymhleth (CCU) Tom Atherton, Uwch Eiriolwr y Goron Mike Jones, Cymhorthydd Paragyfreithiol Jenna Reardon a Swyddog Cefnogi Gwaith Achos CCU Ann Williams, CPS Cymru

Cafodd John Cooper ei ddyfarnu'n euog ym mis Mai 2011 o ddwy lofruddiaeth ddwbl enwog a ddigwyddodd yn Sir Benfro yn y 1980au. Ni chafodd Cooper ei ddal am flynyddoedd lawer ac fe dyfodd yr achos yn un o'r rhai mwyaf enwog yng Nghymru i beidio â chael ei ddatrys.

Bu tîm ymrwymedig o staff y CPS - Suzanne, Mandy, Grenville, Tom, Mike, Jenna ac Ann - yn gweithio'n ddiflino dros nifer o flynyddoedd i lunio achos yr erlyniad ar gyfer Ymgyrch Ottawa.

Ychydig cyn y Nadolig, fe dderbyniodd sawl aelod o'r tîm gydnabyddiaeth swyddogol am eu gwaith ar ffurf Cymeradwyaeth gan Brif Gwnstabl Heddlu Dyfed Powys, Ian Arundel.

Roedd ymchwiliadau'r heddlu a'r erlyniad wedi hynny ymhlith y mwyaf yn hanes cyfreithiol Cymru. Fe gafodd achos yr erlyniad ei ddwyn ynghyd yn ofalus ar ôl i adolygiad achos oer ddatgelu tystiolaeth fforensig newydd a arweiniodd yr heddlu at Cooper. Bu tîm y CPS yn ysgwyddo'r dasg anferth o baratoi a chyflwyno swm anhygoel o dystiolaeth.

Pan ddechreuodd y treial, roedd yr ystafell erlyn yn Llys y Goron Abertawe yn llawn ffeiliau tystiolaeth a deunydd cefndirol - sef tua phumed ran yn unig o gyfanswm y deunydd a gynhyrchwyd gan yr achos (cafodd y gweddill ei gadw mewn storfa a'i gludo i'r llys yn ôl yr angen). Yn y pen draw, fe arweiniodd yr holl waith caled at ddyfarniad euog a dedfrydu dyn i garchar am oes, er iddo barhau i wadu iddo fod yn gysylltiedig â'r troseddau mewn unrhyw ffordd.

Yn ddiweddarach fe wnaeth Gerald Elias QC, cwnsler yr erlyniad, ddisgrifio'r ymchwiliad a'r erlyniad fel "un o'r goreuon i mi ei weld yn fy ngyrfa."

Rhagfyr 2011

Carcharu Treisiwr Cyson am 18 mlynedd

Fe wnaeth yr erlynydd Kath Coleman a'r Swyddog Paragyfreithiol  Katie Perry weithio'n galed i sicrhau dedfryd hir i Edwin Smith - dyn a gyflawnodd gyfres o droseddau rhywiol difrifol dros gyfnod o 20 mlynedd, yn dyddio'n ôl cyn belled â 1985.

Roedd yr achos yn golygu gwaith hir a manwl dros ben cyn cyhuddo, rhwng y CPS ac uned troseddau rhywiol arbenigol Heddlu Gwent, Onyx. Fe dyfodd yr achos yn fwyfwy cymhleth - yn wreiddiol roedd yn seiliedig ar ddwy ddioddefwraig ond, wrth i bethau ddatblygu, daeth dwy ddioddefwraig arall i'r fei hefyd.  Yn y diwedd fe gafodd Smith ei ddyfarnu'n euog o gyflawni 13 o droseddau gan gynnwys treisio wyth o weithiau. Fe'i dedfrydwyd i 18 mlynedd yr wythnos diwethaf. Mae'r canlyniad yn tystio i waith ardderchog Kath Coleman dros y flwyddyn neu ddwy a aeth heibio yn meithrin cysylltiadau cryf â Heddlu Gwent.

Tachwedd 2011

Canlyniad cadarnhaol mewn achos cynllwynio cymhleth

Bu Eiriolwr y Goron Sandra Subacchi a'r tîm yn gweithio mewn partneriaeth agos â Heddlu Gogledd Cymru ar yr achos cymhleth hwn yn ymwneud â chynllwynio i ddwyn.

Darganfuwyd bod y diffynyddion Warner a Levey wedi bod â rhan mewn bwrgleriaeth dreisgar yn yr Wyddgrug yn 2010.  Roedd dynion â mygydau wedi mynd i gartref y dioddefwyr a bygwth eu lladd cyn eu clymu a ffoi gyda £100,000 o arian parod yn ogystal â gemwaith gwerth dros £50,000.

Daethpwyd o hyd i waed Warner ar rolyn gwag o dâp gludiog a gafodd ei ddefnyddio i glymu'r dioddefwyr. Yr achos yn erbyn Levey oedd ei fod wedi tynnu sylw Warner ac eraill at yr eiddo fel targed proffidiol posib ar gyfer lladrad, ar ôl ymweld â'r cartref tua mis ynghynt.  Fe wnaeth yr heddlu ac erlynwyr lunio achos manwl wedi'i seilio i raddau helaeth ar ddata tracio o ffôn Levey a char Warner.
Roedd gan Warner hanes o ddwyn yn y gorffennol ac fe'i dedfrydwyd i 16 mlynedd dan glo. Roedd Levey yn ddyn o gymeriad da cyn hyn, a chafodd ddedfryd o 10 mlynedd.

Hydref 2011

Achos twyll TAW heriol R v Maguire

Rhoddwyd canmoliaeth i'r Cynorthwy-ydd Paragyfreithiol Julia Burt am ei gwaith ar Ymgyrch Ukraine (R v Maguire). Canmolwyd Julia am y ffordd ardderchog y bu'n delio ag achos arbennig o heriol oedd yn ymwneud â charfan bosib o 75 o dystion.  Fe drodd Julia at yr achos ar ôl deuddydd yn unig o rybudd, pan alwyd staff eraill y CPS i ffwrdd ar fyr rybudd i weithio ar achosion yn dilyn yr anhrefn ar hyd a lled y wlad. Bu'n rhaid iddi ddelio â phethau fel amseroedd mynychu yn newid ar y munud olaf a bu'n treulio llawer o amser yn ymateb i ymholiadau gyda chwnsler yr erlyniad er mwyn gallu rhybuddio tystion i fod yn y llys. Bu hefyd yn gofalu am holl waith llungopïo'r achos, diweddaru bwndeli'r rheithgor ac unrhyw dasgau angenrheidiol eraill.

Medi 2011

Canmol cyfreithydd achos llofruddiaeth Rebecca Aylward

Roedd hwn yn achos amlwg a hynod sensitif a ddenodd deimladau cryf iawn yn lleol, mewn cymunedau bach ger Pen-y-bont ar Ogwr. Bu llawer o adroddiadau yn cyfeirio at yr achos fel llofruddiaeth "bet amser brecwast", gyda Joshua Davies a'i gyfaill yn beio'r naill a'r llall am ladd Rebecca Aylward. Bu'r cyfreithydd adolygu Richard Killick yn ymdrin â'r achos gyda sensitifrwydd mawr ac, yn y diwedd, cafodd Davies ei ddyfarnu'n euog gyda mwyafrif o 10-2 ar ôl i'r rheithgor fod yn trafod am bedwar diwrnod. Yn ddiweddarach cafodd Richard ei ganmol am ei ymdrechion yn yr achos gan y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus.

Awst 2011

Clod i gyfreithydd o'r Drenewydd am waith ar achos hanesyddol cam-drin rhywiol

Rhoddwyd clod gan Heddlu Dyfed Powys i Stephen Davies, Uwch Erlynydd y Goron, am ei waith ar achos hanesyddol ym maes cam-drin rhywiol yng nghanolbarth Cymru. Yn ôl yr heddlu: "Mae Stephen Davies i'w glodfori am lefel uchel ei ymroddiad a'i ddyfalbarhad drwy gydol ymchwiliad ac erlyniad Ymgyrch Marino. Rhoddodd Stephen gyngor ymchwiliol proffesiynol a bu'n hynod gefnogol a chadarnhaol wrth ymgymryd â'r ymchwiliad."

Delio'n broffesiynol ag aildreial cymhleth

Roedd yr achos hwn yn ymwneud â llofruddiaeth Karen Skipper yng Nghaerdydd yng nghanol y 1990au. Yn wreiddiol, rhoddwyd gŵr Karen Skipper ar brawf am ei llofruddio ond fe'i cafwyd yn ddieuog. Dyfarnwyd John Pope yn euog yn 2009, ond fe ddywedodd tyst allweddol fod ei datganiad gwreiddiol yn anghywir, ac yn dilyn hyn fe wnaeth y Llys Apêl orchymyn y dylid cynnal aildreail. Yn yr aildreial, cafodd Pope ei ddyfarnu'n euog eto. Roedd hwn yn achos hynod sensitif a gafodd ei drin yn broffesiynol iawn gan Grenville Barker o'r Uned Achosion Cymhleth, a'i fe'i canmolwyd gan Brif Erlynydd y Goron dros Gymru.